122. Evan James Williams (FRS)
Yr Athro Andrew Evans, Dr Huw Morgan

Evan James Williams (FRS)

Ganed EJ Williams yng Nghwmsychbant, Ceredigion ar 8fed Mehefin 1903, ac aeth ymlaen i weithio gyda ffisegwyr amlycaf y dydd, gan gynnwys Ernest Rutherford, James Chadwick, Lawrence Bragg a Niels Bohr.

Defnyddiwyd brasamcan Bragg-Williams i egluro oeri aloion poeth ac mae'n ddefnyddiol ar gyfer datrys llawer o broblemau mewn ffiseg ystadegol.

Gellir cymhwyso dull damcaniaethol Weizäcker-Williams ar gyfer dadansoddi gwrthdrawiadau atomig i ystod eang o sefyllfaoedd.

Ym 1938, penodwyd EJ Williams yn Gadair Ffiseg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, fel yr oedd ar y pryd, lle y parhaodd â’i astudiaethau ar ronynnau is-atomig gan ddefnyddio siambr gwmwl a lle ef oedd y person cyntaf i ganfod a thynnu lluniau o ddadfeiliad gronyn muon (µ).

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymunodd â grŵp o wyddonwyr a gafodd y dasg o ddatblygu strategaethau a seilwyd ar ystadegau i frwydro yn erbyn llongau tanfor yn yr Iwerydd, ac yn y oen draw ddod yn arweinydd grŵp. Yn anffodus, bu farw EJ Williams o ganser ar 29 Medi 1945.

Y Bywgraffiadur Cymreig – Evan James Williams

Evan James Williams

Mwy o wybodaeth

Yr Athro Andrew Evans

Dr Huw Morgan

Adran Academaidd

Adran Ffiseg

Nesaf
Blaenorol