49. Gwarchod a diogelu ffyngau glaswelltir
Yr Athro Gareth Griffith

Capiau Cwyr

Datblygodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth (PA) ddull metabarcodio DNA newydd gan ddefnyddio eDNA pridd, a’i ddefnyddio fel dull o asesu bioamrywiaeth ffwngaidd mewn cynefinoedd glaswelltir yn gyflym.

Defnyddiwyd y dull mewn cyd-destunau masnachol a chyfreithiol, gan ddarparu tystiolaeth a galluogi gwneud penderfyniadau cyflymach ar gyfer: dynodi un safle yn Birmingham yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) - y defnydd cyntaf erioed o eDNA at y diben hwn; penderfyniadau mewn pedwar cais cynllunio; a sancsiynu dau dirfeddiannwr a aeth yn groes i reoliadau defnydd tir Asesiad Effaith Amgylcheddol.

Cafodd yr ymyriadau hyn effeithiau masnachol ac amgylcheddol uniongyrchol, a gwell gwasanaeth cyhoeddus.

Sicrhawyd effaith ar ddealltwriaeth a chyfranogiad y cyhoedd trwy nifer o brosiectau gwyddor dinesydd yn hyfforddi dinasyddion-wyddonwyr mewn codau bar DNA, a rhaglenni teledu, ffilmiau ac apiau i godi ymwybyddiaeth o gadwraeth ffwngaidd.

Capiau Cwyr

Mwy o wybodaeth

Yr Athro Gareth Griffith

Adran Academaidd

Adran Gwyddorau Bywyd

Nesaf
Blaenorol