Gwylio mangrofau'r byd

 

Mae coedwigoedd mangrof ymhlith yr ecosystemau mwyaf gwerthfawr ar y blaned. Maent i’w cael ar hyd arfordiroedd trofannol ac isdrofannol, yn amddiffyn cymunedau rhag stormydd ac erydu, yn storio llawer iawn o garbon, yn cynnal pysgodfeydd, ac yn darparu cynefinoedd hanfodol i fywyd gwyllt.

Ond er gwaethaf eu pwysigrwydd, mae mangrofau yn dal i fod dan bwysau gan weithgareddau’r ddynoliaeth a newid amgylcheddol. Mae deall ble mae'r coedwigoedd hyn yn ffynnu, ble maen nhw'n diflannu, a sut maen nhw'n newid dros amser yn hanfodol er mwyn eu gwarchod.

Ers 15 mlynedd, mae Dr Pete Bunting, Darllenydd mewn Synhwyro o Bell ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn helpu'r byd i wneud hynny’n union.

Llunio darlun byd-eang o newid mewn mangrofau

Mae Dr Bunting yn un o’r rhai sy’n gyrru’r mapio sy’n cyfrannu at waith Global Mangrove Watch, prosiect cydweithredol rhyngwladol sydd wedi trawsnewid sut mae coedwigoedd mangrof yn cael eu monitro ledled y byd.

Gan ddefnyddio technoleg uwch delweddu lloerenni, deallusrwydd artiffisial a meddalwedd a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae wedi helpu i greu'r cofnod mwyaf cynhwysfawr o ecosystemau mangrofau a gynhyrchwyd erioed. Mae'r llwyfan yn darparu mapiau manwl sy'n dangos ble mae mangrofau i’w cael a sut maen nhw'n newid.

Eglura Dr Bunting:

"Mae mangrofau yn bwysig a gwerthfawr yn nhermau eu ‘gwasanaethau’ i ecosystemau, ond er gwaethaf eu pwysigrwydd ecolegol ac economaidd, maent yn dal o dan bwysau gan weithgareddau dynol a phrosesau naturiol.

"Ymhlith yr effeithiau sy'n deillio o’r ddynolryw y mae clirio coedwigoedd mangrof ar gyfer datblygiadau dyframaethu, megis ffermio berdys, ehangu tir amaethyddol ar gyfer cnydau gan gynnwys reis ac olew palmwydd, a phrosiectau seilwaith arfordirol fel adeiladu porthladdoedd. Ar yr un pryd, mae ecosystemau mangrofau yn cael eu hail-ffurfio'n ddi-baid gan brosesau arfordirol naturiol fel erydu, dyddodi gwaddodion a thraethliniau sy’n symud. Mae hyn hefyd wedi golygu bod ecosystemau mangrofau wedi ehangu’n sylweddol mewn rhai rhanbarthau."

Troi ymchwil yn gamau gweithredol

Un o llwyddiannau allweddol Global Mangrove Watch yw’r ffordd y mae wedi trosi data gwyddonol cymhleth yn offer ymarferol a ddefnyddir gan lywodraethau, sefydliadau cadwraeth a chymunedau lleol.

Yn ogystal â darparu mapiau byd-eang o arwynebau mangrofau, mae'r llwyfan yn darparu rhybuddion ar y pryd, bron, pan ganfyddir bod colledion mewn mangrofau. Mae'r rhybuddion hyn yn galluogi ymatebion cyflym i fygythiadau sy'n dod i'r amlwg, gan helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i weithredu cyn i ddifrod pellach ddigwydd.

Mae'r ymchwil wedi symud y tu hwnt i ddealltwriaeth academaidd ac wedi dod yn adnodd sy'n helpu i ddiogelu'r amgylchedd ar lawr gwlad.

Dylanwadu ar bolisi cadwraeth byd-eang

Mae effaith gwaith Dr Bunting bellach i’w gweld ar draws rhaglenni amgylcheddol a fframweithiau polisi rhyngwladol.

Defnyddir data Global Mangrove Watch gan Raglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig i helpu i gofnodi’r hyn sy’n digwydd yn ôl Dangosydd y Nod Datblygu Cynaliadwy, sy'n canolbwyntio ar amddiffyn ac adfer ecosystemau dyfrol.

Mae'r setiau data hefyd yn cael eu hymgorffori mewn llwyfannau byd-eang, gan gynnwys UN Ocean+, Global Forest Watch a Resource Watch, gan roi'r dystiolaeth i wneuthurwyr polisi, ymchwilwyr ac ymarferwyr cadwraeth i’w cynorthwyo â’u hymdrechion adfer a rheoli.

Meithrin gallu ledled y byd

Nid cynhyrchu setiau data yw unig effaith gwaith Dr Bunting. Gan weithio gyda phartneriaid mewn gwledydd sy’n cynnwys Kenya a Gwlad Thai, mae wedi helpu cyrff lleol i ddatblygu eu galluoedd monitro eu hunain.

Trwy sicrhau bod dulliau monitro uwch ar yr amgylcheddol yn fwy hygyrch, mae'r prosiect yn helpu i sicrhau bod y rhai sydd agosaf at yr ecosystemau mangrofau yn gallu chwarae rhan flaenllaw wrth eu diogelu.

Datgelu newid dros bedwar degawd

Un o'r datblygiadau diweddar mwyaf arwyddocaol yw’r set ddata newydd a luniwyd, sef Global Mangrove Watch fersiwn 4.1, sy'n darparu mapiau byd-eang fesul blwyddyn o arwynebau mangrofau rhwng 1985 a 2025.

Mae'r cofnod hwn yn golygu bod ymchwilwyr yn gallu olrhain newidiadau o flwyddyn i flwyddyn a chael dealltwriaeth lawer manylach o sut mae ecosystemau mangrofau’n ymateb i bwysau dynol a dynameg naturiol yr arfordiroedd.

Mae Dr Bunting yn esbonio:

"Mae'r set ddata flynyddol newydd yn golygu y gallwn ddeall newid mewn mangrofau’n llawer mwy manwl nag erioed o'r blaen. Mae ein dadansoddiad yn dangos, er bod colledion sylweddol wedi digwydd - y gellir priodoli tua 60% ohonynt i weithgareddau dynol - rydym hefyd wedi gweld enillion sylweddol trwy adfywio naturiol, prosiectau adfer a thrwy greu cynefinoedd arfordirol newydd."

Mae'r enillion hyn yn dod o ganlyniad i ymdrechion adfer llwyddiannus ac adfywio naturiol. Mewn llawer o leoliadau, mae gwaddodion sy'n cael eu cario i lawr yr afon o ddalgylchoedd afonydd wedi cronni ar hyd y glannau, gan greu ardaloedd newydd o dir sydd wedi cael eu cytrefu wedyn gan mangrofau.

I Dr Bunting, mae'r darganfyddiad hwn yn tynnu sylw at werth monitro hirdymor ac yn codi cwestiynau newydd pwysig am y berthynas rhwng ecosystemau arfordirol a'r dirwedd ehangach:

"Er bod yr ehangu mangrofau hwn i’w weld yn stori gadarnhaol, efallai - ac yn aml mae'r enillion hyn wedi helpu i wneud iawn am y colledion mewn mannau eraill - mae'n bwysig ystyried y cyd-destun amgylcheddol ehangach, megis o ble mae'r gwaddodion hyn yn dod, a'r goblygiadau i'r dalgylch ehangach."

"Os yw’r cynnydd mewn llwythi gwaddodion yn gysylltiedig â gweithgareddau fel datgoedwigo, mwyngloddio neu ddirywio’r tir mewn ffyrdd eraill i fyny'r afon, mae’n bosib bod yr enillion ymddangosiadol mewn mangrofau yn dod ar draul ecolegol sylweddol.  Mae deall y cysylltiadau hyn felly yn hanfodol i asesu gwir gynaliadwyedd y newidiadau yr ydym yn arsylwi arnynt."

Mae'r canfyddiadau hyn yn dangos sut mae'r cofnod blynyddol o fangrofau’n llywio cenhedlaeth newydd o ymchwil amgylcheddol. Trwy gysylltu newidiadau ar arfordiroedd â phrosesau sy'n digwydd ymhellach i fyny'r afon, mae'r gwaith yn helpu gwyddonwyr i lunio darlun llawnach am sut mae gweithgareddau dynol yn ffurfio ecosystemau ar draws tirweddau cyfan.

Effaith fyd-eang o Aberystwyth

Wrth i newid yn yr hinsawdd gyflymu ac wrth i’r pwysau ar amgylcheddau arfordirol dyfu, ni fu erioed mwy o angen am wybodaeth gywir ac amserol am ecosystemau mangrofau.

O'i swyddfa ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth, mae Dr Pete Bunting wedi helpu i greu adnodd y mae pobl ledled y byd yn ymddiried ynddo sy'n newid sut mae mangrofau yn cael eu monitro, eu diogelu a'u hadfer. Gyda chymorth technoleg lloerenni, deallusrwydd artiffisial a chydweithredu rhyngwladol, mae ei ymchwil yn darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i ddiogelu'r ecosystemau hanfodol hyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gwybodaeth Bellach

Defnyddiwch y dolenni isod i ddysgu rhagor: 

Cysylltwch â ni

Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:

ymchwil@aber.ac.uk