Deall y byd naturiol trwy gelf a gwyddoniaeth
Mae newidiadau amgylcheddol yn cael eu cyfleu fwyfwy trwy ddulliau sy'n cyfuno data gwyddonol â ffurfiau gweledol a synhwyraidd o’u cynrychioli.
Mae Dr Julian Ruddock, o'r Ysgol Gelf ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn dod â chelf a gwyddoniaeth at ei gilydd i ystyried sut mae gwybodaeth amgylcheddol yn cael ei chyfleu a'i deall. Trwy gydweithio â gwyddonwyr, mae ei waith yn datblygu ffyrdd newydd o ennyn diddordeb cynulleidfaoedd mewn newidiadau ecolegol a heriau amgylcheddol trwy gyfrwng celf.
Pontio celf a gwyddoniaeth
Mae gwaith Dr Ruddock yn anelu at weithio ar draws disgyblaethau artistig a gwyddonol. Mae gwyddoniaeth yn darparu dirnadaeth o’r byd naturiol sy’n ddadansoddol ac wedi’i gyrru gan ddata, ac mae celf yn cynnig ffyrdd eraill o ddehongli a chyfleu ei ystyr a'i bwysigrwydd i gynulleidfaoedd.
Trwy weithio gyda gwyddonwyr, gan gynnwys geomorffolegwyr ac ecolegwyr, mae'n datblygu prosiectau trwy waith maes, arsylwi ar y cyd a deialog. Mae'r cydweithrediadau hyn yn creu safbwyntiau newydd ar dirweddau a systemau ecolegol sydd dan bwysau.
Bywydau nosol adar y môr
Ar hyn o bryd mae Dr Ruddock yn gweithio gydag OxNav (The Oxford University Navigation Group), sy’n ymchwilio i sut mae anifeiliaid yn canfod eu ffordd ar draws pellteroedd enfawr.
Mae bywydau nosol adar drycin Manaw, sy'n bridio ar ynysoedd oddi ar arfordir gorllewinol Prydain, yn destun cydweithrediad trawsddisgyblaethol.
Mae'r adar môr rhyfeddol hyn yn bridio ar ynysoedd oddi ar yr arfordir, ac Ynys Sgomer ym Mharc Cenedlaethol Sir Benfro yw'r nythfa fwyaf o adar drycin yn y byd. Mae adar drycin yn mudo miloedd o filltiroedd i Dde America bob blwyddyn, gan ddychwelyd i nythu mewn tyllau neu gilfachau cudd ar yr ynysoedd bob gwanwyn i fagu eu cywion.
Mae Dr Ruddock wedi teithio i ynysoedd amrywiol ar gyrion gorllewinol Prydain ac Iwerddon, gan gynnwys Sgomer, Sgogwm ac Ynys Enlli yng Nghymru, yn ogystal â The Great Blasket yn Iwerddon, i ymchwilio i'r adar drycin a'r ynysoedd lle maent yn byw.
Mae'r tîm yn defnyddio dyfeisiau geoleoli bychain i gofnodi amser y wawr a hyd y dydd i ddarparu safleoedd, sydd yn eu tro yn datgelu llwybrau mudo’r adar.
Mae ei ymchwil yn defnyddio’r data gwyddonol hwn yn ogystal â recordiadau sain, cyfweliadau â gwyddonwyr ac arsylwadau uniongyrchol o waith maes i helpu i adrodd straeon yr adar ac ecolegau'r ynysoedd trwy gyfrwng celf.
Yn ogystal â'u sgiliau mudo a llywio, mae adar drycin Manaw yn enwog am eu cri arswydus yn y nos a ddefnyddir i adnabod eu cymheiriaid a lleoliad eu nythod yn y tywyllwch. Mae Dr Ruddock yn gweithio gyda grŵp OxNav i wneud recordiadau sain o'r adar ar Ynys Sgomer gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth a chynyddu gwerthfawrogiad o'r adar anhygoel hyn nad oes llawer o bobl yn cael y profiad o’u gweld oherwydd eu hymddygiad nosol. Er bod pobl sy’n ymweld â’r ynys yn ystod y dydd yn gweld yr olygfa gyfarwydd o balod, ychydig sy’n profi bywyd yr ynys ar ôl iddi dywyllu pan fo oddeutu 350,000 pâr o adar drycin yn dychwelyd i'w nythod dan lenni’r nos.
Fel rhan o'r prosiect, mae Dr Ruddock hefyd yn ymchwilio i waith yr awdur natur o bwys, R.M. Lockley (1903-2000) a gyflawnodd waith arloesol ar adar drycin Manaw ar ynys arall yn Sir Benfro, Sgogwm, yn y 1930au. Ysgrifennodd Lockley lyfrau arwyddocaol am fywyd gwyllt Cymru, gan gynnwys 'Letters from Skokholm' (1947), sy'n cofnodi bywyd beunyddiol ar yr ynys anghysbell hon yng Nghymru.
Bydd ymchwil Dr Ruddock yn cael ei ddatblygu i greu gweithiau celf sy'n cyfuno ffilm, sain, gosodwaith, darluniau a phaentiadau, gyda chynlluniau i gynnal arddangosfeydd mewn lleoliadau megis Oriel y Parc yn Nhyddewi ym mis Mai 2027.

Esblygiad dynol yn Ethiopia
Fel artist preswyl ar yr Hominin Sites and Paleolakes Drilling Project, bu Dr Ruddock yn gweithio ochr yn ochr â gwyddonwyr sy'n ymchwilio i esblygiad y ddynoliaeth gynnar trwy astudio creiddiau dwfn, a ddriliwyd yng ngwelyau llynnoedd, sy'n rhychwantu cannoedd o filoedd o flynyddoedd.
Roedd ei waith yn trosi data daearegol ac amgylcheddol yn ffurfiau gweledol, gan gynnig ffyrdd newydd o ddehongli tirweddau amser-dwfn a chyd-destun hinsoddol esblygiad dynol.

Newid a threftadaeth yr arfordir
Ym mhrosiect CHERISH (Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd), cydweithrediad trawsffiniol sy'n cynnwys partneriaid yng Nghymru ac Iwerddon, ymatebodd Dr Ruddock i waith archeolegwyr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) a gwyddonwyr daear ym Mhrifysgol Aberystwyth a fu’n ymchwilio i sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn ail-ffurfio treftadaeth yr arfordir.
Darparodd y prosiect gwyddoniaeth gofnod sylfaenol o safleoedd archeolegol bregus ledled arfordiroedd Cymru ac Iwerddon, gan ymdrin ag effaith gynyddol y cynnydd yn lefelau'r môr, cynnydd mewn stormydd ac erydu arfordirol.
Roedd ei ymatebion artistig yn ategu gwaith mapio gwyddonol, gan helpu i gofnodi newidiadau amgylcheddol a chyfleu eu harwyddocâd.

Tirwedd, technoleg a delweddu
Mae Dr Ruddock yn gweithio mewn amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys paentio, arlunio, ffotograffiaeth a ffilm ac roedd ei waith ar gyfer prosiect CHERISH yn cynnwys ffotograffiaeth o'r awyr a thechnegau delweddu gwyddonol fel LiDAR a delweddu thermol i ddatgelu patrymau, strwythurau a newidiadau o fewn tirweddau.
Mae ganddo ddiddordeb yn y delweddau a gynhyrchir gan dechnolegau newydd sy'n ehangu galluoedd dynol ac yn gwneud yr anweledig yn weladwy, gan ddatgelu sut mae tirweddau'n cael eu ffurfio gan yr hinsawdd, erydiad a newidiadau ecolegol, a sut mae amgylcheddau'n newid ac yn esblygu dros amser.

Newid sut mae gwybodaeth yn cael ei rhannu
Trwy arddangosfeydd mewn orielau a mannau cyhoeddus, gan gynnwys lleoliadau fel y Senedd, mae gwaith Dr Ruddock yn cyrraedd cynulleidfaoedd y tu hwnt i'r byd academaidd. Mae'n cyfleu materion fel colli bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd ac effaith gweithgarwch dynol ar ecosystemau.
Nod ei waith yw ennyn diddordeb cynulleidfaoedd a’u hannog i fyfyrio ar ein perthynas â'r amgylchedd naturiol.
Rhagor o Wybodaeth
Cysylltwch â ni
Fel Prifysgol, rydym bob amser yn awyddus i rannu ein gwybodaeth a’n harbenigedd yn ehangach er budd cymdeithas. Os hoffech ddarganfod mwy neu archwilio sut y gallwch gydweithio â’n hymchwilwyr, cysylltwch â’n tîm ymroddedig o staff yn yr Adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi. Hoffem glywed gennych. Gyrrwch e-bost at:
