Ar ôl Oriau Gwaith

Materion neu argyfyngau meddygol neu ddeintyddol

Materion neu argyfyngau meddygol neu ddeintyddol

Problemau iechyd meddwl neu argyfyngau

Problemau iechyd meddwl neu argyfyngau

  • Mewn argyfwng gallwch ffonio 999, neu fynd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Bronglais http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/41177
  • Os oes gennych Nyrs Seiciatrig Gymunedol neu gyswllt argyfwng ffoniwch nhw ar y rhifau a ddarparwyd i chi
  • Gorwellion Canolfan Gymunedol Iechyd Meddwl - Llanbadarn Rd, Aberystwyth, SY23 1HB - 01970 615448
  • Os ydych wedi cofrestru gyda phractis Meddyg Teulu lleol ffoniwch eich practis. Bydd eich galwad yn cael ei throsglwyddo i’w gwasanaeth Meddyg Teulu y tu allan i oriau. Mae manylion cyswllt practisiau Meddyg Teulu lleol ar gael drwy’r ddolen ganlynol: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/directory/gps/
  • Y SAMARIAID https://www.samaritans.org/cymru/samaritans-cymru/ 116 123 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)
    Y SAMARIAID (Llinell Gymraeg): 0808 164 0123
    • Nos Lun - 6pm - 1am
    • Nos Fawrth 7pm - 11pm
    • Dydd Mercher 2pm - 6pm and 7pm - 10pm
    • Dydd Iau 2pm - 6pm and 7pm - 1am
    • Nos Wener 7pm - 1am
    • Nos Sadwrn 3pm - 1am
    • Nos Sul 7pm - 1am
  • Os yw myfyrwyr Aberystwyth yn mynd drwy amser caled, erbyn hyn fe allant gael cymorth ar-lein am ddim gan Togetherall. P'un ydych chi'n ei chael hi'n anodd cysgu, yn teimlo'n isel, dan straen, neu'n methu ymdopi, fe all Togetherall eich helpu i gael cymorth, gafael yn yr awenau, a theimlo'n well.
  • C.A.L.L. Helpline - Mae rhadffôn 0800 132737 ar gael 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos neu ewch i'w gwefan www.callhelpline.org.uk
  • Os ydych am gysylltu gyda cwnselydd dros y cyfnod cau ewch i https://carefirst-lifestyle.co.uk/cy/ a chofrestrwch fel a ganlyn: Enw defnyddiwr: abu002 a Cyfrynair: student

Ymosodiadau Rhywiol

Am restr lawn o Ganolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARC) Llwybrau Newydd yn y Canolbarth, y Gorllewin a’r De, ewch i'r dudalen Cysylltu â ni - Llwybrau Newydd ar y we. 

Mae SARC ar gael 24/7 ac maent ar gael ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Os penderfynwch fynd at yr heddlu, byddant yn cysylltu â'r ganolfan atgyfeirio agosaf i drefnu i chi ddod i'r adeilad. Fodd bynnag, os nad oes arnoch eisiasu mynd at yr heddlu, gallwch gyfeirio'ch hun at eich canolfan atgyfeirio agosaf.

Yn ystod oriau swyddfa, 9.00am tan 5.00pm, dydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 9.00am a 4.30pm ar ddydd Gwener, ffoniwch 01685 379310, neu ffoniwch un o'r swyddfeydd lleol. Y tu hwnt i'r oriau hyn, gallwch ffonio’r llinell y tu hwnt i oriau arferol ar 07423437020.

Ystyriwch roi gwybod i'r Brifysgol am y digwyddiad

Os hoffech roi gwybod i’r Brifysgol am y digwyddiad, gallwch wneud hynny naill ai'n ddienw neu drwy roi eich manylion cyswllt ar ein llwyfan Adrodd a Chymorth ar-lein.

Os ydych yn fodlon rhoi mwy o fanylion am y digwyddiad a'ch manylion cyswllt, byddwn yn cysylltu’n ôl â chi a chewch eich cyfeirio at gymorth pellach gan ein swyddogion cyswllt sy’n arbenigo ym maes trais rhywiol ac sydd wedi cael hyfforddiant pwrpasol. Bydd y swyddogion hyn yn gallu  

  • Siarad drwy weithdrefnau Prifysgol Aberystwyth
  • Rhoi gwybod i chi sut i wneud cwyn
  • Rhowch gwybod i chi pa gefnogaeth sydd ar gael.

Cam-drin Domestig

Os ydych chi'n wynebu cam-drin domestig ac angen cymorth ar frys, gallwch gysylltu â llinell gymorth argyfwng Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru. Byddant yn gallu rhoi cyngor ichi ar yr opsiynau brys sydd ar gael i chi.

Efallai y byddwch hefyd am roi gwybod i'r Brifysgol am hyn gan ddefnyddio’r drefn Rhoi Gwybod a Chefnogaeth a bydd cynghorydd yn cysylltu â chi i drafod yr opsiynau cymorth sydd ar gael i chi.

Gallwch hefyd gael cyngor, gwybodaeth neu gefnogaeth gyfrinachol ynghylch cam-drin domestig neu drais rhywiol drwy linell gymorth Byw Heb Ofn sydd ar gael 24/7.

Os ydych yn credu bod myfyriwr ar goll

Os ydych yn credu bod myfyriwr ar goll

Marwolaeth Myfyriwr

Marwolaeth Myfyriwr

 

Clefydau Heintus/Hysbysadwy

Clefydau Heintus/Hysbysadwy

• Mewn argyfwng gallwch ffonio 999, neu ewch i Adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Bronglais http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/41177

Os ydych wedi cofrestru gyda phractis Meddyg Teulu lleol ffoniwch eich practis. Bydd eich galwad yn cael ei throsglwyddo i’w gwasanaeth Meddyg Teulu y tu allan i oriau. Mae manylion cyswllt practisiau Meddyg Teulu lleol ar gael drwy’r ddolen ganlynol: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/hafan

• Galw Iechyd Cymru 0845 4647

Angen siarad â rhywun/gofidio/hiraethus?

Angen siarad â rhywun/gofdio/hiraethus?

Pryderon ynglŷn â diogelwch plentyn/oedolyn agored i niwed

Pryderon ynglŷn â diogelwch plentyn/oedolyn agored i niwed

Os byddwch chi’n poeni fod yr unigolyn dan sylw mewn peryg ar hyn o bryd, ffoniwch yr heddlu ar 999.

Neu adroddwch eich pryderon i Gwasanaethau Cymdeithasol Ceredigion tu allan I oriau swyddfa ar Cysylltwch - Cyngor Sir Ceredigion 0300 4563554 https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cysylltwch/

 

Gwybodaeth Gyrfaoedd

I gael gwybodaeth gyrfaoedd y tu allan i oriau swyddfa, ewch i'n tudalen Cwestiynau a Ofynnir yn Aml, yma.