Gwasanaeth Cyfeirio

signpost

Weithiau gall bywyd myfyriwr deimlo fel tipyn o ddrysfa!

Dyma rai opsiynau cymorth defnyddiol y gallech gael mynediad iddynt yn ystod eich amser yn byw gyda ni:

Llinell Gymorth Prifysgol 24/7:

Tu allan i oriau swyddfa, os ar unrhyw adeg rydych angen siarad gyda rhywun, neu os oes gennych bryder a'ch bod ddim yn siŵr pwy i siarad â, gallwch gysylltu â'r Llinell Gymorth y Brifysgol 24/7 ar (01970 62) 2900.

Gwasanaeth Cyngor ac Arian:

Mae hwn yn wasanaeth cyfrinachol sy’n cynnig cyngor a chymorth ar faterion amrywiol, o broblemau llety, cynnydd academaidd a gweithdrefnau’r Brifysgol, i reoli arian a phwy sy’n gymwys am Gronfeydd Caledi.

Y Gwasanaeth Hygyrchedd:

Mae’r gwasanaeth hygyrchedd yn cynnig cyngor a gwybodaeth i fyfyrwyr anabl, i’r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor neu’r rhai sydd â gwahaniaethau dysgu penodol.

Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr:

Mae gweithwyr proffesiynol cymwys ar gael i gynorthwyo a chynghori myfyrwyr i ddatblygu sgiliau i wella eu cadernid ac i greu strategaethau cadarnhaol er mwyn eu cynorthwyo i ymdopi â sefyllfaoedd anodd. Gallant hefyd roi cyngor ar y llwybr cymorth mwyaf addas os nad yr arbenigwyr iechyd meddwl neu’r cwnselwyr ar y tîm sydd yn y sefyllfa orau i gynorthwyo.
Mae amrywiaeth o wybodaeth ddefnyddiol am sut orau i ddeall a rheoli materion lles ac iechyd meddwl amrywiol ar gael ar eu tudalennau gwe, yn ogystal â’r holl ddolenni perthnasol ar gyfer gwybodaeth mewn argyfwng, cofrestru â’r gwasanaeth neu grybwyll pryderon am fyfyriwr, platfformau ar-lein 24/7, llinellu cymorth, gwe-sgwrsio a llawer, llawer mwy. Ewch i’w tudalennau gwe i ddysgu rhagor.

Adrodd a Chymorth:

Mae Prifysgol Aberystwyth ac Undeb Myfyrwyr Aberystwyth wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith a dysgu sy’n cyfoethogi bywydau, a lle caiff pawb eu trin ag urddas a pharch. Ni fydd y Brifysgol nac Undeb y Myfyrwyr yn goddef bwlio nac aflonyddu nac unrhyw fath o ymddygiad gan ei myfyrwyr sy'n groes i urddas a pharch. Os ydych chi neu ffrind wedi profi rhywbeth sydd ddim yn iawn, neu os ydych wedi gweld rhywbeth yn digwydd ar y Campws, gallwch roi gwybod i ni ar ein system Adrodd a Chymorth newydd.  Gallwch wneud hynny’n ddienw, neu gyda’ch manylion. Bydd aelod o staff cymorth myfyrwyr yn ei drin yn gyfrinachol ac yn cysylltu â chi i gynnig cymorth a chyngor.

Mentoriaid Ffordd Hyn:

Israddedigion ail neu drydedd flwyddyn neu uwchraddedigion yw’r Mentoriaid Ffordd Hyn. Maent yn gynnig cymorth a chyngor cyfeillgar ac anffurfiol ar bob agwedd ar fywyd Prifysgol. Gallant hefyd roi cefnogaeth gyson ac iddi fwy o strwythur i fyfyrwyr newydd ar bob agwedd ar fywyd myfyriwr.

I gael gwybod sut i fanteisio ar y gwasanaethau uchod, ewch i’w tudalennau gwe.

Togetherall:

Mae cymorth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos drwy fynd i’w tudalennau gwe.

Fe fydd rhywun yno bob munud o bob dydd. Cewch ymuno â chymuned gefnogol ar-lein sy’n hollol ddienw, cymryd rhan mewn asesiad lles iechyd meddwl, cymryd rhan mewn cwrs grŵp a dilyn modiwlau hunanddatblygu.

Mae Togetherall yn ffynhonnell wych o gymorth y tu allan i'r oriau swyddfa arferol, ac mae'n golygu y gallwch gael cefnogaeth pan fydd ein gwasanaethau ni ar gau. Mae hyn yn cynnwys penwythnosau, gyda'r nos a'r tu allan i'r tymor. 

Ewch i’w tudalennau gwe a rhowch gyfeiriad eich e-bost Prifysgol Aberystwyth i ymuno - mae'n cymryd 5 munud ac fe fydd cefnogaeth ar gael i chi’n syth.

Arweinlyfr Cymunedol:

Mae Arweinlyfr Cymunedol Prifysgol Aberystwyth yn cynnig arweiniad i chi ar fyw gydag eraill mewn preswylfeydd, gall byw gyda phobl eraill yn y brifysgol fod yn brofiad gwych ac yn rhan bwysig o fywyd myfyriwr. Yma yn Aberystwyth, mae gennym garfan fawr amrywiol o fyfyrwyr sydd â ffyrdd o fyw ac arferion, arferion a diwylliannau gwahanol. Gall hwn fod yn gyfle ar gyfer datblygiad personol a thwf, yn ogystal â chwrdd â phobl a gwneud ffrindiau newydd.  Arweinlyfr Cymuned.

Undeb y Myfyrwyr:

Mae Gwasanaeth Cynghori Undeb y Myfyrwyr wedi’i leoli yn Adeilad Undeb y Myfyrwyr ar gampws Pen-glais. Gall y gwasanaeth eich helpu â nifer o faterion. Ewch i’w tudalennau gwe i ddysgu rhagor.

Asiantaethau Eraill:

Efallai yr hoffech gysylltu ag asiantaeth arall y tu allan i’r Brifysgol ar ryw adeg i gael sgwrs â rhywun a allai eich helpu:

  • Student Space – gwybodaeth am ddim dros neges destun, y ffôn ac ar-lein.
  • Mind Aberystwyth – gwefan; ffôn: 01970 626225
  • Llinell Gymorth a Gwrando’r Gymuned - gwefan; ffôn: 0800 132737; testun: ‘help’ i 81066 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos - cymorth i bobl yng Nghymru)
  • Y Samariaid – gwefan; ffôn: 116 123 (24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos)
  • Y Samariaid Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (7yh tan 11yh bob dydd)
  • Papyrus - gwefan; ffôn: 08000 684141; testun: 07786 209697 (Llun - Gwener 10yb-10yh, Penwythnosau 2yh-10yh a Gŵyl y Banc 2yh-5yh)

Cymorth Trais a Chamymddwyn Rhywiol:

Os ydych wedi profi trais rhywiol, yn ddiweddar neu rywbryd yn y gorffennol, gallwch gysylltu ag un o’n Swyddogion Cyswllt Trais Rhywiol (SCTRh). Mae staff ar gael i siarad am ba gefnogaeth sydd ar gael i chi, yn y Brifysgol a thu allan. Mae’n wasanaeth sy’n cael ei arwain gan oroeswyr ac yno i helpu gyda beth bynnag sydd angen arnoch. Gallwch ddarganfod mwy ar y tudalennau gwe canlynol - Trais Rhywiol  : Gwasanaethau Myfyrwyr , Prifysgol Aberystwyth.

GCAD

Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol - Lleol i Aberystwyth, sy'n rhoi cyngor a chymorth i'r rhai sydd â phroblem gyda sylweddau yn ogystal â chymorth i'r rhai sy'n poeni am ddefnydd rhywun arall o sylweddau. https://barod.cymru/cy/ble-i-gael-help/gwasanaethau-gorllewin/ddas-dyfed-drug-and-alcohol-service/