Iechyd Myfyrwyr

Cofrestru â Meddyg Teulu

Rhaid i fyfyrwyr sy'n byw yn Aberystwyth gofrestru â meddygfa leol o'u dewis hwy cyn gynted ag y byddant yn gwybod beth yw eu cyfeiriad newydd yn Aberystwyth. Mae hyn yn holl bwysig er mwyn sicrhau parhad gofal, yn enwedig os ydych yn cael unrhyw feddyginiaeth ar bresgripsiwn neu driniaeth arall. Os ydych wedi’ch cofrestru â meddyg teulu yng Nghymru mae gennych yr hawl i gael presgripsiynau am ddim gan fferyllwyr yng Nghymru.

Os oes gennych hanes meddygol cymhleth, gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â digon o feddyginiaeth gyda chi pan fyddwch yn cyrraedd, a chofiwch hefyd ddod â ffurflen presgripsiwn rheolaidd neu adroddiad am feddyginiaeth gan eich meddyg teulu ar hyn o bryd. Bydd hyn yn osgoi oedi ac yn sicrhau parhad eich gofal.

Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, cofrestrwch gyda Meddygfa yn Aberystwyth yn awr gan ddefnyddio'r ffurflen gofrestru ar-lein hon.

Mae gan bob meddygfa wefan sy'n esbonio'r gwasanaethau sydd ar gael yno.

Mae 3 meddygfa yn Aberystwyth: 

Dylai myfyrwyr o’r Deyrnas Unedig ddod â Chardiau Meddygol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gyda nhw. Bydd yn ddefnyddiol, ond nid yn hanfodol, i fyfyrwyr sydd â rhif GIG (h.y. myfyrwyr o'r DU neu fyfyrwyr nad ydynt yn dod o’r DU sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu o'r blaen) fod â’r rhif hwnnw wrth law pan fyddant yn cofrestru gyda meddyg teulu.

Dylai myfyrwyr sy'n dychwelyd roi gwybod i'w Meddyg Teulu beth yw eu cyfeiriad newydd.

Gweld eich Meddyg Teulu

Mae'r tair meddygfa yn y dref yn cynnig y cyfleuster e-Consult. Mae e-Consult yn galluogi Meddygfeydd Teulu'r GIG i gynnig ymgynghoriadau ar-lein i'w cleifion. Mae'r cyfleuster yn galluogi cleifion i sôn am unrhyw symptomau neu gyflwyno cais i'w Meddyg Teulu yn electronig, ac mae'n cynnig gwybodaeth hunangymorth y GIG bedair awr ar hugain y dydd. Mae hefyd yn cyfeirio cleifion at wasanaethau ac mae'n gallu gwirio symptomau.

Mae fferyllfeydd yng Nghymru yn awr yn rhan o’r cynllun anhwylderau cyffredin, lle gall eich fferyllydd roi cyngor cyfrinachol a thriniaeth am ddim (ar gyfer 26 o anhwylderau cyffredin) heb ichi orfod gwneud apwyntiad i weld eich meddyg teulu. Os teimlwch fod angen ichi weld meddyg teulu, gofynnir i gleifion ffonio’r feddygfa a chânt eu cyfeirio at y driniaeth fwyaf addas.

Gwladolion o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)/y Swistir

Bydd myfyrwyr sy’n wladolion o'r AEE/y Swistir a ddechreuodd eu cyrsiau cyn 31 Rhagfyr 2020 yn parhau’n gymwys i ddefnyddio gwasanaethau'r GIG yn rhad ac am ddim trwy gydol cyfnod eu cyrsiau. Serch hynny, dylech ofyn i’ch gwlad breswyl am Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC) cyn ichi ddod i'r Deyrnas Unedig er mwyn dangos eich bod yn gymwys i gael triniaeth iechyd am ddim. Ewch i wefan y Comisiwn Ewropeaidd i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am gerdyn EHIC. RHYBUDD - Mae'r cerdyn EHIC ar gael am ddim. Sicrhewch eich bod yn defnyddio gwefan swyddogol fel na fyddwch mewn peryg o ddefnyddio gwefan a allai godi ffi arnoch.

Myfyrwyr rhyngwladol

O 1 Ionawr 2021, bydd angen i wladolion o’r tu allan i’r DU, gan gynnwys myfyrwyr o’r AEE a’r Swistir, sy’n dod yma i astudio am chwe mis neu ragor dalu Gordal Iechyd Mewnfudo pan fyddant yn gwneud cais am fisa. Os ydych chi  wedi talu Gordal Iechyd Mewnfudo, byddwch yn gymwys i dderbyn triniaeth am ddim drwy'r GIG yn union fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig.

Cynghorir myfyrwyr yr UE i wneud cais am gerdyn EHIC o’u gwledydd cartref, cyn teithio i’r DU, oherwydd gallai hyn roi hawl ichi wneud cais am ad-daliad llawn neu rannol o’r Gordal Iechyd Mewnfudo.

Bydd angen i wladolion o'r tu allan i'r DU sy'n dod yma i astudio am lai na chwe mis ac nad ydynt wedi talu Gordal Iechyd Mewnfudo drefnu yswiriant meddygol preifat a fydd yn ddilys trwy gydol eu cyfnod yn y Deyrnas Unedig.

Bydd angen i aelodau teulu myfyrwyr nad ydynt yn teithio i'r Deyrnas Unedig ar fisa dibynnydd hefyd drefnu yswiriant meddygol preifat a fydd yn ddilys drwy gydol eu cyfnod yn y Deyrnas Unedig, gan na fyddant o bosib yn gymwys i gael triniaeth am ddim ar y Gwasanaeth Iechyd.

Yr imiwneiddiadau a argymhellir

Cafwyd cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf yn nifer yr achosion o rai afiechydon heintus ymhlith myfyrwyr. I'ch diogelu eich hun ac eraill, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn argymell eich bod wedi cael y pigiadau atgyfnerthu diweddaraf canlynol, a hynny'n ddelfrydol cyn ichi gyrraedd: llid yr ymennydd (MenACWY), MMR (y frech goch, clwy'r pennau a'r frech Almaenig), diptheria, polio, tetanws a Feirws Papiloma Dynol (HPV).

GIG Datganiadau i'r wasg - At sylw myfyrwyr - A yw brechu ar eich rhestr o bethau i'w gwneud?

Dylai myfyrwyr o wledydd lle ceir llawer o achosion o TB gael eu brechu rhag TB. Darganfyddwch pa wledydd sydd â llawer o achosion o TB.

Brechlyn MenACWY (pobl ifanc yn eu harddegau a myfyrwyr prifysgol newydd sy’n iau na 25)

Mae nifer yr achosion o lid yr ymennydd a septisemia (gwenwyniad gwaed) a achosir gan facteria Men W ar gynnydd, a hynny yn sgil straen sy’n arbennig o farwol. Mae risg uchel i bobl ifanc yn eu harddegau hŷn a myfyrwyr sy’n dod i’r brifysgol am y tro cyntaf gael eu heintio, a hynny oherwydd eu bod yn tueddu i fyw mewn cyswllt agos ag eraill mewn llety a rennir, megis neuaddau preswyl prifysgol.

Mae myfyrwyr prifysgol newydd yn cael cynnig brechlyn MenACWY (os nad ydynt wedi’i gael eisoes yn rhan o’r rhaglen mewn ysgolion) er mwyn gwella’u diogelwch rhag clefyd meningococaidd grŵp W (MenW). Mae brechlyn MenACWY yn diogelu rhag pedwar clefyd gwahanol sy’n achosi llid yr ymennydd a septisemia, sef clefydau meningococaidd (Men) A, C, W ac Y.

Dylai’r rheini nad ydynt eisoes wedi cael y brechlyn gysylltu â’u meddyg teulu er mwyn cael eu brechu cyn gynted â phosibl. Mae pobl ifanc yn dal i allu cael y brechlyn hyd y byddant yn 25 oed ac yn ddelfrydol dylid cael y brechlyn o leiaf bythefnos cyn cychwyn yn y brifysgol.

Meddyginiaeth reolaidd

Os oes cyflwr iechyd cronig arnoch chi, sicrhewch eich bod yn dod â digon feddyginiaeth gyda chi i bara mis ac ystyriwch sut y byddwch yn storio eich meddyginiaeth ac yn gwaredu â chyfarpar (e.e. EpiPen) yn ddiogel. Cysylltwch â'n Gwasanaeth Hygyrchedd i gael cyngor drwy ffonio 01970 621761/01970 622087 neu e-bostiwch hygyrchedd@aber.ac.uk.

Cynghorir myfyrwyr rhyngwladol i:

  • wneud yn siŵr bod y feddyginiaeth rydych ei hangen ar gael trwy edrych ar wefan y GIG neu trwy chwilio ar Google
  • fod yn ymwybodol y bydd gan feddyginiaeth enw brand gwahanol yn y DU weithiau, ond yr un feddyginiaeth ydyw mewn gwirionedd
  • fod yn ymwybodol mai dim ond drwy wasanaethau eilaidd yn y wlad hon y mae rhai meddyginiaethau ar gael, felly efallai y bydd yn rhaid i feddygon teulu (Meddygon gofal sylfaenol) gyfeirio myfyrwyr at wasanaethau eilaidd am rai meddyginiaethau, a gallai hyn arwain at oedi wrth gael gafael ar y feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch.
  • ddod â digon o feddyginiaeth gyda chi, cyflenwad un i ddau fis, i osgoi problemau os bydd oedi

COVID-19 a chlefydau heintus/trosglwyddadwy eraill

Rydym yn parhau gyda rheolaethau risg er mwyn  diogelu myfyrwyr rhag y coronafeirws a chlefydau heintus/trosglwyddadwy eraill drwy'r defnydd o gyfundrefnau awyru a glanhau. Mae'n ofynol felly i chi aros adref os ydych yn teimlo'n sâl.

Os ydych wedi cymryd prawf Covid a'i fod yn dangos eich bod yn bositif, cymerwch gamau ymarferol i helpu i leihau lledaeniad yr haint. Felly, rhowch wybod i gysylltiadau agos megis ffrindiau a theulu ac os ydych chi'n teimlo'n sâl cymerwch yr amser sydd ei angen arnoch i orffwys. Dyma'r cyngor y byddem yn ei roi hefyd ar gyfer afiechydon eraill megis y ffliw.

Canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19 | LLYW.CYMRU

Os ydych yn amau bod gennych glefyd heintus arall megis y Frech Goch neu Meningococcal Septicaemia (Meningitis) gofynnwch am gyngor gan eich meddyg teulu neu NHS Direct ar unwaith a chysylltwch â'r tîm Cyngor ac Arian  o fewn  Adran Gwasanaethau Myfyrwyr ar y cyfle cyntaf.