Beth yw'r Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG)?

Caiff BMG ei gydlynu gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd ac mae'n galluogi myfyrwyr israddedig ar gyrsiau gradd 3 blynedd i ymgymryd â lleoliad diwydiannol rhwng Blwyddyn 2 a Blwyddyn 3.

I ddarganfod mwy, edrychwch ar dudalen we BMG a'r daflen ffeithiau BMG. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn trafod BMG yn fanylach gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd, naill ai yn eich adran neu drwy drefnu apwyntiad cyfarwyddyd, er mwyn sicrhau eich bod yn deall gofynion a goblygiadau cymryd rhan yn BMG.