gyrfaoeddABER a Gweithgareddau
gyrfaoeddABER yw’ch porth ar-lein i’n holl wasanaethau a gweithgareddau, a llawer mwy, megis:
- Rhaglen o weithgareddau gan gyflogwyr – archebwch le ar y porth
- Cyfres gynhwysfawr o weminarau datblygu gyrfa a sgiliau – archebwch le ar y porth
- Cronfa ddata o dros 7,000 o gyfleoedd gwaith o bob lliw a llun led-led y byd
- Apwyntiadau gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd
- System ymholiadau i ymateb i’ch holl gwestiynau
- Cynlluniau blwyddyn mewn gwaith, integredig ai peidio, a lleoliadau
- Adnoddau a gwybodaeth i’ch helpu i ddewis a chynllunio’ch gyrfa
Mewngofnodwch wrth ddefnyddio’ch enw defnyddiwr a chyfrinair prifysgol. Os ydych wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth, gallwch parhau i ddefnyddio gyrfaoeddABER. Welwch ein dudalen Graddedigion am fwy o manylion ar sut i gofrestru ar gyfer gyrfaoeddABER.
Cewch fraslun byr o’r system gyrfaoeddABER ar ein fideo .
Bellach mae’r mwyafrif o’n gweithdai yn cael eu cynnig fel gweminarau, boed rheiny’n fyw neu wedi eu recordio, gan gynnwys recordiadau o bigion o’n gweminarau byw yn dilyn rhai o’r sesiynau hynny. Gwelwch beth sydd ar gynnig isod, a weler ein cylchlythyr misol hefyd am y digwyddiadau diweddaraf.
Gweminarau Datblygu Gyrfa a Sgiliau - Byw
Gweminarau Gyrfa a Sgiliau 2023
Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu cyfres o weminarau'n fyw drwy Microsoft Teams (drwy gyfrwng Saesneg) i hybu eich sgiliau cyflogadwyedd yn ystod y cyfnod heriol hwn. Hyd pob gweithdy yw tua 30 munud gyda sesiwn holi ac ateb 10 munud. Mae lleoedd yn gyfyngedig felly archebwch eich lle ar www.aber.ac.uk/gyrfaoeddABER
Gwanwyn 2023
1af Chwefror, 10yb - Sut i wneud cais am swyddi a phrofiad gwaith - Y cwbl sydd angen i chi ei wybod am ymgeisio am swyddi a lleoliadau i raddedigion, a sut i roi'r cyfle gorau posib i chi'ch hun i gyrraedd y rhestr fer.
7fed Chwefror, 11yb - Sgiliau Cyflwyno - Mae cyflogwyr graddedigion yn aml yn gofyn am sgiliau cyfathrebu a chyflwyno da. Bydd y weminar hon yn edrych ar y camau y gallwch eu cymryd i lunio a rhoi cyflwyniad effeithiol.
13 Chwefror, canol dydd - Sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau - Bydd y weminar hon yn eich helpu i baratoi ar gyfer cyfweliadau, a chewch ddysgu am yr hyn i'w ddisgwyl yn eich cyfweliad, y mathau o gwestiynau a allai godi ac awgrymiadau da i'ch helpu chi eu hateb yn effeithiol.
15fed Chwefror, 11yb - Sut i ddarganfod interniaethau a brofiad gwaith - Bydd y weminar hon yn rhoi cipolwg i chi ar dechnegau ac adnoddau i'ch helpu i ddod o hyd i interniaethau a phrofiad gwaith o bell.
2il Mawrth, canol dydd - Canolfannau asesu - Ymunwch â ni yn y weminar hon i ddarganfod beth mae canolfan asesu yn ei olygu o safbwynt cyflogwr.
6ed Mawrth, 2yp - A ddylwn i wneud cwrs Meistr? - Mae’r sesiwn addysgiadol hon yn archwilio’r rhesymau dros astudio ar lefel gradd Meistr, sut mae hyn yn gweddu i’ch meddylfryd gyrfa chi, ynghyd â chanllawiau ymarferol ar y broses ymgeisio.
9fed Mawrth, 11yb - Sut i Rwydweithio - Dysgwch sut a pham y dylech ddechrau creu cysylltiadau, sut i rwydweithio'n effeithiol a llawer o awgrymiadau ymarferol eraill ar sut i greu cysylltiadau defnyddiol. Byddwn hefyd yn trafod sut y gall cael mentor roi hwb i'ch cynlluniau gyrfaol a sut rydych yn meddwl am eich gyrfa.
15fed Mawrth, 11yb - Sut y gallwch weithio yn y Sector Gwyrdd - Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i Strategaeth Sero Net erbyn 2050. Ymunwch â'r gweithdy hwn i gael gwybod rhagor am leoliadau gwaith, swyddi i raddedigion a darpar gyflogwyr yn y maes.
23ain Mawrth, canol dydd - Sut i ddod o hyd i waith gyda chwmnïau a
busnesau bach - Bydd y weminar hon yn ystyried sut beth yw gweithio i fusnes bach yn hytrach na sefydliad mwy. Bydd hefyd yn edrych ar ofynion penodol cyflogwyr graddedigion llai o ran sgiliau.
26ain Ebrill, 6yp - Sut i greu eich swydd eich hun - Bydd y weminar hon yn edrych ar hunangyflogaeth a gweithio llawrydd fel llwybrau gyrfa amgen yn hytrach na gweithio mewn sefydliad. Bydd hefyd yn cynnwys manylion am sut mae Prifysgol Aber yn cynorthwyo myrwyr a graddedigion entrepreneuraidd.
Gall y dyddiadau a’r amseroedd newid felly cofiwch edrych ar gyrfaoeddABER i gael y wybodaeth ddiweddaraf ac i archebu'ch lle.
Recordiadau Gweminarau Datblygu Gyrfa a Sgiliau
Cynigiwn gyfres o weminarau wedi eu recordio fel y gallwch cael gafael arnynt pan fo hynny'n gyfleus i chi. Gweler isod am y rhestr gyflawn. Byddwn yn recordio pigion a phrif negeseuon rhai o'n gweminarau byw hefyd, felly dewch 'nol yn gyson i weld beth sydd wedi ei ychwanegu! Sylwer fod recordiadau gweminar yn yr iaith y cyflwynwyd y gweminar yn wreiddiol.
Gwanwyn 2023
Sut y gallwch weithio yn y Sector Gwyrdd - Mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i Strategaeth Sero Net erbyn 2050. Ymunwch â'r gweithdy hwn i gael gwybod rhagor am leoliadau gwaith, swyddi i raddedigion a darpar gyflogwyr yn y maes.
Sut i ddarganfod interniaethau a brofiad gwaith - Bydd y weminar hon yn rhoi cipolwg i chi ar dechnegau ac adnoddau i'ch helpu i ddod o hyd i interniaethau a phrofiad gwaith o bell.
Sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau - Bydd y weminar hon yn eich helpu i baratoi ar gyfer cyfweliadau, a chewch ddysgu am yr hyn i'w ddisgwyl yn eich cyfweliad, y mathau o gwestiynau a allai godi ac awgrymiadau da i'ch helpu chi eu hateb yn effeithiol.
Sgiliau Cyflwyno - Mae cyflogwyr graddedigion yn aml yn gofyn am sgiliau cyfathrebu a chyflwyno da. Bydd y weminar hon yn edrych ar y camau y gallwch eu cymryd i lunio a rhoi cyflwyniad effeithiol.
Weminarau Hydref 2022
Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith – Dysgwch fwy am fanteision mynd ar leoliad gwaith a sut mae wedi helpu myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun.
LinkedIn 2, defnyddio LinkedIn i rwydweithio ac ymchwilio swyddi – Bydd y sesiwn ryngweithiol hon yn dangos sut i ddefnyddio LinkedIn i ddatblygu eich rhwydwaith broffesiynol, cysylltu â chyflogwyr ar-lein a dod o hyd i gyfleoedd am swyddi.
Gweithio dramor – popeth sydd angen i chi ei wybod am fanteisio ar gyfleoedd i fyfyrwyr a graddedigion dramor – Bydd y sesiwn yn edrych ar gyfleoedd i weithio mewn gwledydd eraill a’r adnoddau gorau i’ch helpu i ddod o hyd i leoliadau a rolau i raddedigion dramor.
ABER+ Cyfweliadau a datgelu – Gall cyfweliadau fod yn heriol, yn enwedig os ydych chi’n fyfyriwr anabl. Bydd y sesiwn hon yn eich cynorthwyo i baratoi ar gyfer cyfweliadau, gan gynnwys gofyn am addasiadau a sut i ateb cwestiynau mewn cyfweliad.
ABER+ Ymgeisio am gynlluniau graddedigion/lleoliadau os oes gennych chi anabledd – Gall deimlo’n frawychus i ymgeisio am gynlluniau graddedigion ac yn fwy fyth felly os oes gennych chi anabledd. Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i fynd ati a llywio drwy’r gwahanol gamau wrth ymgeisio am gynlluniau graddedigion.
ABER+ Datgelu ac Addasiadau - Bydd y sesiwn hon yn trafod hawliau myfyrwyr anabl yn y broses recriwtio, ac yn cwmpasu Deddf Cydraddoldeb 2010, sut i ddatgelu a sut i ofyn i gyflogwyr am addasiadau.
CV, Creu offeryn recriwtio dynamig - Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ysgrifennu dogfen farchnata gadarnhaol wedi’i hanelu at gyflogwyr yn amlinellu eich sgiliau trosglwyddadwy, ymgeisio am swyddi a chael eich gosod ar restr fer ar gyfer cyfweliad.
Trafod Cynlluniau Graddedigion – Bydd y gweminar hwn yn edrych ar Gynlluniau Graddedigion; beth maen nhw’n ei gynnig; sut i ymgeisio i ymuno â nhw.
Paratoi ar gyfer Ffeiriau Gyrfaoedd - Mae'r gweminar hwn yn rhoi cipolwg ar ffeiriau gyrfaoedd ynghyd ag awgrymiadau defnyddiol ar baratoi’n effeithiol.
LinkedIn - Llunio eich proffil - Bydd y sesiwn hon yn eich tywys drwy’r broses o lunio eich proffil LinkedIn gan gynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen i ddechrau arni.
Gwneud cais am swyddi rhan-amser yn Aberystwyth - Awgrymiadau a chyngor ar ddod o hyd i swyddi rhan-amser yn lleol a gwneud cais amdanynt.
Gwneud cais an swydd ddysgu/gwneud cais am gwrs TAR - Bydd y sesiwn hon yn eich tywys trwy eich dewisiadau o ran hyfforddiant athrawon, y broses ymgeisio a sut i fynd ati i ysgrifennu eich datganiad personol.
Weminarau Gwanwyn 2022
Weithio i fusnes bach - Bydd y weminar hon yn ystyried sut beth yw gweithio i fusnes bach yn hytrach na sefydliad mwy. Bydd hefyd yn edrych ar ofynion penodol cyflogwyr graddedigion llai o ran sgiliau.
Canolfannau Asesu - Darganfod beth mae canolfan asesu yn ei olygu o safbwynt cyflogwr yng nghwmni Jamie Wharfe, Arbenigwr Denu Talent yn Enterprise Rent a Car. Yn y sesiwn ryngweithiol hon, byddwn yn rhannu awgrymiadau ymarferol ac awgrymiadau ar werthu eich sgiliau'n effeithiol yn yr amgylchedd hwn.
Sut i rwydweithio - Dysgwch sut a pham y dylech ddechrau creu cysylltiadau, sut i rwydweithio'n effeithiol a llawer o awgrymiadau ymarferol eraill ar sut i greu cysylltiadau defnyddiol. Byddwn hefyd yn trafod sut y gall cael mentor roi hwb i'ch cynlluniau gyrfaol a sut rydych yn meddwl am eich gyrfa.
Sut i baratoi ar gyfer cyfweliadau - Bydd y weminar hon yn eich helpu i baratoi ar gyfer cyfweliadau sydd ar y gweill, a chewch ddysgu am yr hyn i'w ddisgwyl yn eich cyfweliad, y mathau o gwestiynau a all godi ac awgrymiadau da i’ch helpu chi eu hateb yn effeithiol.
A ddylwn i wneud cwrs Meistr? - Mae’r sesiwn addysgiadol hon yn archwilio’r rhesymau dros astudio ar lefel gradd Meistr, sut mae hyn yn gweddu i’ch meddylfryd gyrfa chi, ynghyd â chanllawiau ymarferol ar y broses ymgeisio.
Aber+ Sgiliau Cyflwyno - Bydd y weminar hon yn eich helpu hefo chyngor ar cyflwyno'n effeithiol.
Sut i wneud cais am swyddi a phrofiad gwaith - Y cyfan sydd angen i chi ei wybod am ymgeisio am swyddi a lleoliadau i raddedigion, a sut i roi’r cyfle gorau posib i chi’ch hun i gyrraedd y rhestr fer.
Sut i ddod o hyd i interniaethau a phrofiad gwaith o bell - Bydd y weminar hon yn rhoi cipolwg i chi ar dechnegau ac adnoddau i’ch helpu chi i ddod o hyd i interniaethau a phrofiad gwaith o bell.
Sesiynau gyda Chyflogwyr
Digwyddiadau Cyflogwyr
Mae mynychu digwyddiad cyflogwr yn ffordd ardderchog o gael gwybodaeth am fyd gwaith yn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol y diwydiant. Mae hefyd yn gyfle amhrisiadwy i feithrin eich hyder wrth gwrdd â chyflogwyr, a datblygu sgiliau pwysig megis ymwybyddiaeth fasnachol a rhwydweithio. Mae llawer o wahanol fformatau digwyddiadau, a rhywbeth i bawb!
Os ydych yn fyfyriwr neu'n raddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth, ewch i adran 'digwyddiadau' gyrfaoeddABER yn rheolaidd i gael manylion am yr holl ddigwyddiadau sydd ar y gweill.
Entreprenwriaeth a Menter
Erioed wedi ystyried cychwyn busnes eich hunan?
Heb ystyried gallai hunan-gyflogaeth fod yn opsiwn?
Fe synnech faint o sectorau gwaith sydd bellach yn chwilio am bobl sy'n fodlon fod yn fwy creadigol yn y modd maent yn gweithio. Mae gweithio'n llawrydd yn opsiwn naturiol erbyn hyn, ac o fewn galwediagaethau tu hwnt i'r celfyddydau creadigol a pherfformio traddodiadol, megis cyfrifiadureg, peirianneg, yr amgylchfyd, gwyddorau anifeiliaid a cheffylau, addysg, ieithoedd modern, ymchwil, a llawer mwy.
Cewch llawer mwy o wybodaeth am weithredu mewn dull entreprenwraidd ac yn fentergarol, a'r gefnogaeth sydd ar gynnig ichi i wenud hyn, ar ein tudalen we AberPreneurs.
eFentora
Defnyddiwch ein system eFentora i ddod o hyd i raddedigion sydd yn barod wedi troedio'r llwybrau sydd o'ch blaen. Cewch gyngor a gwybodaeth un-i-un gan rheiny sydd wedi llwyddo yn y swyddi a'r sectorau sydd o ddiddordeb ichi.
Felly, mynwch gyngor pellach ar ddatblygu rhwydwaith effeithiol a chofrestru ar ein system eFentora.