Graddedigion

Croeso! A wyddoch fod ein gwasanaethau yn agored i chi gydol oes? Waeth pryd gwnaethoch raddio mae’n gwasanaethau yma i’ch helpu.

gyrfaoeddABER yw’n porth ar-lein sy’n eich galluogi i gysylltu â ni yn hawdd, chwilio am gyfleoedd gwaith, trefnu cyfarfod gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd, gwirio ein oriau galw heibio (ar-lein yn unig ar hyn o bryd), a llawer mwy. Am fwy o wybodaeth ar sut i gofrestru a mewngofnodi i gyrfaoeddABER fel fyfyriwr graddedig, cliciwch y blwch gyrfaoeddABER isod.

Rhaglen Gymorth i Baratoi am Yrfa (GBY)

Rhaglen Gymorth i Baratoi am Yrfa (GBY)

Ydych chi’n fyfyriwr graddedig o 2022 neu 2023, a fyddai'n hoffi cael cymorth ychwanegol i gael swydd? Efallai eich bod yn ddi-waith ar hyn o bryd, neu mewn swydd nad yw’n gofyn am radd, ac eisiau cymorth â'r camau nesaf?

Gallwn gynnig cymorth 1:1 i raddedigion diweddar a allai fod yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth chwilio am swydd (yn amodol ar fodloni’r meini prawf cymhwysedd). Trwy gyfrwng y Rhaglen, gallwn helpu i roi hwb i'ch sgiliau, eich hyder, a'ch pwyslais ar eich gyrfa.

Gall ein cynghorwyr GBY gadw mewn cyswllt rheolaidd â chi, eich helpu i drefnu profiad gwaith, a hwyluso gweithgareddau wedi'u teilwra i wella eich cyflogadwyedd. Gyda'n gilydd, gallwn benderfynu ar y dull gorau o'ch helpu ar eich taith i gyflogaeth raddedig.

Os hoffech wybod mwy, cliciwch ar y ddolen isod: Rhaglen Gymorth i Baratoi am Yrfa a/neu anfonwch e-bost atom yn rhaglengby@aber.ac.uk ac fe fyddwn ni mewn cysylltiad â chi.

Mewngofnodi i gyrfaoeddABER

Os ydych wedi bod yn defnyddio porth gyrfaoeddABER fel myfyriwr yn Aber, dylech:

1) fewngofnodi drwy'r mewngofnodi Myfyriwr cyn i'ch cyfrif Ebost myfyriwr @aber.ac.uk ddod i ben, yna;

2) Newid eich cyfeiriad e-bost o fewn y system i’ch un personol. 

3) Ar ôl hynny, dylech fewngofnodi gan ddefnyddio'r mewngofnodi i Raddedigion a dilyn yr opsiwn Wedi anghofio eich cyfrinair?

 Os cewch unrhyw anhawster, neu os hoffech i ni newid eich cyfeiriad e-bost ar eich rhan, anfonwch e-bost at gyrfaoedd@aber.ac.uk

Os nad ydych wedi mewngofnodi i borth gyrfaoeddABER i ddiweddaru’ch proffil hefo’ch e-bost personol cyn graddio, yna i gael mynediad i’r porth fydd angen i chi dewis yr opsiwn 'Mewngofnodi graddedigion' ar y dudalen mewngofnodi, yna 'Cofrestru', fel y dangosir.

Ar ôl i ni gymeradwyo eich cofrestriad newydd, bydd gennych fynediad i'n holl wasanaethau, adnoddau a chefnogaeth ar-lein. Unwaith eto, anfonwch e-bost at gyrfaoedd@aber.ac.uk os gallwn gynorthwyo mewn unrhyw ffordd.

Cofiwch bod cymorth pellach ar ein gwefan, gyda thudalennau’n cynnig adnoddau ac awgrymiadau o bob math. Mae’r tudalennau Gwybodaeth Pwnc Penodol yn fan cychwyn ardderchog.

Ansicr pa gymorth gallwn ei gynnig? Mae’r tudalen Myfyrwyr Cyfredol yn cynnwys rhestr o’n gwasanaethau. Gallwch barhau i ddefnyddio'r rhain i gyd fel graddedigion.

Rhaglen Gymorth i Baratoi am Yrfa (GBY)

Beth yw'r Rhaglen Gymorth i Baratoi am Yrfa?

Mae’r Rhaglen Gymorth i Baratoi am Yrfa i graddedigion diweddar, a allai fod yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth chwilio am swydd raddedig, am amrywiaeth o resymau.

Drwy ymuno â'r Rhaglen, gallwch gael cyngor a chymorth 1:1 wedi’i deilwra, i roi hwb i’ch sgiliau, eich hyder a'ch cyflogadwyedd.  Byddwn yn asesu lle rydych chi arni yn eich taith gyrfa, ac yna'n darparu rhaglen cam wrth gam wedi'i theilwra’n benodol ar eich cyfer, i’w rhoi ar waith ar eich cyflymder chi.  Gyda'n gilydd gallwn adolygu’ch cynnydd yn rheolaidd ac awgrymu gweithgareddau pellach. 

Gall y rhain gynnwys pob un o'r canlynol:

  • Adolygiadau rheolaidd gydag un o cynghorwyr Cymorth i Baratoi am Yrfa
  • Cyngor ac arweiniad manwl ar yrfaoedd gan Ymgynghorydd Gyrfaoedd
  • Dysgu a datblygu proffesiynol a phersonol drwy gweithdai a weminarau byw ac wedi’u recordio
  • Adnoddau gyrfaoedd ar-lein
  • eFentora gyda gweithiwr proffesiynol o fyd diwydiant neu gyn-fyfyriwr o Aber
  • Cymorth gan fentergarwyr a thîm AberPreneurs os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn hunangyflogedig, gweithio ar eich liwt eich hun neu ddechrau busnes newydd.
  • Cymorth i drefnu profiad gwaith e.e. drwy ein cynllun ABERymlaen
  • Digwyddiadau "Cwrdd â'r Proffesiynol" mewn maes gyrfa o'ch diddordeb
  •  

Pwy sy’n gymwys i ymuno â’r rhaglen?

  • Ydych chi’n fyfyriwr graddedig 2022 neu 2023 ac yn bodloni un neu fwy o'r meini prawf cymhwysedd isod? Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’r grwpiau hyn fel rhai sydd wedi'u tangynrychioli yn ystadegol neu'n fwy tebygol o brofi rhwystrau i gyflogaeth raddedig. Sylwch nad oes angen tystiolaeth ategol ar gyfer unrhyw un o'r categorïau:
  • Rwy'n anabl 
  • Rwy'n niwrowahanol (gallai hyn gynnwys pethau fel dyslecsia, dyscalcwlia, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd/Anhwylder Diffyg Canolbwyntio, Dyspracsia/Anhwylder Cydlynu Datblygiadol, Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig, Anhwylder Gorfodol Obsesiynol)
  • Mae gen i broblemau iechyd meddwl (gallai hyn gynnwys pethau fel gorbryder ac iselder)
  • Rwyf wedi ymddieithrio oddi wrth fy nheulu
  • Rwyf wedi gadael gofal
  • Mae gennyf gyfrifoldebau gofal neu ofal plant
  • Rwy'n LHDTC+
  • Rwy’n dod o gefndir Du a/neu Leiafrif Ethnig
  • Rydw i'n ffoadur neu'n geisiwr lloches
  • Rwy'n dod o ardal lle nad oes llawer o bobl ifanc yn mynd ymlaen i addysg uwch [1]
  • Rwy'n dod o ardal a restrir ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) [2]
  • Rwy’n dod o deulu incwm isel [3]
  • Fi yw'r person cyntaf yn fy nheulu i fynd i'r brifysgol
  • Astudiais trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Rydw i'n dod o leiafrif crefyddol
  • Rydw i'n dod o gymuned Teithwyr
  • Rwy'n gyn-filwr
  • Cefais fy magu gan aelod o'r teulu yn y lluoedd arfog

 

Diddordeb mewn ymuno?

Os yw'r Rhaglen hon o ddiddordeb i chi, neu os hoffech gael mwy o wybodaeth cyn i chi benderfynu, e-bostiwch y Tîm Cymorth i Baratoi am Yrfa ar rhaglengby@aber.ac.uk.  Gallwch hefyd glicio ar DIGWYDDIADAU yn gyrfaoeddABER i weld gweithdai diweddaraf y Rhaglen Gymorth i Baratoi am Yrfa a digwyddiadau cyffredinol yn ymwneud â Gyrfaoedd.  Edrychwn ymlaen at glywed gennych!

 

[1] Gwiriwch eich cod post cartref ar wefan y Swyddfa Fyfyrwyr. Os bydd eich cod post yn dangos '1' neu '2' yn 'POLAR 4 Young participation quintile' rydych chi’n dod o ardal cyfranogiad isel.  Gallwn eich helpu i wirio hyn os ydych yn ansicr.

[2] Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALIC) yw’r dull swyddogol gan Lywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru.

[3] Diffinir incwm isel fel incwm blynyddol sydd 60% yn is nag incwm gwario canolrifol aelwydydd yn y DU. Roedd hyn yn £31,400 yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2021, yn seiliedig ar amcangyfrifon o Arolwg Cyllid Aelwydydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS). Felly, 60% yn is na £31,400 yw £18,840 y flwyddyn.