Canllaw Rheoli Eich Arian

 

Sut i gyllidebu, bwyta'n dda, a gwneud i'ch arian fynd ymhellach ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae cyrraedd y brifysgol yn gyffrous ond gall rheoli eich arian am y tro cyntaf fod braidd yn frawychus. Mae'r canllaw hwn yma i'ch helpu i reoli eich arian o'r diwrnod cyntaf ac i'ch helpu i beidio â phryderu. Mae Aberystwyth yn un o’r trefi mwy fforddiadwy ymysg trefi Prifysgol y Deyrnas Unedig, a chyda rhywfaint o gynllunio gallwch fwynhau eich amser yma fel myfyriwr heb orfod pryderu am bob ceiniog. 

Y rheol aur: gwybod faint o arian sy'n dod i mewn, gwybod faint sy'n mynd allan, a chael cynllun ar gyfer y ddau. Bydd popeth arall yn dilyn. 

 

Hanfodion Cyllidebu

Gwybod eich incwm 

Cyn i chi allu gosod cyllideb, mae angen i chi wybod faint o arian fydd gennych chi. Mae'n debygol mai eich prif incwm fel myfyriwr yw: 

  • Benthyciad myfyriwr (benthyciad cynhaliaeth gan Gyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr/Yr Alban/Gogledd Iwerddon)
  • Cyfraniadau gan rieni neu deulu, os yn berthnasol
  • Bwrsariaethau, ysgoloriaethau
  • Enillion o waith rhan-amser 

Caiff benthyciadau cynhaliaeth eu talu mewn tri rhandaliad fel arfer — ar ddechrau pob tymor. Mae hwn yn fanylyn pwysig: bydd eich arian yn glanio mewn cyfandaliadau, nid yn wythnosol. Mae angen i chi ei wneud iddo bara. 

Beth yw'r drefn o ran Taliadau Rhent y Brifysgol 

  • Rydych chi wedi sefydlu cynllun talu cyn symud i'r brifysgol
  • Pan fyddwch chi’n derbyn eich llety ac yn cwblhau eich pecyn trwydded, rydych chi'n dewis/cadarnhau cynllun talu
  • Caiff y cynllun hwn wedyn ei ddefnyddio'n awtomatig am weddill y flwyddyn 
  • Caiff taliadau eu cymryd yn awtomatig oddi ar eich cerdyn (taliadau cylchol).
  • Telir y rhent mewn 3 rhandaliad (nid yn fisol). Mae'r rhain fel arfer yn cyd-fynd ag amser taliadau'r benthyciad myfyrwyr.  

CYNGOR: Ar y diwrnod y bydd eich benthyciad yn cyrraedd, gadewch rent y tymor ac un mis o gostau byw yn eich cyfrif cyfredol a throsglwyddwch y gweddill i gyfrif cynilo. Gallwch drin yr hyn sy'n weddill fel arian gwario — nid y cyfandaliad cyfan. 

Cynllunio Cyllideb Wythnosol 

Y ffordd fwyaf ymarferol i gyllidebu yw trosi popeth yn ffigur wythnosol. Dyma dempled i'w addasu i'ch amgylchiadau eich hun yn seiliedig ar eich trefniadau llety. Nodwch eich rhifau gwirioneddol — a byddwch yn onest. 

Eitemau cyllideb  

Wythnosol (isel) 

Wythnosol (canolig) 

Wythnosol (uchel) 

Llety (neuadd prifysgol, hunanarlwyo) 

£124 

£150 

£196 

Bwyd a diod (coginio yn y cartref) 

£30 

£40 

£55 

Eitemau'r cartref/ pethau ymolchi 

£5 

£8 

£12 

Ffôn symudol 

£5 

£10 

£20 

Golchi dillad 

£3 

£5 

£8 

Teithio (o fewn Aber / teithiau achlysurol) 

£5 

£10 

£20 

Cymdeithasol / adloniant 

£10 

£20 

£40 

Llyfrau a deunyddiau astudio 

£5 

£8 

£12 

Dillad / amrywiol 

£5 

£8 

£15 

CYFANSWM (amcangyfrif wythnosol) 

~£192 

~£259 

~£378 

Mae'r tabl uchod yn defnyddio ffigurau 2026/27. Mae eich incwm wythnosol gwirioneddol o’r benthyciad cynhaliaeth yn amrywio yn ôl incwm y cartref a lleoliad eich astudiaeth — nodir yr union swm ar eich llythyr dyfarniad. Yn 2026/27, uchafswm y benthyciad cynhaliaeth ar gyfer myfyrwyr Cyllid Myfyrwyr Lloegr sy'n astudio oddi cartref yw  £10,227 y flwyddyn. Yn 2026/27 cyfanswm cymorth uchaf Cyllid Myfyrwyr Cymru yw £12,590. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod yr union ffigur cyn i chi gynllunio. 

Cadwch gofnod wythnosol 

Ar ddiwedd pob wythnos, cymerwch bum munud i nodi'r hyn y gwnaethoch chi ei wario yn erbyn eich cynllun. Nid yw'n golygu bod yn grintachlyd — mae'n golygu deall eich arferion eich hun, er mwyn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus. 

Bydd rhai wythnosau yn fwy drud (Wythnos y Glas, trip adref, pryd pen-blwydd). Mae hynny'n iawn, os yw'r wythnosau eraill yn cydbwyso hynny. 

Llety — Eich Traul Fwyaf

Bydd rhent yn mynd â mwy o'ch cyllideb nag unrhyw beth arall, felly mae'n haeddu'r sylw mwyaf. Y newyddion da: Mae llety Prifysgol Aberystwyth yn llawer rhatach nag yn y rhan fwyaf o ddinasoedd eraill Prifysgol y Deyrnas Unedig, ac yn rhatach na'r rhan fwyaf o'r llety preifat yn Aber hefyd. Os bydd amgylchiadau annisgwyl yn codi, mantais Llety'r Brifysgol yw y cewch chi gefnogaeth i wneud newidiadau a datrys unrhyw broblemau, ac ni chewch eich clymu i gontract 52 wythnos. 

Neuaddau Prifysgol 2026/27 — Ffioedd Swyddogol 

Cadarnheir yr holl ffigurau gyda chyfraddau 2026/27 gan Brifysgol Aberystwyth. Mae holl ffioedd y neuadd yn cynnwys cyfleustodau (gwresogi, trydan, dŵr), Wi-Fi, yswiriant cynnwys personol, ac aelodaeth o'r Ganolfan Chwaraeon — nid oes biliau cudd. 

Neuadd / Llety 

Math 

Cyfradd Wythnosol 

Cost Flynyddol 

Nodiadau 

Cwrt Mawr 

Hunan-arlwyo, safonol 

£124 

£4,839 

Cytundeb 39 wythnos 

Cwrt Mawr E 

Hunan-arlwyo, safonol 

£129 

£5,027 

Cytundeb 39 wythnos 

Trefloyne 

Hunan-arlwyo, safonol 

£124 

£4,839 

Cytundeb 39 wythnos 

Pentre Jane Morgan 

Hunan-arlwyo, ystafell enswît 

£146 

£5,709 

Cytundeb 39 wythnos 

Rosser 

Hunan-arlwyo, ystafell enswît 

£156 

£6,074 

Cytundeb 39 wythnos 

Fferm Penglais 

Hunan-arlwyo, ystafell enswît 

£196 

£7,849 

Contract 40 wythnos; rhannau Cymraeg ar gael 

Fferm Penglais Stiwdio 

Hunan-arlwyo, stiwdio 

£216 

£8,629 

Contract 40 wythnos; yr opsiwn mwyaf annibynnol 

Pantycelyn 

Gyda phrydau bwyd, ystafell enswît 

£229 

£7,558* 

33 wythnos yn unig; cyfrwng Cymraeg; *gan gynnwys lwfans bwyd o £ 2,226 

Rosser (ôl-raddedig) 

Hunan-arlwyo, ystafell enswît 

£172 

£8,620 

Contract 50 wythnos; ôl-raddedig 

*Mae cost flynyddol Pantycelyn yn cynnwys rhagdaliad lwfans prydau o £2,226.35, sy'n cynnwys bwyd yn y neuadd fwyta. Mae'r gost net ar gyfer llety yn unig yn is nag yr awgrymir yn y ffigwr pennawd. 

CYNGOR: Fel myfyriwr israddedig newydd, sicrheir lle ichi mewn llety prifysgol os byddwch chi’n gwneud cais erbyn 1 Medi 2026. Gwnewch gais yn gynnar — mae'r neuaddau mwyaf poblogaidd a fforddiadwy yn llenwi'n gyflym. 

Beth sydd wedi'i gynnwys yn ffioedd y neuadd? 

Dyma lle mae neuaddau prifysgol yn dangos gwerth gwirioneddol dda. Yn ogystal â'ch ystafell wely, byddwch yn cael: 

  • Yr holl gyfleustodau — dim biliau ynni annisgwyl
  • Wi-fi cyflym ym mhob rhan o'r llety
  • Yswiriant cynnwys personol (arbediad o £50-£150 y flwyddyn o'i gymharu â rhentu'n breifat)
  • Aelodaeth y Ganolfan Chwaraeon (gwerth tua £180 y flwyddyn)
  • Derbynfa gyda staff 24/7 a chefnogaeth ar y campws
  • Dim ffioedd asiantaeth gosod, dim anghydfodau cysylltiedig â blaendal 

Pan fyddwch chi'n cymharu gwir gost rhentu preifat — rhent a biliau yn ogystal â ffioedd yswiriant a ffioedd asiantaeth — mae neuaddau prifysgol yn gystadleuol ym mhob ffordd. 

Llety i Fyfyrwyr Rhyngwladol 

Rhoddir llety am ddim ar y campws am un flwyddyn academaidd i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n talu ffioedd, gan helpu i hwyluso'r newid i fywyd prifysgol. Mae'n bwysig nodi bod y math hwn o gymorth yn cael ei gyfyngu i flwyddyn gyntaf yr astudiaeth yn unig fel arfer, ac ar ôl hynny bydd costau llety neu gostau byw safonol yn berthnasol. Dylai myfyrwyr felly gynllunio eu cyllidebau yn ofalus ar gyfer y blynyddoedd dilynol.  

Rhentu Preifat yn Aberystwyth 

Mae llawer o fyfyrwyr yn symud i dai preifat yn eu hail flwyddyn, gan rannu gyda ffrindiau fel arfer. Prisiau ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026/27 yn nhref Aberystwyth: 

  • Ystafell mewn tŷ a rennir (biliau heb eu cynnwys): £118 - £140/wythnos fel arfer
  • Ystafell gyda phecyn biliau hollgynhwysol: £130 - £160/wythnos fel arfer
  • Ystafell enswît mewn tŷ a rennir: £130-£160/wythnos fel arfer
  • Fflat stiwdio (unig ddeiliadaeth, pob bil): £180 - £250/wythnos fel arfer 

Mae llety i'w rentu'n breifat fel arfer yn para 39 -51 wythnos, yn aml yn cynnwys misoedd yr haf pan fyddwch chi o bosib wedi gadael Aberystwyth. Yn wahanol i’r neuaddau, mae'r biliau ar wahân oni bai eich bod yn dewis pecyn hollgynhwysol — cofiwch am nwy, trydan, dŵr, a band eang, all ychwanegu £20 - £40 yr wythnos y pen. 

Ardaloedd tai myfyrwyr: Mae North Parade a Rhodfa Fuddug yn cynnig tai mwy eu maint i rannu; mae siopau a bywyd cymdeithasol canol y dref o fewn cyrraedd yn gyfleus; Ffordd Penglais sydd agosaf at y campws. Dechreuwch chwilio o fis Ionawr ymlaen ar gyfer y mis Medi canlynol — mae eiddo da mewn ardaloedd poblogaidd yn mynd yn gyflym. 

CYNGOR: Wrth edrych ar eiddo preifat, byddwch yn ymwybodol: pa filiau sy'n cael eu cynnwys, pwy sy'n trin atgyweiriadau, beth yw cynllun blaendal y landlord, ac a oes ffi asiant gosod. Sicrhewch fod popeth yn cael ei gytuno'n ysgrifenedig cyn i chi lofnodi. Gall Tîm Undeb y Myfyrwyr roi cyngor ar gontractau. 

Asiantau gosod defnyddiol yn Aberystwyth: Aberletting.com, Padarn Property, CBW Property Management, 1 Stop Lettings, a Philip Evans Estates. Gallwch hefyd edrych ar Rightmove, Zoopla, a rhestrau llety sector preifat y brifysgol ei hun.

Bwyd — Bwyta'n Dda, Gwario Llai

Cost wirioneddol cyfleustra 

Mae archebu bwyd — pizza neu tecawê ar ap  —  yn costio £12 - £18 fel arfer ar ôl ichi gynnwys y ffi gwasanaeth a'r tip. Mae pryd parod o archfarchnad yn costio £3 - £5. Gall pryd cyfwerth wedi'i goginio gartref gostio £1.50 – £3 y pen.  

Gall cael tecawê  ar y penwythnos gyda'ch ffrindiau fod yn rhan o fywyd myfyriwr. Daw'n broblem pan ddaw archebu prydau a phrydau parod yn ddigwyddiad rheolaidd yn hytrach na'r eithriad. Mae tri phryd wedi'i archebu yr wythnos yn costio hyd at £100 - £200 y mis — arian allai dalu am hanner eich rhent. 

Siopa clyfar 

Y sgil bwysicaf yw siopa gyda rhestr, wedi'i seilio ar gynllun prydau ar gyfer yr wythnos i ddod. Mae'n yn swnio'n amlwg, ond mae'r rhan fwyaf o orwario ar fwyd yn digwydd pan fydd pobl yn crwydro mewn archfarchnad heb gynllun, yn prynu'r hyn sy'n edrych yn apelgar, ac yna'n archebu tecawê amser swper am nad oes dim "yn mynd gyda'i gilydd". 

  • Cynlluniwch eich prydau bwyd ar gyfer yr wythnos cyn i chi siopa — saith swper, saith cinio, brecwast
  • Ysgrifennwch restr a chadwch ati
  • Gwnewch un prif drip i brynu bwyd yr wythnos yn hytrach na llawer o dripiau bach dyddiol (sy'n cynyddu'r costau'n gyflym)
  • Prynwch y pethau sylfaenol ym mrand yr archfarchnad ei hun - does fawr o wahaniaeth gyda phethau fel pasta, reis, tomatos tun, neu geirch
  • Mae llysiau wedi'u rhewi yr un mor faethlon â rhai ffres, yn rhatach, ac yn para'n hirach
  • Dysgwch goginio swm mwy o fwyd ar yr un pryd — mae un pot o chili neu saws bolognese yn gwneud pedwar pryd o fwyd. 

Archfarchnadoedd yn Aberystwyth: Lidl (y gwerth gorau ar gyfer siopa wythnosol), Morrisons, Tesco, M&S (ar gyfer danteithion!). Mae siopau/cigyddion lleol yn wych ar gyfer cynnyrch ffres ac organig.  

CYNGOR: Edrychwch ar Save the Student (savethestudent.org) a Student Beans i gael canllawiau arbed arian, codau disgownt, ac adnoddau cymharu archfarchnadoedd. Mae gwefan MoneySavingExpert (moneysavingexpert.com) hefyd yn ardderchog ar gyfer cyngor cyllidebu i fyfyrwyr. 

Nodyn ar becyn bwyd yn ginio 

Mae Tamed Da yn cynnig pryd poeth wedi'i wneud yn ffres bob dydd am £4.  Mae gwneud pecyn bwyd gartref yn ginio yn costio ceiniogau o'i gymharu: gellir gwneud brechdan, ffrwyth, a rhywbeth i'w yfed am lai na £1.50 os ydych chi'n prynu'n ddoeth. 

Mae fflasg dda, wedi'i inswleiddio hefyd yn golygu y gallwch chi fynd a chawl neu weddillion cinio'r noson flaenorol gyda chi — yn llawer gwell na phryd bwyd am £4 pan fydd hi'n bwrw glaw, ac rydych chi rhwng darlithoedd. 

Cynlluniau Prydau Wythnosol 

Mae'r ddau gynllun wythnosol canlynol — un yn cynnwys cig a physgod, un llysieuol — wedi'u cynllunio i fod yn syml, yn flasus ac yn rhad. Does dim angen treulio mwy na 30 munud ar y rhan fwyaf ohonynt a defnyddir offer sylfaenol. Mae pob cynllun wedi'i lunio o amgylch yr egwyddor o goginio rhywfaint yn ychwanegol amser swper er mwyn gwneud pecyn bwyd y diwrnod canlynol. 

Cynllun A: Safonol (gan gynnwys cig a physgod) 

Diwrnod 

Brecwast 

Pecyn bwyd 

Swper 

Byrbrydau 

Llun 

Uwd gyda banana 

Brechdan caws a salad + afal 

Cyw iâr wedi'i dro-ffrio gyda reis 

Llond llaw o gnau 

Maw 

Tost a menyn pysgnau 

Gweddill y llysiau wedi'u tro-ffrio mewn wrap 

Pasta gyda saws tomato a thiwna 

Iogwrt 

Mer 

Wyau wedi'u sgramblo ar dost 

Brechdan diwna a mayo + creision 

Chilli con carne gyda reis 

Ffrwyth 

Iau 

Granola a llaeth 

Gweddill y chilli mewn pitta 

Taten bob gyda ffa a chaws 

Bara ceirch 

Gwen 

Tost a jam 

Cawl o fflasg + rhôl 

Byrgyrs cartref gyda salad 

Bisgedi 

Sadwrn 

Brecwast wedi ei goginio 

Brechdan BLT 

Cyw iâr rhost gyda llysiau 

Ffrwyth 

Sul 

Crempogau gyda ffrwythau 

Gweddillion 

Cawl wedi'i goginio'n araf + bara 

Iogwrt 

CYNGOR Dyblwch y chilli, y pryd wedi'i dro-ffrio, neu'r saws pasta a rhewi ei hanner. Fe fyddwch yn ddiolchgar iawn amdano ar nos Fercher brysur. 

Cynllun B: Llysieuol 

Diwrnod 

Brecwast 

Pecyn bwyd 

Swper 

Byrbrydau 

Llun 

Uwd gyda banana 

Wrap hwmws gyda llysiau rhost + afal 

Cyri ffacbys a sbigoglys gyda reis 

Llond llaw o gnau 

Maw 

Tost a menyn pysgnau 

Gweddill y cyri gyda bara fflat 

Pasta gyda saws tomato a llysiau rhost 

Iogwrt 

Mer 

Wyau wedi'u sgramblo ar dost 

Cawl corbys mewn fflasg + rhôl 

Taten bob gyda chaws a ffa pob 

Ffrwyth 

Iau 

Granola a llaeth 

Brechdan gaws a phicl + creision 

Llysiau wedi'u tro-ffrio gyda nwdls 

Bara ceirch 

Gwen 

Tost a jam 

Gweddill y llysiau wedi'u tro-ffrio mewn wrap 

Byrgyrs llysiau cartref gyda salad 

Bisgedi 

Sadwrn 

Brecwast llysieuol wedi'i goginio 

Bagel caws hufen + salad 

Bolognese corbys gyda phasta 

Ffrwyth 

Sul 

Crempogau gyda ffrwythau 

Gweddillion 

Chilli pwmpen cnau menyn a ffa + reis 

Iogwrt 

CYNGOR: Mae coginio pot mawr o dhal corbys neu saws pasta tomato ar y penwythnos yn eich paratoi ar gyfer dau neu dri phryd hawdd yn ystod yr wythnos. Ychwanegwch wahanol lysiau neu sbeisys i wneud gwahanol brydau. 

Rhestr Siopa Wythnosol (ar gyfer 1 person am tua £35 - £45) 

Mae'r rhestr hon yn cynnwys yr eitemau hanfodol ar gyfer y ddau gynllun bwyd. Mae yna eitemau y bydd angen eu prynu ar ddechrau'r tymor yn unig ac ychwanegu atynt yn ôl yr angen.  Addaswch faint y pryd yn unol â'ch archwaeth a does dim angen prynu'r eitemau sydd gennych chi eisoes. 

Ceirch / uwd 

Bara (wedi'i sleisio) 

Wyau (6 -12) 

Llaeth (2 litr) 

Menyn 

Menyn pysgnau 

Jam / marmalêd 

Caws (bloc) 

Iogwrt (pot mawr) 

Tomatos tun (x4) 

Ffacbys tun (x2) 

Tiwna tun (x2) 

Ffa pob tun (x2) 

Pasta sych (500g) 

Reis (1kg) 

Corbys coch (500g) 

Nwdls (pecyn) 

Ciwbiau stoc 

Cyw iâr (brest neu gluniau) 

Briwgig cig eidion neu friwgig llysieuol 

Pys rhew 

Corn melyn rhew 

Moron 

Nionod/Winwns 

Garlleg 

Tatws 

Brocoli 

Sbigoglys (bag) 

Tomatos 

Bananas 

Afalau 

Ffrwythau tun (wrth gefn) 

Olew olewydd 

Saws soi 

Powdr cyri 

Naddion chili 

Cwmin /sbeis cymysg 

Halen a phupur 

Blawd (bag bach) 

Granola / grawnfwyd 

Bara crimp / bara ceirch 

Hwmws 

Cawl (tuniau, wrth gefn) 

Hylif golchi llestri 

Bagiau bin 

 

 

 

Amcangyfrif o gyfanswm neges bwyd wythnosol: £35 - £45, yn dibynnu ar ddewisiadau cig a ble rydych chi'n siopa. Mae Lidl yn tueddu i fod yn rhatach ar gyfer nwyddau sych; mae gan Morrisons ddewis da o frandiau cynnyrch ffres. 

I gael ryseitiau i'ch ysbrydoli ar gyllideb myfyriwr: https://www.savethestudent.org/save-money/food-drink, mae adran ryseitiau myfyrwyr BBC Good Food, a sianel YouTube fwyd SORTED gyd yn lleoedd gwych i gychwyn. 

 

Gostyngiad Myfyrwyr 

Gall myfyrwyr gael mynediad at amryw o ostyngiadau trwy wasanaethau fel UNiDAYS, Student Beans a TOTUM. Mae’r llwyfannau rhad yma yn cynnig gostyngiadau ar siopa, bwyd, teithio, technoleg ac adloniant. 

Cymdeithasau Myfyrwyr a Gwirfoddoli 

Gall cymryd rhan mewn prosiectau gwirfoddoli a chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr fod yn rhan werthfawr a boddhaus o fywyd myfyrwyr yn Aberystwyth, ond mae'n bwysig ystyried y costau cysylltiedig wrth gynllunio'ch cyllideb. Mae'r rhan fwyaf o gymdeithasau'n gofyn am ffi aelodaeth fach, a gall cymryd rhan hefyd olygu talu am offer, tripiau neu ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal, mae angen yswiriant damwain bersonol neu yswiriant "ar/oddi ar y campws" ar lawer o weithgareddau, sydd fel arfer yn costio tua £6 y flwyddyn trwy Undeb y Myfyrwyr. Er bod y costau hyn yn gymharol isel, gallant gronni'n gyflym, felly mae'n werth eu hystyried ochr yn ochr â'ch costau byw sylfaenol. Os gallwch chi ei fforddio, mae ymuno â chymdeithas neu wirfoddoli yn cael ei annog yn gryf: mae'n cynnig cyfleoedd gwych i wneud ffrindiau, datblygu sgiliau newydd, gwella'ch CV, a chefnogi'ch lles, gan ei wneud yn fuddsoddiad gwerth chweil yn eich profiad yn y brifysgol a'ch cyflogadwyedd yn y dyfodol. 

Sgamiau a thwyll

Mae sgamiau a thwyll yn risg gynyddol i fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig y rhai sy'n newydd i reoli eu cyllid eu hunain neu sydd wedi symud i wlad newydd. Mae sgamiau cyffredin yn cynnwys negeseuon e-bost neu negeseuon testun gwe-rwydo, cyswllt ffug gan y banc neu'r brifysgol, twyll llety, a chynigion swydd neu daliadau ffug.  

Gall twyllwyr fod yn ddarbwyllol iawn, gan ddefnyddio manylion personol fel eich enw, rhif ffôn, neu wybodaeth am eich pasbort weithiau, a gallant esgus bod yn sefydliadau dibynadwy. Gallai myfyrwyr rhyngwladol gael eu targedu'n benodol gyda honiadau am broblemau gyda'u statws mewnfudo, gydag iaith frawychus am ganslo fisa neu allgludo i roi pwysau arnoch chi i wneud taliadau brys trwy gardiau rhodd neu wasanaethau trosglwyddo arian. 

Byddwch yn amheus bob amser o gyswllt annisgwyl, peidiwch byth â rhannu na chadarnhau gwybodaeth bersonol, a pheidiwch â gwneud taliadau mewn ymateb i geisiadau annisgwyl. Os ydych chi'n ansicr, rhowch y gorau i'r ohebiaeth a gofynnwch am gyngor gan wasanaethau cymorth y brifysgol, fel Cynghorydd Myfyrwyr Rhyngwladol, a all eich helpu i adrodd am y digwyddiad a chadw'n ddiogel. 

Cyrraedd Adref — Cymharu Costau Teithio

Mae Aberystwyth dref yn gymharol anghysbell yn y Deyrnas Unedig — nid oes traffordd gerllaw a dim trên uniongyrchol i Lundain. Ond mae yna opsiynau da er mwyn teithio adref dros y gwyliau, ac mae trefnu tocynnau'n gynnar yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r gost. 

Cymhariaeth trên a bws 

Mae'r holl brisiau isod yn brisiau mynegol ymlaen llaw ar gyfer 2025/26 a byddant yn amrywio yn ôl dyddiad, amser, a pha mor bell ymlaen llaw rydych chi'n archebu. Ewch i Trainline, National Rail, neu wefan y gweithredwr yn uniongyrchol i weld y prisiau cyfredol bob amser. 

Cyrchfan 

Tocyn trên ymlaen llaw 

Tocyn bws ymlaen llaw 

Amser y daith 

Cyngor 

Caerdydd 

o ~£ 17 

o ~£ 10 (Mid Wales Travel)) 

Trên ~4 awr; Bws ~4 awr 10 munud 

Bws yw'r rhataf yn aml; 2 fws uniongyrchol y dydd drwy TrawsCymru/Mid Wales Travel 

Birmingham 

o ~£ 15 

o ~£ 15 (National Express) 

Trên ~4 awr; Bws ~4 awr 

Mae'r ddau opsiwn yn gystadleuol; mae'r trenau'n newid yn yr Amwythig 

Manceinion 

o ~£ 20 

o ~£ 19 (National Express) 

Trên ~4.5 awr; Bws ~7 awr 15 munud 

Mae'r trên yn llawer cyflymach; rhaid archebu'r tocyn cynnar ymlaen llaw 

Llundain 

o ~£24 

o ~£10 (National Express / Megabus) 

Trên ~4 awr 40 mun; Bws ~8 awr 

Mae'r bws yn rhatach ond mae'r daith yn hir; gall prisiau Megabus fod yn isel iawn os archebir yn gynnar 

Prynu tocynnau trên yn ddoeth 

  • Archebwch docynnau ymlaen llaw cyn gynted ag y byddant ar werth — 12 wythnos cyn teithio fel arfer
  • Defnyddiwch Gerdyn Rheilffordd 16 -25 (£30 y flwyddyn) er mwyn cael traean oddi ar y rhan fwyaf o brisiau tocynnau; mae'n talu am ei werth yn gyflym.
  • Caiff y myfyrwyr blwyddyn gyntaf israddedig amser llawn sy'n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2026 hawlio Cerdyn Rheilffordd 16 -25 am ddim am flwyddyn fydd yn cynnig traean y pris oddi ar docynnau rheilffordd ledled y DU.
  • Gall tocynnau wedi'u rhannu arbed arian ar deithiau hirach — prynwch docynnau ar wahân ar gyfer Aberystwyth i'r Amwythig a'r Amwythig i Lundain, weithiau am lai nag un tocyn (defnyddiwch SplitMyFare.co.uk neu TrainSplit.com)
  • Mae teithio ar adegau tawel (gan osgoi oriau prysur y bore a gyda'r nos o ddydd Llun i ddydd Gwener) yn llawer rhatach fel arfer
  • Trafnidiaeth Cymru (TrC) sy'n rhedeg prif lein Aberystwyth; mae'r gwasanaethau'n gofyn am o leiaf un newid — yr Amwythig neu Birmingham fel arfer — ar gyfer y rhan fwyaf gyrchfannau Lloegr 

Bws: arafach ond yr opsiwn rhataf yn aml 

Mae National Express yn rhedeg bysiau uniongyrchol o Aberystwyth i Birmingham a Llundain bob dydd. Mae Megabus hefyd yn rhedeg trenau i Lundain trwy Gaerdydd, gyda chynigion arbennig a all fod yn rhad iawn os archebir ymhell ymlaen llaw. Yr amser yw'r cyfaddawd — mae mynd i Lundain ar y bws yn cymryd 8 awr — ond i'r rhai sy'n teithio yn ystod y gwyliau heb frys, mae'n wirioneddol yn arbed arian. 

Mae bysiau TrawsCymru (T1, T2, T5) yn cysylltu Aberystwyth â chyrchfannau ar draws canolbarth a gorllewin Cymru, gan gynnwys Caerfyrddin a Bangor. Mae'r rhain yn rhan o rwydwaith cymorthdaledig Llywodraeth Cymru ac yn cynnig gwerth da iawn am arian i deithio'n rhanbarthol. 

CYNGOR: Cofrestrwch ar gyfer Cerdyn Pobl Ifanc National Express (£12.50 y flwyddyn) i gael traean oddi ar bris tocynnau bws — yn debyg i bob pwrpas i'r cerdyn rheilffordd ond ar gyfer bysiau. 

Teithio o gwmpas Aberystwyth 

O fewn Aber ei hun, mae bron popeth sydd ei angen arnoch o fewn pellter cerdded — mae'r dref yn un fach. Mae'r campws 15 -20 munud ar droed o'r rhan fwyaf o'r neuaddau, gyda bryn serth i fyny o'r dref. Mae bysiau'n rhedeg yn rheolaidd i fyny Bryn Penglais i'r campws i'r rhai y mae'n well ganddynt beidio â cherdded. Mae beic ail-law yn fuddsoddiad da ar gyfer teithiau hirach o amgylch y dref. 

Adnoddau Defnyddiol - Cymorth ariannol yn Aberystwyth 

Gwasanaeth Cyngor, Gwybodaeth ac Arian (https://www.aber.ac.uk/cy/studentservices/money/

Cyllid Myfyrwyr, Cyllidebu, a grantiau caledi i fyfyrwyr sydd mewn trafferth. Ffôn: 01970 621761 E-bost: cynghorydd-myfyrwyr@aber.ac.uk  

Swyddfa Ffioedd Myfyrwyr: ffioedd@aber.ac.uk / 01970 622043 - ar gyfer cynlluniau talu ac ymholiadau ffioedd 

Gwasanaeth Cyngor Undeb Myfyrwyr Aberystwyth (umaber.co.uk/cyngor) — cyngor annibynnol ar gontractau, cyllid a hawliau 

Canllawiau arian ar-lein 

savethestudent.org — cyngor cynhwysfawr ar gyllidebu, bwyd ac arian yn benodol i fyfyrwyr 

moneysavingexpert.com/students — y canllaw diffiniol i gyllid myfyrwyr, benthyciadau a bargeinion 

studentmoneysaver.co.uk — codau disgownt ac awgrymiadau ar arbed arian 

Archebu teithiau 

nationalrail.co.uk a trainline.com — cymharu prisiau ac amseroedd trenau 

trainsplit.com — teithiau wedi eu rhannu er mwyn lleihau costau'r daith 

nationalexpress.com — tocynnau bws 

megabus.co.uk — gwasanaethau bws rhad 

traveline.cymru — Cynlluniwr teithiau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru gan gynnwys TrawsCymru

Gair Terfynol 

Pryderon ariannol yw un o brif achosion straen ar fyfyrwyr. Mae Aberystwyth yn wirioneddol yn lle fforddiadwy i astudio — rhent is, tref fach, a chymuned sy'n golygu nad oes rhaid gwario llawer i gael amser da. 

Nid y myfyrwyr sy'n gallu rheoli eu harian orau yw'r rhai sy'n gwario'r lleiaf — maen nhw'n fyfyrwyr sy'n gwybod i ble mae eu harian yn mynd ac yn gwneud dewisiadau bwriadol. Cynlluniwch eich wythnos, coginiwch eich bwyd, archebwch eich tocynnau teithio'n gynnar, ac fe welwch fod arian ar ôl ar gyfer y pethau sy'n bwysig i chi. 

Os ydych yn cael trafferth, gofynnwch am help mewn da bryd. Dyma'n union pam fod gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr Aberystwyth yn bodoli. Po gynharaf y byddwch yn rhoi gwybod i ni, y mwyaf o opsiynau fydd ar gael ichi er mwyn goresgyn y rhwystrau. Cysylltwch gyda ni os oes angen unrhyw gyngor neu gefnogaeth arnoch.  

Y Tîm Cyngor Myfyrwyr

cynghorydd-myfyrwyr@aber.ac.uk