Dysgwch fwy am ein digwyddiadau

Gweminarau: Paratoi ar gyfer Dyddiad Cau UCAS

Ymunwch â ni mewn gweminar ar-lein i'ch helpu i wneud penderfyniad hyderus a gwybodus cyn dyddiad cau UCAS ym mis Ionawr. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a chofrestrwch isod.

  • A allaf fforddio mynd i’r brifysgol? 16 Rhagfyr 2025, 18:00-18:30
  • Dewisiadau munud olaf 7 Ionawr 2026, 18:00-18:30

 

Ffair Astudio Ôl-raddedig

Diddordeb dilyn cwrs Ôl-raddedig? Ymunwch â'n Ffair Astudio Ôl-raddedig pnawn ddydd Mercher, 25 Chwefror rhwng 16:30 a 19:00. Dysgwch fwy am ein cyrsiau, adrannau, cyfleoedd ariannu, llety a gwasanaethau cymorth. Dysgwch fwy neu cofrestrwch isod.

 

Oes gennych ddiddordeb mewn digwyddiadau yn y dyfodol?

Cofrestrwch eich Diddordeb i gael e-byst am unrhyw ddigwyddiadau ar y gweill, gan gynnwys Diwrnodau Agored Ar-lein. Os na allwch ddod i Ddiwrnod Agored, neu os hoffech gyfle arall i ymweld â'n campws, gallwch hefyd gofrestru am Daith Campws.