Cwestiynau Cyffredin - Diwrnodau Agored

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i’n Diwrnod Agored.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y digwyddiad, cysylltwch â ni drwy e-bost diwrnodagored@aber.ac.uk a bydd ein tîm yn barod i helpu.

Archebu 

Oes rhaid i mi archebu ymlaen llaw?

Mae’r llefydd yn gyfyngedig ar gyfer ein Diwrnod Agored ac yn hanfodol i archebu ymlaen llaw. Archebwch eich lle drwy’r Ffurflen Gofrestru Diwrnod Agored.

Faint o westai gallaf ddod gydag ar y diwrnod?

Pan fyddwch yn archebu lle nodwch y nifer o westeion ac os byddwch am newid hyn, cysylltwch â'n tîm i’ch helpu (ymholiadau@aber.ac.uk). 

Nid wyf bellach yn medru mynychu’r Diwrnod Agored, ydw i’n medru canslo?

Rydym yn sylweddoli fod cynlluniau yn gallu newid. Os na allwch ddod i’r digwyddiad, cysylltwch â ni drwy e-bost (ymholiadau@aber.ac.uk). Bydd ein tîm Diwrnod Agored yn gallu rhoi cyngor ar ffyrdd eraill o ddarganfod mwy am Aberystwyth gan gynnwys cyfleoedd ymweld yn y dyfodol. 

Rhaglenni Gwybodaeth a Chofrestru

Ble ydw in' cofrestru a phryd bydd angen i mi gyrraedd?

Bydd ein Diwrnod Agored yn rhedeg rhwng 09.00 – 16.00, lle gewch gyfle i ymweld adrannau academaidd a chael amser i grwydro’r campws.

Cofrestru, Croeso a Gwybodaeth Gyffredinol: Canolfan y Celfyddydau, Campws Penglais, SY23 3DE

Bydd rhagor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer y diwrnod yn cael ei hanfon atoch ymlaen llaw.

A oes angen i mi ddod â chadarnhad o’m harcheb gyda mi ar ddiwrnod y digwyddiad?

Cyn y digwyddiad, byddwn yn anfon cyfres o negeseuon e-bost i ymwelwyr yn cadarnhau eich archeb ac yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi er mwyn eich helpu i gynllunio'ch diwrnod.

Yn ystod yr wythnos cyn y digwyddiad, bydd hyn yn cynnwys cod QR y gallwch ei ddefnyddio i gofrestru ar y diwrnod.  Cynhelir y cofrestru yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a bydd yn agor o 9.00 ymlaen.

Ble byddaf yn derbyn rhaglen o’r diwrnod cyn fy ymweliad?

Bydd amlinelliad o raglen y diwrnod yn cael i’w gynnwys yn yr e-bost cyn y digwyddiad. Mae copi o'r rhaglen hefyd i'w gweld uchod. Bydd y rhaglen yn cynnwys cyngor defnyddiol i’ch helpu i gynllunio eich ymweliad. 

Pan fyddwch yn cyrraedd Canolfan y Celfyddydau, bydd ein tîm o staff a llysgenhadon yn eich croesawu i ddarparu cyngor a chyfarwyddiadau. 

Sut beth yw rhaglen Diwrnod Agored nodweddiadol?

Mae Diwrnodau Agored yn gyfle i chi ddarganfod mwy am fyw ac astudio yn Aberystwyth. Cynigir amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol y dydd, gan gynnwys cyfleoedd i fynychu sgyrsiau, gweld cyfleusterau a thrafod eich ymholiadau â staff a myfyrwyr presennol.

Mae ein Diwrnodau Agored yn rhedeg yn fras rhwng 9.00 a 16.00 ac o fewn yr amser hwn gallwch fynychu'r sesiynau sydd o ddiddordeb i chi.

Wrth gyrraedd y campws byddwch yn cofrestru yng Nghanolfan y Celfyddydau (o 9.00), lle bydd ein tîm yn gallu cynnig cyngor ar sut i fanteisio i’r eithaf ar eich diwrnod a’ch cyfeirio at yr ystod o weithgareddau sydd ar gael.

Cynhelir rhaglen y Diwrnod Agored canolog ar Gampws Penglais ac mae'n cynnwys sgyrsiau croesawu (a ailadroddir ar draws y bore) sy'n dechrau o 9.10. Mae'r amserlen yn cynnwys amrywiaeth o sgyrsiau dewisol sy'n ymdrin â phynciau gan gynnwys Llety, Ffioedd a Chyllid a Bywyd Myfyrwyr.

Cynigir teithiau o’r campws ar yr awr rhwng 10.00 a 16.00 (mae'r daith olaf yn gadael am 15.00). Caiff y teithiau hyn eu harwain gan un o'n Myfyrwyr sy’n Llysgenhadon ac maent yn gyfle i weld cyfleusterau, gan gynnwys: Undeb y Myfyrwyr; Canolfan y Celfyddydau; y Ganolfan Chwaraeon a Llyfrgell Hugh Owen ac yn rhoi syniad i chi am gynllun y campws.

Cynhelir Ffair Wybodaeth rhwng 9.00 a 15.30 ac mae'n rhoi cyfle i gasglu dogfennaeth ddefnyddiol a gofyn cwestiynau ynghylch pynciau gan gynnwys: y broses dderbyn, ffioedd a chyllid, Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, llety, a chyfleoedd i astudio, gwirfoddoli neu weithio dramor.

Bydd amrywiaeth o'n llety myfyrwyr ar agor yn ystod y dydd i chi ymweld â hwy (rhwng 9.00 – 16.00). Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am yr opsiynau ymweld ac yna gallwch wneud eich ffordd i’r tŷ/fflat yn eich amser eich hun a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych ynglŷn â byw gyda ni. 

Mae ein hadrannau academaidd yn darparu amrywiaeth o weithgareddau ar y diwrnod, ac unwaith eto, bydd manylion pellach am y rhain yn cael eu cynnwys yn y rhaglen a anfonir atoch o flaen llaw (i'r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd wrth archebu).

A fyddaf yn medru gweld llety’r Brifysgol yn ystod yr ymweliad?

Bydd amrywiaeth o’n preswylfeydd ar gael i chi eu gweld ar y diwrnod. Bydd rhagor o wybodaeth o amseroedd ein fflatiau arddangos yn y rhaglen byddwch yn derbyn cyn eich ymweliad. 

Mae’r dudalen we llety yn cynnwys llawer o wybodaeth defnyddiol gan gynnwys teithiau 360 gradd o’n preswylfeydd, ynghyd â gwybodaeth am gyfleusterau neu prisiau – os oes gennych ddiddoreb cyn ymweld â ni, mae’r wybodaeth hon ar gael yma:

www.aber.ac.uk/llety

Cefnogi eich Ymweliad

Pa gymorth sydd ar gael os oes yna aelod gennyf ar y daith gydag anabledd, trafferthion symud neu os fod angen gwneud addasiadau ar gyfer ein hymweliad?

Os ydych eisioes wedi nodi unrhyw ofynion ychwanegol yn y ffurflen archebu, bydd ein tîm Diwrnod Agored mewn cysylltiad i drafod eich ymweliad a nodi unrhyw mesurau ychwanegol y medrwn eu rhoi ar waith i’ch cefnogi.

Os hoffech ddiweddaru eich ffurflen archebu fod un o’ch ymwelwyr gydag anabledd, trafferthion symud neu os fod angen gwneud unrhyw addasiadau i gefnogi eich ymweliad, cysylltwch â’n tîm Diwrnod Agored a fydd yn hapus i’ch helpu (ymholiadau@aber.ac.uk).

A fydd modd siarad ag aelod o dîm Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn ystod fy ymweliad?

Bydd aelodau o'r tîm Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod y dydd. Byddant wedi'u lleoli yn y Ffair Wybodaeth rhwng 9:00 - 15:30.

Teithio, Trafnidiaeth a Chyfleusterau

Sut alla i weld map o'r Brifysgol?

Cyn eich ymweliad, cyfeiriwch at yr adran Mapiau Prifysgol ar y wefan. Bydd mapiau printiedig (A3 o ran maint) ar gael i'w casglu wrth ein desgiau croeso pan fyddwch yn cofrestru yn ystod y Diwrnod Agored yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Bydd rhaglen y Diwrnod Agored yn cynnwys gwybodaeth am ystafelloedd a lleoliad y gwahanol weithgareddau.  Bydd y rhaglen yn cael ei hanfon atoch ymlaen llaw (i'r cyfeiriad e-bost a roddwyd gennych wrth archebu).

Bydd ein tîm o Fyfyrwyr sy’n Lysgenhadon ac yn gwisgo crysau-t melyn, yn hapus i roi cyfarwyddiadau yn ystod y dydd.

Byddaf yn teithio mewn car, ble fydd modd parcio ar y campws?

Wrth i chi gyrraedd Campws Penglais, dilynwch yr arwyddion a'r canllawiau ar gyfer parcio am ddim. Os oes angen parcio hygyrch ar unrhyw un yn eich parti (ac nad ydych wedi nodi hyn wrth gofrestru) rhowch wybod i'n tim Diwrnod Agored fel y allwn sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle.

Mae gwybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr sy'n teithio mewn car ar gael ar ein tudalennau gwe mapiau a theithio. 

Oes yna bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ar y campws?

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gosod pwyntiau gwefru ar draws campws y Brifysgol i gyfateb a’r defnydd cynyddol o gerbydau trydan. Mae arwyddion manwl yn cyd-fynd â phob gwefrydd. Mwy o wybodaeth am godi tâl cerbydau trydan.  

Rwy’n teithio ar y trên, sut ydw i’n cyrraedd y campws?

Byddwn yn darparu gwasanaeth bysiau gwennol am ddim rhwng y gorsaf drên a’r campws yn ystod y Diwrnod Agored. Bydd manylion y gwasanaeth hwn yn rhaglen Diwrnod Agored y byddwch yn derbyn cyn eich ymweliad. Pan fyddwch yn cyrraedd Aberystwyth, cadwch lygaid allan am ein Llysgenhadon yn yr orsaf drenau, byddant yn gwisgo crysau-t melyn a byddant yn eich tywys i’r bws.

Bydd angen i ddefnyddwyr cludiant a ddarperir gan y Brifysgol wisgo gorchudd wyneb ar gyfer y daith ar ei hyd.

Gwybodaeth defnyddiol i ymwelwr sy’n teithio i Aberystwyth ar drên i’w gweld ar dudalen mapiau a theithio.

Gwasanaeth bws am ddim

Yn ystod y Diwrnod Agored mae gwasanaeth bws gwennol ar gael am ddim rhwng y dref a champws Penglais (9.00 - 16.30). Galwch i mewn i'r ddesg groeso yng Ngweithfan y Brifysgol ger gorsaf drenau Aberystwyth i ofyn am fws. Bydd y gwasanaeth yn gollwng a chasglu teithwyr ger prif arhosfan fysiau Campws Penglais lle bydd aelodau o staff ar gael i gynorthwyo gydag unrhyw ymholiadau. 

Darperir gwasanaeth bws gwennol hefyd rhwng prif gampws Penglais a'r Ysgol Gelf. Darllenwch raglen yr Ysgol Gelf er mwyn gweld amseroedd agor yr adeilad a’r gweithgareddau sydd ar gael. 

 

Rwy'n teithio ar fws i Aberystwyth, sut mae cyrraedd y campws?

Mae gwasanaeth y National Express i Aberystwyth yn stopio ar y campws, gelwir yr arhosfan yn Prifysgol Aberystwyth. Ar ôl cyrraedd mae croeso i ymwelwyr ddefnyddio'r Gwasanaeth bws Diwrnod Agored rhad ac am ddim rhwng y dref a'r campws yn ystod y Diwrnod Agored. 

A oes WIFI i ymwelwyr ar gael ar y campws?

Mae WIFI am ddim ar gael ar y campws i ymwelwyr â’r Diwrnod Agored.  Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar sut i gysylltu â'r rhwydwaith diwifr i westeion ar y dudalen we ganlynol: Mynediad diwifr i ymwelwyr â Phrifysgol Aberystwyth.

Pa leoliadau bwyd sydd ar gael ar y campws?

Bydd manylion am y caffis, y bariau, y siopau a'r bwyty ar y campws yn cael eu nodi yn ein Canllaw Diwrnod Agored (gan gynnwys gwybodaeth am leoliad, amseroedd agor a'r ystod o luniaeth a phrydau bwyd a gynigir). Bydd dolen i'r fersiwn pdf o'r Canllaw yn cael ei hanfon at ymwelwyr o flaen llaw.  Bydd copïau printiedig o'r Canllaw hefyd ar gael i'w casglu pan fyddwch yn cofrestru ar y campws.

Nodwch bellach fod y campws yn gweithredu heb arian parod - rydym yn derbyn taliadau digyswllt yn unig.