Cynllunio eich ymweliad

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar eich ymweliad â Phrifysgol Aberystwyth, rydym yn argymell eich bod yn cynllunio ymlaen llaw.

Mae sawl ffordd o ymweld â ni; cofiwch archebu eich lle cyn cyrraedd.

Dyma rai awgrymiadau ynghylch trefniadau ymarferol eich ymweliad.

 

Teithio

Mae’n hawdd dod o hyd inni, waeth sut y byddwch yn teithio. Yn ein tudalen am Fapiau a Theithio cewch wybodaeth fanwl am sut i gyrraedd Aberystwyth.

Oes dewch ar y trên i Ddiwrnod Agored neu Ddiwrnod Ymweld i Ymgeiswyr, bydd bysiau gwennol yn aros amdanoch yn yr orsaf drenau er mwyn dod â chi i’r campws.

Os ydych yn ymweld yn ystod digwyddiadau eraill, mae sawl gwasanaeth bws yn dod i Gampws Penglais yn rheolaidd. Cewch hefyd ddal tacsi o’r Safle Tacsis sydd wrth ymyl yr Orsaf Drenau, neu mae’n cymryd tuag 20 munud i gerdded i Gampws Penglais.

Llety

Mae digonedd o lety Gwely a Brecwast a Gwestai yn Aberystwyth a'r cyffiniau. Gallwch gysylltu â Chanolfan Croeso Aberystwyth ar: 01970 612125 / aberystwythTIC@ceredigion.gov.uk neu edrych ar wefan Darganfod Ceredigion.

Parcio ar y Campws

Yn ystod digwyddiadau megis y Diwrnodau Agored a’r Diwrnodau Ymweld i Ymgeiswyr bydd arwyddion a/neu aelodau o staff y Brifysgol yn cyfeirio ymwelwyr at y lleoedd parcio.

Os byddwch yn ymweld â ni ar adegau eraill, megis Taith o Gwmpas y Campws, dewch i Dderbynfa’r Porthorion (sef yr adeilad cyntaf ar y chwith pan gyrhaeddwch Gampws Penglais) i ofyn am drwydded barcio i ymwelwyr.

Mae gennym fwy o wybodaeth am barcio ar y campws yma.

Bwyta

Mae digon o leoedd ar y campws lle y gallwch fwynhau cinio neu baned a chacen. Mae manylion am ein bwytai a’n caffis ar y campws i’w cael yma.

Mae yna hefyd dau gaffi yng Nghanolfan y Celfyddydau sy'n gweini bwyd twym. Mae hefyd nifer o fwytai, caffis a barrau yn y dref sy’n cynnig amrywiaeth eang o fwyd; dewis gwych os hoffech gael tro i weld mwy o’r dref.