A fedraf i ddod o hyd i waith rhan-amser yn Aberystwyth?

Mae'r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn darparu porth swyddi gweigion i gefnogi myfyrwyr i chwilio am waith rhan amser yn lleol, yn ogystal â gwasanaethau galw heibio i gynghori ar sut i gael swydd ran-amser yn Aberystwyth. Mae adran Adnoddau Dynol y Brifysgol hefyd yn rhedeg rhaglen AberWorks, sy'n cynnig cyfle i fyfyrwyr gael mynediad i swyddi gwag rhan-amser a gynigir ar draws holl adrannau'r Brifysgol. Fodd bynnag, dylai myfyrwyr sicrhau eu bod wedi sicrhau prif ffynhonnell cyllid (e.e. ysgoloriaeth neu fenthyciad) ac nad ydynt yn dibynnu ar enillion o waith rhan-amser yn unig. 

Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, dim ond hyd at uchafswm yr oriau a ganiateir fel rhan o'ch Fisa Myfyriwr y gallwch chi eu gweithio (uchafswm o 20 awr o waith yr wythnos fel arfer). Byddai unrhyw amodau ar eich cymhwyster i weithio yn cael eu nodi ar eich Fisa Myfyriwr.