Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR)

Dyma gyflwyno ein rhaglen Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) newydd.
Yn rhan o Ysgol Addysg y Brifysgol, mae ein rhaglen TAR yn gyfuniad o dechnegau traddodiadol a dulliau modern i’ch paratoi at yrfa lwyddiannus yn addysgu.
Ein hymrwymiad yw eich helpu chi i ddatblygu’ch potensial er mwyn i chwithau, yn eich tro, fedru helpu pob plentyn neu berson ifanc i gyflawni eu potensial hwythau.
Bu’r Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ysbrydoli darpar athrawon yn y Deyrnas Unedig ers i ddrysau’r adran agor i groesawu ei myfyrwyr cyntaf yn 1872.
Ers ei sefydlu, mae’r Ysgol Addysg wedi bod yn paratoi ymarferwyr newydd ar gyfer gyrfa fel athrawon - y rhai sy'n helpu i ddatblygu, ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli’r cenedlaethau iau i greu dyfodol llewyrchus a llwyddiannus.