Aber Ar Agor

The Access All Aber logo and three images showcasing a social activity, departmental tour and a mock lecture that took places during Access All Aber 2023.

Nod rhaglen breswyl Aber Ar Agor yw helpu myfyrwyr Blwyddyn 12 i ymchwilio a pharatoi ar gyfer y brifysgol ac yn y pen draw at ehangu mynediad at addysg uwch.

Eleni, bydd Aber Ar Agor yn rhedeg o ddydd Mawrth 1af Gorffennaf tan ddydd Sadwrn 5ed Gorffennaf. Mae ceisiadau ar gyfer 2025 bellach wedi agor a gellir dod o hyd i'r holl fanylion am sut i wneud cais isod. 

Bydd Aber Ar Agor yn cynnal rhaglen breswyl ragorol 5 diwrnod ei hyd sy’n ceisio paratoi myfyrwyr yn well ar gyfer bywyd prifysgol. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau academaidd allweddol, a bydd sesiynau mwy cymdeithasol ac addysgiadol yn cael eu cynnal i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn bywyd prifysgol ac i gefnogi eu ceisiadau UCAS. Daw'r wythnos i ben gyda'r holl fynychwyr yn cymryd rhan yn ein Diwrnod Agored ar ddydd Sadwrn 5ed Gorffennaf.

 

Sut i ymgeisio

Cam 1 - Cwblhau'r Ffurflen Gais

Y cam cyntaf yw llenwi'r ffurflen gais yma cyn Dydd Gwener 14eg Chwefror 2025. 

Unwaith byddwch wedi llenwi'r ffurflen hon, byddwn yn cysylltu ar ôl y dyddiad cau i roi gwybod os ydych chi wedi derbyn lle. 

Cam 2 - Cadarnhau eich Dewisiadau

Os ydych wedi cael eich derbyn i gymryd rhan mewn Aber Ar Agor, byddwn yn cysylltu â ffurflen arall i'w llenwi. 

Yn y ffurflen hon bydd angen i chi roi gwybod i ni am bethau mwy ymarferol fel eich gofynion dietegol, o le bydd angen i ni eich casglu (mae cludiant am ddim), ac i gadarnhau pa sesiynau blasu pwnc yr hoffech chi gymryd rhan ynddyn nhw. 

Cam 3 - Geirda a Chaniatâd Rhieni/Gwarcheidwaid

Byddwn nawr yn gofyn i athro o'ch dewis i ddarparu geirda i chi gymryd rhan yn Aber Ar Agor. 

Byddwn hefyd angen caniatâd gan eich rhiant neu warcheidwad i chi gymryd rhan yn Aber Ar Agor.

Cam 4 - Pacio a Pharatoi

Mae angen y canlynol arnom er mwyn i chi fynychu Aber Ar Agor - 

  • Llenwi'r ffurflen gais
  • Cadarnhau eich dewisiadau
  • Geirda gan eich athro
  • Caniatâd eich rhiant/gwarcheidwad.

Os ydych chi wedi cwblhau'r holl gamau hyn, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw pacio a pharatoi. Byddwn yn danfon yr holl fanylion terfynol atoch ac yn dweud wrthych beth i'w ddod gyda chi. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi anfon neges e-bost aragor@aber.ac.uk.

Beth yw Aber Ar Agor?

Mae ceisiadau ar gyfer Aber Ar Agor ar gael i fyfyrwyr sydd ym Mlwyddyn 12 ar hyn o bryd ac sy'n astudio mewn ysgol neu goleg yng Nghymru. 

  • Bydd rhaglen 2025 yn rhedeg o ddydd Mawrth 1af Gorffennaf tan ddydd Sadwrn 5ed Gorffennaf.
  • Rydym yn darparu cludiant AM DDIM i Brifysgol Aberystwyth ac oddi yno.
  • Rydym hefyd yn darparu llety a bwyd am ddim.
  • Gall cyfranogwyr gymryd rhan mewn 3 sesiwn blasu pwnc o amrywiaeth o bynciau gwahanol. - (Gallwch weld ein rhestr o feysydd pwnc yma)

Mae lleoedd yn gyfyngedig a rhoddir blaenoriaeth i geisiadau gan fyfyrwyr sy'n bodloni prif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. 

 

Ydych chi'n gymwys?

Bydd tua 100 o lefydd i fyfyrwyr ym mlwyddyn 12, sy'n astudio mewn ysgol neu goleg yng Nghymru ar hyn o bryd. Rydym yn targedu myfyrwyr sy'n bodloni meini prawf ehangu mynediad, gan ganolbwyntio ar (ond heb fod yn gyfyngedig i) y rheini: 

  • O godau post sydd yn ardaloedd cwintiles is (1 a 2) ar gyfer WIMD (Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru) - edrychwch ar eich cod post yma
  • Sy'n brofiadol mewn gofal (wedi treulio tri mis neu fwy mewn gofal ers yn 14 oed.)
  • Y genhedlaeth gyntaf yn y teulu i fynd i'r brifysgol.
  • Sy'n ofalwyr ifanc
  • Sydd wedi dieithrio oddi wrth eu teulu.
  • Sydd ag un o'r statws mewnfudo canlynol; ffoadur, amddiffyniad dyngarol, ceisiwr lloches. 

Buddion Aber Ar Agor

Wedi’i ail-lansio yn 2023 yn dilyn toriad oherwydd y pandemig COVID-19, mae Aber Ar Agor yn rhan o ymrwymiad hirsefydlog Prifysgol Aberystwyth i ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch.

Mae Aber Ar Agor wedi cynnig y cyfle i ystod eang o fyfyrwyr brofi bywyd yn y brifysgol gan addasu i’r profiad o fyw i ffwrdd o gartref, y pwysau cyfunol o waith academaidd a therfynau amser, chwaraeon a gweithgareddau.

“Gall y cam o’r ysgol neu’r coleg i’r brifysgol, ynghyd â symud oddi cartref am y tro cyntaf, fod yn frawychus i lawer o bobl ifanc. Pwrpas Aber Ar Agor yw cynnig profiad academaidd realistig sy'n rhoi syniad i'n myfyrwyr o beth yw bywyd prifysgol a rhoi blas iddynt o'r pynciau amrywiol a gynigiwn yma yn Aberystwyth. Ein gobaith yw y bydd hyn yn eu hysbrydoli i gymryd y cam nesaf i astudio gradd pan ddaw’r amser, boed hynny yn Aberystwyth neu unrhyw brifysgol arall.” Nia Gwyndaf, Pennaeth Recriwtio Myfyrwyr ac Ehangu Cyfranogiad.

Mae Aber Ar Agor nid yn unig o fudd i’r bobl ifanc sy’n cwblhau’r cwrs, ond mae hefyd yn cynnig profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr presennol o Brifysgol Aberystwyth sy’n gweithio fel Llysgenhadon Myfyrwyr yn ystod yr wythnos. Mae ein Llysgenhadon yn cael profiad gwaith o ansawdd wrth iddyn nhw gynorthwyo gyda gofal bugeiliol a chydlynu chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol y cwrs. Maent yn fyfyrwyr presennol sydd wedi cael eu hyfforddi i ddarparu lefel uchel o gymhelliant a gofal i fynychwyr y cwrs. Mae’r cyfle hwn yn eu galluogi i gyfoethogi eu sgiliau a chynyddu eu cyfleoedd cyflogaeth.