Bywyd Myfyriwr a Chefnogaeth

 

Rhagor o wybodaeth am y cymorth a ddarparwn i'n myfyrwyr yn eu hastudiaethau a'u bywydau cymdeithasol, wrth iddynt bontio i'r Brifysgol.

Digwyddiadau Croeso

Yn ystod Wythnos Ymgartrefu a Phenwythnos Mawr y Croeso ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Undeb y Myfyrwyr yn trefnu sesiynau Cwrdd a Chyfarch ar gyfer myfyrwyr aeddfed newydd.

Swyddog Myfyrwyr Aeddfed

Mae gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth nifer o Swyddogion Gwirfoddol sydd wedi cael eu hethol gan gyd-fyfyrwyr ar draws y Brifysgol i roi adborth ar farn myfyrwyr yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Mae cynrychiolydd Swyddog Gwirfoddolwyr Myfyrwyr Aeddfed o fewn Undeb y Myfyrwyr yn darparu pwynt cyswllt, cymorth, gwybodaeth a digwyddiadau cymdeithasol i fyfyrwyr aeddfed, a chymdeithas myfyrwyr aeddfed.

Tiwtor Personol

Neilltuir Tiwtor Personol i bob myfyriwr aeddfed. Mae ganddynt swyddogaeth bwysig o fewn i’r fframwaith cyffredinol o gefnogi myfyrwyr aeddfed a’u datblygiad personol yn y Brifysgol. Mae’r rôl yn hanfodol wrth helpu myfyrwyr i ddysgu lle gallant gael cymorth, sut a ble i holi am gyngor a sut i fynd ati i gael cymorth i wneud y mwyaf o’u profiad fel myfyrwyr.

Mae Tiwtoriaid Personol yn darparu cyswllt rheolaidd rhwng y myfyriwr a’r adran academaidd, y pwnc neu Gyfadran. Bydd tiwtoriaid ar gael i ymgynghori ar adegau rhesymol trwy drefniant, ac yn gallu cyfeirio myfyrwyr i gael cyngor arbenigol mewn mannau eraill yn y Brifysgol.

Cymorth gan Gymheiriaid

Manylion pellach ar ein cynlluniau Cynorthwywyr Adrannol i Gymheiriaid a Mentora 'Ffordd Hyn', gyda'r nod o helpu myfyrwyr newydd i fyw ac astudio'n fwy annibynnol ac addasu i fywyd yn y Brifysgol.

Cynorthwywyr Adrannol i Gymheiriaid a Mentora 'Ffordd Hyn'

Llety

Llety'r Brifysgol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwarantu lle mewn llety sy'n eiddo i'r Brifysgol neu'n cael ei reoli ganddi i bob myfyriwr israddedig sydd yn eu blwyddyn gyntaf.

Nid oes gan y Brifysgol breswylfeydd sydd wedi’u clustnodi’n benodol ar gyfer myfyrwyr aeddfed. Yn hytrach, gall fyfyrwyr aeddfed ddewis unrhyw un o'r llety sydd ar gael ac yn addas ar gyfer eu cyllideb.

Gweler ein tudalennau Sut i Wneud Cais am ragor o wybodaeth.