Ymestyn yn Ehangach: Partneriaeth Gogledd a Chanolbarth Cymru: Hysbysiad Preifatrwydd

myfyrwyr yn defnyddio laptop.

Pwrpas yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yw eich helpu chi ddeall pam mae Ymestyn yn Ehangach: Partneriaeth Gogledd a Chanolbarth Cymru (RWNMWP) yn gofyn am eich data personol, sut rydym yn defnyddio'ch data, ein rhwymedigaethau o dan y gyfraith a'ch hawliau.

Mae'r Bartneriaeth (RWNMWP) wedi ymrwymo i warchod eich preifatrwydd. Yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn unig y bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei phrosesu, ac yn unol â rhwymedigaethau Deddf Diogelu Data 2018 (DPA) a'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR).

Yn achos plant/pobl ifanc sydd o dan 16 oed byddwn bob amser yn gofyn i riant gydsynio inni ddefnyddio data. Anfonir ffurflenni cydsyniad rhieni i'r ysgolion i'w dosbarthu i'r disgyblion. Os yw rhiant/gwarcheidwad yn dymuno i blentyn gymryd rhan yn un o'n digwyddiadau, dylent lenwi'r ffurflen gydsynio a'i dychwelyd inni.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data?

Gwneir gwaith y Bartneriaeth i hyrwyddo ymgysylltiad a chyfranogiad ehangach mewn addysg uwch er lles y cyhoedd. Mae angen inni sicrhau bod yr arian a dderbyniwn gan asiantaethau cyllido'r llywodraeth yn cael ei wario'n briodol a bod iddo effaith gadarnhaol. Er mwyn mesur yr effaith a chynnal ein gweithgareddau, mae angen inni gasglu data am gyfranogiad y myfyrwyr. 

Mae'r Bartneriaeth yn prosesu data personol gan ei bod yn angenrheidiol i'r Bartneriaeth gyflawni tasg er lles y cyhoedd ac ar gyfer ei swyddogaethau swyddogol. 

Mae'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu data categori arbennig ar y sail ei fod er lles sylweddol y cyhoedd a'i fod yn angenrheidiol at ddibenion ystadegol i fonitro cyfle cyfartal yn unol â Ddeddf Cydraddoldeb. 

Cydsyniad yw'r sail gyfreithiol dros brosesu'r defnydd o ffotograffau a hysbysiadau marchnata. 

Mae'r Bartneriaeth yn casglu data ar unigolion am y rhesymau a ganlyn: 

1. At ddibenion monitro sy'n caniatáu i'r Bartneriaeth: 

  • gyflawni'r gofynion adrodd allanol gorfodol i gyrff rheoleiddio fel Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW). 
  • rhoi darlun clir o'r gweithgareddau rydym yn eu cyflawni a'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw. 
  • sicrhau ein bod yn cyrraedd y rhai a allai elwa fwyaf o weithgareddau estyn allan. 

2. At ddibenion ymchwil a gwerthuso sy'n ein helpu ni asesu effeithiolrwydd gwahanol fentrau sy'n ymwneud ag ehangu cyfranogiad o Addysg Uwch. Mae hynny'n cynnwys olrhain anhysbys yn y tymor hir ar siwrneiau addysgol y cyfranogwyr, i nodi faint o gyfranogwyr y Bartneriaeth sy'n mynd ymlaen i astudio yn y brifysgol. 

3. Nodi cyfranogwyr sy'n perthyn i grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli mewn Addysg Uwch a sicrhau bod pobl o'r grwpiau hyn yn cael mynediad â blaenoriaeth yng ngweithgareddau'r Bartneriaeth. 

4. Sicrhau iechyd a diogelwch a lles holl gyfranogwyr ein rhaglenni a chynorthwyo gydag anghenion bugeiliol a lles e.e. sicrhau ein bod yn ymwybodol o gyflyrau meddygol ac anableddau. 

5. Anfon gwybodaeth berthnasol ac angenrheidiol ynghylch y gweithgareddau arfaethedig yn ogystal â hysbysiadau marchnata. 

Pa wybodaeth ydym yn ei chasglu?

Casglwn y darnau gwybodaeth gorfodol canlynol ar gyfer yr holl gyfranogwyr sy'n cymryd rhan yn ein gweithgareddau. Mae hyn yn helpu RWNMWP i ddangos bod ein gweithgareddau'n ymgysylltu â phobl ifanc o gefndiroedd sydd wedi'u tangynrychioli mewn Addysg Uwch ar hyn o bryd. 

  • Enw 
  • Manylion cyswllt 
  • Dyddiad geni 
  • Rhyw 
  • Cod post cartref 
  • Ethnigrwydd 
  • Anabledd 
  • Prydau ysgol am ddim neu gymhwyster Lwfans Cynnal a Chadw Addysgol 
  • P'un a yw'r myfyriwr yn byw mewn gofal neu wedi gwneud yn y gorffennol 
  • Ffotograffau a ffilmiau - Yn ystod digwyddiadau efallai y byddwn yn tynnu lluniau a ffilmiau rydym yn eu defnyddio at ddibenion marchnata, megis ar ein gwefan. 

Lle bo modd, rydym hefyd yn casglu'r darnau canlynol o wybodaeth: 

  • P'un a aeth rhiant (rhieni) neu frodyr a chwiorydd y myfyriwr i brifysgol 
  • Galwedigaeth rhiant (rhieni) y myfyriwr 
  • P'un a yw'r myfyriwr yn ofalwr i aelod o'r teulu neu'n ddibynnydd 
  • Cyflawniad Addysgol Blaenorol 

Ar gyfer gweithgareddau preswyl ac y tu allan i oriau ysgol rydym hefyd yn casglu manylion gofynion meddygol ac arbennig at ddibenion darparu cefnogaeth a sicrhau iechyd a diogelwch y cyfranogwyr a'r staff. Yn eu plith: 

  • Gofynion dietegol 
  • Gofynion diwylliannol 
  • Manylion cyswllt mewn argyfwng 
  • Alergeddau 
  • Terfniadau meddygol 
  • Meddyniniaethau a gymerir 

 

Sut bydd y Bartneriaeth yn prosesu'r data?

  1. Ar gyfer mentrau a drefnir yn uniongyrchol gydag ysgolion, anfonir ffurflen gydsynio cyfranogwr adref at rieni trwy'r ysgol. Mae'r ffurflen yn casglu gwybodaeth am y cyfranogwr ynghyd â chydsyniad i'r wybodaeth gael ei defnyddio at y dibenion uchod. Dychwelir y ffurflen i'r ysgol ac mae'r ysgol yn trefnu trosglwyddo'r wybodaeth yn ddiogel i'r Bartneriaeth.
  2. Caiff yr wybodaeth am y cyfranogwyr ei throsglwyddo o'r ffurflenni papur i'r gronfa ddata ddiogel ar-lein Upshot.
  3. Mae'r holl adroddiadau mewnol ac allanol sy'n defnyddio'r data a gasglwyd, yn gwneud hynny mewn dull cyfun, sy'n golygu mai cyfansymiau yn unig sy'n cael eu dangos, ac felly ni chaiff data unigolion byth ei ddatgelu mewn adroddiad.

Diogelwch eich gwybodaeth

Mae deddfwriaeth diogelu data yn ei gwneud yn ofynnol inni gadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Golyga hynny y caiff eich cyfrinachedd ei barchu, a chymerir pob cam priodol i atal mynediad heb awdurdod ac i beidio â datgelu gwybodaeth. Dim ond yr aelodau hynny o'r staff sydd angen mynd at rannau perthnasol o'ch gwybodaeth, neu'ch holl wybodaeth, fydd yn cael awdurdod i wneud hynny. Bydd angen cyfrinair a chyfyngiadau diogelwch eraill i gael mynediad at wybodaeth amdanoch ar ffurf electronig, a chaiff ffeiliau papur eu cadw mewn mannau diogel a mynediad atynt wedi'i reoli.

Gellir cael mynediad i Upshot yn unig drwy aelodau dynodedig o dîm Reaching Wider a'r tîm canolog sy'n rheoli gwasanaeth Upshot.

Gellir rhannu eich data â darparwyr trydydd parti, ond dim ond at ddibenion ystyried a phrosesu eich cais, cyfathrebu â chi am y Bartneriaeth a gwneud ymchwil ynglŷn ag oedran, lleoliad daearyddol a phwnc/pynciau sydd o ddiddordeb i'r rhai sydd â diddordeb ymwneud â'r Bartneriaeth.

Dal Gafael

Bydd y Bartneriaeth yn cadw data'r cyfranogwyr yn unol ag Amserlen Dal Gafael Prifysgol Bangor. Mae'r Brifysgol yn cadw'r wybodaeth amdanoch yn unol ag amserlenni dal gafael penodedig addysg uwch.

I grynhoi: cedwir copïau papur o wybodaeth am 1 flwyddyn academaidd gyfan ar ôl i'r gweithgaredd ddigwydd.

Caiff cofnodion electronig eu cadw ar gronfa ddata Upshot am 10 mlynedd ar ôl digwyddiad, gan adolygu'r data'n flynyddol ar 31 Awst.

Bydd data a rennir / sy'n gysylltiedig â thrydydd partïon at ddibenion ymchwil yn aros yng nghronfeydd data'r trydydd par

Pa hawliau sydd gen i mewn perthynas â'm data?

Mae gennych hawl i fynediad at eich gwybodaeth bersonol, gwrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, unioni, dileu, cyfyngu a throsglwyddo'ch gwybodaeth bersonol. Os ydych wedi rhoi caniatâd i'r Bartneriaeth brosesu unrhyw ddata o'ch eiddo, mae gennych hawl hefyd i dynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl.

Fel partner arweiniol y Bartneriaeth, Prifysgol Bangor yw'r Rheolwr Data dros eich gwybodaeth, fel y diffinnir yn Neddf Diogelu Data 2018 ac mae wedi ymrwymo i amddiffyn eich hawliau.

Dylai unrhyw geisiadau neu wrthwynebiadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig at Swyddog Diogelu Data Prifysgol Bangor.

 

Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfio
Swyddfa Llywodraethu a Chydymffurfio
Gwasanaethau Corfforaethol
Ffordd y Coleg
Bangor
LL57 2DG
info-compliance@bangor.ac.uk 

Os ydych yn anfodlon ar y ffordd y proseswyd eich gwybodaeth bersonol gellwch, yn y lle cyntaf, gysylltu â Swyddog Diogelu Data'r Brifysgol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod. 

Os oes gennych gwestiynau pellach ynglŷn â sut rydym yn prosesu data monitro unigol, mae croeso i chi gysylltu â'r Bartneriaeth: reachingwider@bangor.ac.uk