Myfyrwyr Aeddfed

mature students working on a computer

Cyfeiria’r term myfyriwr aeddfed at unrhyw un sy'n mynd i'r brifysgol neu'r coleg ar ôl cyfnod allan o addysg llawn amser. Fel arfer, mae hyn yn golygu myfyrwyr sydd dros 21 oed ar ddechrau eu hastudiaethau israddedig, neu dros 25 oed ar ddechrau eu hastudiaethau ôl-raddedig.  

Gwneud Cais fel Myfyriwr Aeddfed

Efallai bydd gan Fyfyrwyr Aeddfed ychydig iawn neu ddim cymwysterau blaenorol, neu gallant fod yn dilyn cyrsiau diploma Mynediad i AU, neu'n cofrestru ar eu cwrs gradd gyntaf yn seiliedig ar eu profiadau gwaith neu fywyd.  Efallai bydd eraill yn dychwelyd i wneud cymhwyster ôl-raddedig neu radd mewn maes pwnc newydd fel rhan o'u dilyniant gyrfa.

Cyflwyno eich Cais

Ar gyfer y rhan fwyaf o’n cyrsiau israddedig, mae’n rhaid i Fyfyrwyr Aeddfed gwneud cais drwy UCAS

Wrth edrych drwy eich ffurflen gais UCAS, bydd Tiwtor Derbyn Prifysgol Aberystwyth yn ystyried yr holl dystiolaeth. Nid yw’n wir fod Aberystwyth ond yn gwneud penderfyniadau ar sail graddau ag enillwyd neu a ragwelir. Bydd tiwtoriaid derbyn yn sicrhau bod Myfyrwyr Aeddfed yn cael pob cyfle i drafod eu hachosion unigol.

Cyngor UCAS ar gyfer Myfyrwyr Aeddfed

Mae myfyrwyr aeddfed yn aml yn cydbwyso eu hastudiaethau â gwaith neu gyfrifoldebau gofalu.  Mae gan UCAS gyngor ac arweiniad i fyfyrwyr aeddfed sy'n gwneud cais i Addysg Uwch.

Blwyddyn Sylfaen

Mae nifer o fyfyrwyr sydd wedi treulio cyfnod allan o addysg llawn amser yn penderfynu astudio Blwyddyn Sylfaen ym Mhrifysgol Aberystwyth.  

Cyllid ar gyfer Myfyrwyr Aeddfed

Mae'r Brifysgol yn cynnig ystod eang o Ysgoloriaethau a bwrsariaethau a llwybrau ariannu ar gyfer israddedigion aeddfed.

Gall fyfyrwyr aeddfed o'r DU hefyd fod yn gymwys i gael cymorth pellach gan y Llywodraeth er mwyn darparu cefnogaeth yn ystod eu hastudiaethau, gan gynnwys:

  • Grant Gofal Plant, grant nad yw'n ad-daladwy i fyfyrwyr mewn addysg uwch llawn amser gyda phlant dan 15 oed (neu o dan 17 oed os oes ganddynt anghenion arbennig).
  • Grant Oedolion Dibynnol, grant nad yw'n ad-daladwy i fyfyrwyr mewn addysg uwch llawn amser gydag oedolyn sy'n ddibynnol yn ariannol arnynt.
  • Lwfans Dysgu i Rieni, grant nad yw'n ad-daladwy i rieni sy'n fyfyrwyr mewn addysg uwch llawn amser neu hyfforddiant cychwynnol athrawon.
  • Lwfans Myfyrwyr Anabl, grant nad yw'n ad-daladwy i helpu i dalu am y costau ychwanegol a allai ddeillio o broblem iechyd meddwl, salwch hirdymor neu unrhyw anabledd arall.