Cyfnod Allweddol 3 (Blynyddoedd 7, 8, 9))

students playing with robots.

Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer blynyddoedd ysgol 7, 8 a 9.

Her Fathemateg

Mae'r heriau wedi'u creu gan ein hadran Fathemateg ac yn cael eu danfon at bob ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg a Saesneg yng Ngheredigion.

Cynhelir Noson Wobrwyo ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn anrhydeddu myfyrwyr sy'n perfformio'n dda yn yr Her Fathemateg.

Os ydych yn dymuno i'ch ysgol gymryd rhan yn yr Her Fathemateg blwyddyn nesaf, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r manylion ar waelod y dudalen hon.

Gweithgareddau Wythnos Wyddoniaeth

Y thema ar gyfer 2021 yw Arloesi ar gyfer y dyfodol. Mae'r ffair wyddoniaeth ryngweithiol tri diwrnod sydd fel arfer yn digwydd ar y Campws wedi mynd yn rhithiol eleni!