Sut i wneud dewis Cadarn ac Yswiriant

Sut i wneud dewis Cadarn ac Yswiriant

Rydych wedi cael gafael ar gwrs. Rydych wedi dewis eich rhestr fer o brifysgolion.

Rydych wedi gwneud cais i’ch dewis cyntaf (Cadarn) ac wrth gefn (Yswiriant).

Ar ôl aros, rydych wedi cael ymateb.

Beth dylech ei wneud nesaf?

Wel, gallech dderbyn 4 ateb posib:

    1. Cadarn Diamod: Gwarant eich bod wedi eich derbyn gan y Brifysgol
    2. Cadarn Amodol: Os byddwch yn bodloni’r gofynion, cewch eich derbyn gan y Brifysgol
    3. Cadarn Amodol ac Yswiriant Amodol: Eich dewisiadau cyntaf ac ail. Os bodlonir y gofynion, cewch eich derbyn gan eich dewis cyntaf o brifysgol. Fel arall, efallai byddwch yn gorfod bodloni gofynion eich ail ddewis o brifysgol er mwyn cael eich derbyn
    4. Cadarn Amodol ac Yswiriant Diamod: Eich dewisiadau cyntaf ac ail. Os bodlonir y gofynion, cewch eich derbyn gan eich dewis cyntaf o brifysgol. Fel arall, byddwch yn cael eich derbyn gan eich ail ddewis o brifysgol

    Os ydych wedi derbyn cynnig Cadarn neu Yswiriant Diamod gallwch fewngofnodi i UCAS Track a chadarnhau eich lle yn y prifysgolion hynny – a’u derbyn yn Gadarn.

    Ar gyfer Cynnig Cadarn neu Yswiriant Amodol, bydd yn rhaid i chi aros tan ganlyniadau eich arholiadau cyn mewngofnodi i UCAS Track am gadarnhad – a derbyn Yswiriant.

    Dylech nodi y bydd yn rhaid ymateb i gynigion cyn y dyddiadau cau a nodir. Gallwch hefyd wrthod unrhyw gynigion a dderbyniwch a throsglwyddo i wasanaeth UCAS Extra neu drwy’r drefn Glirio yn hwyrach.

     

    Mewngofnodwch i UCAS Track i gadarnhau statws eich cynnig neu mae pob croeso i chi gysylltu â’r Tîm Derbyn Israddedigion am gyngor neu’r camau nesaf.