Dr Jamie Medhurst
BA (Anrh), MLib, PhD, FRHistS, FHEA

Reader in Film, Television and Media
Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu
Manylion Cyswllt
- Ebost: jsm@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0001-5054-9403
- Swyddfa: 2.02, Adeilad Parry-Williams
- Ffôn: +44 (0) 1970 622152
- Twitter: @jamie_medhurst
- Proffil Porth Ymchwil
Proffil
Yn enedigol o Bont-y-pwl, cefais fy nwyn fyny yng Nghasnewydd, de Cymru a mynychu Ysgol Gymraeg Casnewydd (1973-79) ac Ysgol Gyfun Rhydfelen (1979-86). I Aberystwyth wedyn i astudio ar gyfer gradd mewn Hanes a graddio ym 1989 cyn gwneud cwrs ôl-raddedig mewn Astudiaethau Gwybodaeth, eto yn Aberystwyth (ble arall?!).
Ers 1996, rwyf wedi bod yn Ddarlithydd (yna Uwch Darlithydd ac yna Darllenydd) yn yr Adran a chyn hynny fe fûm yn Diwtor Astudiaethau Gwybodaeth yn yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth (1993-96) yn dysgu ar wasanaethau a ffynonellau gwybodaeth i'r cyfryngau. Rwyf wedi ymgymryd â gwahanol swyddi gweinyddol a rheolaethol yn yr Adran/Prifysgol: Dirprwy Ddeon Cyfadran y Celfyddydau (2005-2008), Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu (2007-2010) a Phennaeth Adran (Ionawr 2011 - Gorffennaf 2014 ac Awst 2018 - Ionawr 2019). Rwyf yn briod ac mae gennym ddwy ferch a mab. Y tu allan i'r gwaith rwyf yn mwynhau rygbi (gwylio yn hytrach na chwarae y dyddiau hyn!), treulio amser gyda'r plant - a chwarae'r organ (a weithiau pregethu) yn Eglwys San Mihangel yn Aberystwyth. Treulir rhan o fis Rhagfyr mewn siwt coch a gwyn, 'sgidiau du, a barf gwyn ffals.
Gwybodaeth Ychwanegol
Rwy'n Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol a'r Academi Addysg Uwch ac yn arholwr allanol ym Mhrifysgol Edge Hill (BA Film, Television and Media), a Birkbeck, Prifysgol Llundain (BA Film and Media). Rwyf wedi arholi oddeutu 15 traethawd hir PhD fel arholwr allanol mewn prifysgolion yn y DU ac Awstralia. Rwyf yn aelod o Bwyllgor Llywio rhwydwaith ymchwil hanes y cyfryngau, EMHIS (https://emhis.blogg.lu.se/). Adolygais bapurau i Contemporary Wales, Critical Studies in Television, Media History a Twentieth Century British History ynghyd â chynigion am lyfrau i Routledge, Sage Publications a Palgrave-Macmillan.
Dysgu
Module Coordinator
- FM10620 - Studying Media
- FM23820 - Work in the Media Industries
- FM26220 - Television History
- FM22620 - Media, Politics and Power
Coordinator
- FM10620 - Studying Media
- FM26220 - Television History
- FM22620 - Media, Politics and Power
- FM23820 - Work in the Media Industries
Lecturer
- FM10620 - Studying Media
- TFM1060 - Practice Research Project
- FM22620 - Media, Politics and Power
- FM23820 - Work in the Media Industries
- FM26220 - Television History
Tutor
- TFM0840 - Documentary Practices
- FM22620 - Media, Politics and Power
- FM26220 - Television History
- ILM2720 - Media Archives
Additional Lecturer
- FM23820 - Work in the Media Industries
- TC22420 - Ffilmiau Dogfen
- TC32520 - Ffilmiau Dogfen
- FM36720 - Media Law
Rwy'n dysgu hanes y cyfryngau, polisi cyfryngol, y cyfryngau a gwleidyddiaeth, a hanes ffilm ddogfen.
Ymchwil
Mae fy niddordebau ymchwil yn cynnwys hanes darlledu; polisi cyfryngol; archifau ffilm a chyfryngau; y cyfryngau a chymdeithas yng Nghymru; hanes ffilm ddogfen.
Rwyf yn gweithio ar nifer o brosiectau ar hyn o bryd:
The Early Years of Television and the BBC (llyfr i'w gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Caeredin yn 2021)
Programmes, Protest, and Politics: television and society in Wales in the 1970s (llyfr i'w gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2022)
Audiences, National Identities and the BBC in Wales, 1923-2023 (gyda'r Athro Martin Johnes, Prifysgol Abertawe, BBC Cymru, ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru; llyfr i'w gyhoeddi gan Wasg Prifysgol Cymru - i'w gadarnhau)
Dogfennau Allweddol Hanes Cyfryngol Ewrop (prosiect ymchwil gyda chydweithwyr ym mhrifysgolion Bournemouth, Lund a Hamburg)
Sinema Rydd, 1956-59
Grantiau/Ysgoloriaethau Ymchwil:
- Gwobr Syr David Hughes Parry, 2006/07, i gynorthwyo gwaith ar lyfr (A History of Independent Television in Wales, 1956-1968).
- Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Medi 2008-Ionawr 2009 - cyfnod ymchwil i gwblhau llyfr (A History of Independent Television in Wales, 1956-1968).
- Grant Ymchwil Bach yr Academi Brydeinig, Tachwedd 2008-Awst 2009; The Early Years of Television and the BBC, 1923-1939.
- Cronfa Ymchwil Prifysgol Aberystwyth, Tachwedd 2008-Awst 2009; The Early Years of Television and the BBC, 1923-1939;
- Grant Cynhadledd Dramor yr Academi Brydeinig, 'Television: the experimental moment 1935-1955', Prifysgol Paris 8, 27-29 Mai 2009.
- Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, Chwefror 2010-Ionawr 2012; rhwydwaith ymchwil ryngwladol ar hanes darlledu
Arolygu ac Arholi MPhil/PhD:
Arolygu
Lucy McFadzean (AHRC studentship): ‘Community, politics and the economy in the cultural policies of the Greater London Council 1981-6.’
Gregor Cameron: ‘Re-performing Who: Tracing Theatre Technique Through Television Time’
Donald F. McLean (PhD by publication): ‘Investigations into the emergence of British television, 1926-1936’
Dafydd Sills-Jones: ‘History Documentary on UK Terrestrial Television, 1982-2002.’
Rwyf wedi arholi nifer o draethodau ymchwil PhD yn y meysydd hyn, gan gynnwys darlledu gwasanaeth cyhoeddus, teledu Tsieiniaidd, radio lleol yn Lloegr, portreadau o Gymru mewn drama deledu ddogfennol a rhyngweithiol. Byddai gen i ddiddordeb i glywed gan ddarpar fyfyrwyr ymchwil sy'n dymuno archwilio unrhyw agwedd ar hanes darlledu neu faterion cysylltiedig â darlledu a hunaniaeth genedlaethol.
Cyfrifoldebau
- Uwch Arweinydd Datblygu Ymchwil, Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
- Cyd-gysylltydd Gradd, Astudiaethau Cyfryngau a Chyfathrebu
- Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Hanes y Cyfryngau Aberystwyth
- Arweinydd Academaidd Prifysgol Aberystwyth, Rhaglen Hyfforddi Doethuriaethol y De Orllewin a Cymru (SWW DTP)
- Prif Olygydd, Media History
Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)
- Dydd Llun 09.00-10.00
- Dydd Mercher 10.00-11.00