Llety
Gwarant o Lety i Fyfyrwyr y Flwyddyn 1af!*
Mae pob llety yn gymuned fyrlymus a’i gymeriad ei hun, sy’n cynnig lle diogel lle gallwch gymdeithasu, astudio ac ymlacio.
Edrychwch ar ein Taith Llety 360°
Yn Aberystwyth, rydym yn falch o'r gymuned fywiog y mae ein myfyrwyr yn ei mwynhau yn ein neuaddau. Rydym n cynnig amrywiaeth o steiliau a lleoliadau fel y gallwch ddod o hyd i'r ardal sy'n addas ar eich cyfer chi, gyda'r mwyafrif o breswylfeydd o fewn taith cerdded fer i'r campws. Mae symud i Brifysgol yn gam mawr i chi, a dyma pam rydym am eich helpu i wneud y trawsnewidiad mor hwylus â phosib.
Yn 2020, bydd Neuadd Pantycelyn ar ei newydd wedd yn agor ei drysiau ac yn galon i gymuned myfyrywr Cymraeg Aberystwyth. Bydd yr adeilad eiconig yn 'gartref-oddi-cartref' i fyfyrwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt ac yn darparu llety o'r radd flaenaf i 200 o fyfyrwyr. mewn ystafelloedd ensuite. Darllenwch mwy am yr neuadd preswylfa ar ein tudalennau arbennig Pantycelyn.
Edrychwch ar ein taith llety 360° ac am fwy o wybodaeth am ein llety darganfyddwch ein tudalennau wefan.
Pam byw gyda ni?
*I fod yn gymwys am warant o le rhaid i chi sicrhau bod eich cais yn cael ei dderbyn erbyn 1 Awst yn y flwyddyn mynediad a’ch bod yn ymateb i’r cynnig o lety erbyn y dyddiad olaf a nodir yn y Cynnig Llety. Nodwch fod lle mewn llety sy’n eiddo i’r Brifysgol neu a reolir ganddi yn cael ei warantu, ond nid y math penodol o ystafell neu leoliad.
Gweler ein Polisi ar Flaenoriaethau am wybodaeth ychwanegol.
Llety 360s:
Mae pob llety yn gymuned fyrlymus a’i gymeriad ei hun, sy’n cynnig lle diogel lle gallwch gymdeithasu, astudio ac ymlacio: