Undeb y Myfyrwyr

Rydyn ni am i fyfyrwyr Aber garu bywyd myfyrwyr a bod yn barod am unrhyw beth.
Wedi’i arwain gan fyfyrwyr a gyda chymorth gan dîm o staff, mae UMAber yn gweithio i sicrhau bod myfyrwyr Aber yn cael taith anhygoel, yn hapus, iach ac a'r grym i newid pethau, gyda ffrindiau oes a dyfodol disglair.
Fel Undeb Myfyrwyr rydym yn ymroddedig i:
- Baratoi myfyrwyr ar gyfer eu hantur nesaf
- Rhoi’r gair olaf i fyfyrwyr bob amser
- Helpu myfyrwyr i fod mor hapus ac iach â phosibl
- Tyfu ynghyd â’r myfyrwyr fel teulu Aber
Caiff yr addewidion hyn eu cyflawni drwy ddarparu amrywiaeth o fanteision a chyfleoedd i gymryd rhan i fyfyrwyr gan gynnwys:
- Helpu myfyrwyr i gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau ac adeiladu cymunedau
- 130 o Glybiau Chwaraeon a Chymdeithasau i fyfyrwyr – gan gynnwys Cymdeithas Myfyrwyr Uwchraddedig a chymdeithasau academaidd neu gyfle i ddechrau eich grŵp eich hun
- Cefnogi, hyfforddi a gweithio gyda thros 300 o Gynrychiolwyr Academaidd i gael effaith gadarnhaol ar fyfyrwyr ar lefel cyrsiau
- Cyngor cyfrinachol rhad ac am ddim, diduedd a chyfeillgar
- Llais cynrychioladol i holl fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
- Cyfleoedd i fyfyrwyr ymgyrchu ar faterion sydd o bwys iddynt
- Lleoedd i astudio, cyfarfod a chymdeithasu
Mae tîm yr Undeb hefyd yn cynnig cymorth a chynrychiolaeth annibynnol, boed hynny’n ymwneud â materion academaidd, lles neu ariannol, i fyfyrwyr sydd angen cymorth ychwanegol yn y Brifysgol. Ewch i wefan Undeb y Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth neu defnyddiwch y dolenni isod i lywio i rannau gwahanol o wefan Undeb y Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.
Wythnos y Glas
Mae’r Undeb yn croesawu’r myfyrwyr newydd i gyd ag wythnos o weithgareddau, Wythnos y Glas. Darganfyddwch fwy yma.
Digwyddiadur
Darganfyddwch fwy am y digwyddiadau sy’n cael eu trefnu gan Undeb y Myfyrwyr ar hyd y flwyddyn.
Cymdeithasau
Tîm Aber. Cewch wybod mwy am sut i gymryd rhan yn y Clybiau a’r Cymdeithasau a sut i wirfoddoli yma.
Cyfleusterau
Mae gennym gyfleusterau gwych yn yr Undeb - darganfyddwch fwy am ein siopau, cyfleusterau bwyta ac yfed.
Clybiau Chwaraeon
Darganfyddwch fwy am y clybiau chwaraeon a chymdeithasau sydd ar gael yma ym Mhrifysgol.
Cyngor
Darganfyddwch fwy am y cymorth a chefnogaeth mae’r Undeb yn cynnig ar faterion a all effeithio ar fyfyrwyr.