Amdanom Ni

Ers 1872, rydyn ni wedi meithrin enw da ledled y byd am ragoriaeth ein haddysgu a'n hymchwil arloesol. Heddiw, rydym yn gartref i fyfyrwyr o bob cwr o'r byd. Ymfalchïwn ein bod yn groesawus a chynhwysol, ac ar yr un pryd yn brifysgol sydd wedi'i gwreiddio mewn rhagoriaeth ac ymchwil.

Amdanom ni

Aberystwyth oedd Coleg Prifysgol cyntaf Cymru, ac mae gennym enw da hirsefydlog am ein rhagoriaeth academaidd, am ddarparu profiad eithriadol i'r myfyrwyr, ac am ymchwil sy'n arwain y byd. 

Mwy o wybodaeth

Ymchwil yn Aberystwyth

Ymchwil ac arloesi sydd wrth galon Prifysgol Aberystwyth. Hyn sy’n dyfnhau ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth, sydd yn sail i'n haddysgu ac yn cyfoethogi eich dysgu chi, ac sydd felly o fudd gwirioneddol i fywydau pob dydd pobl Cymru a'r byd ehangach. ⁠Mae ymchwil yn wirioneddol bwysig i Brifysgol Aberystwyth.

Darganfod ein cymuned flaengar

Ein Cynllun Strategol a’n Cenhadaeth

Mae ein cenhadaeth yn glir: darparu addysg ac ymchwil ysbrydoledig mewn amgylchfyd cefnogol, creadigol ac eithriadol yng Nghymru. Gan adeiladu ar ein cryfderau hanesyddol a’n henw da am ragoriaeth, byddwn yn cyfrannu at y gymdeithas yng Nghymru a’r byd ehangach trwy roi ein gwybodaeth ar waith i ddatrys heriau lleol a byd-eang. Gan weithio o fewn i gymuned gefnogol, groesawgar a dwyieithog, byddwn yn defnyddio ein harbenigedd i feithrin meddwl beirniadol, ymholi annibynnol, a galluoedd sy’n paratoi ein myfyrwyr am fywyd llwyddiannus. 

Mwy o wybodaeth

Ein Hanes

Mae gan Brifysgol Aberystwyth, y Brifysgol gyntaf i'w sefydlu yng Nghymru, draddodiad hir ac anrhydeddus o ddysgu ac ymchwilio, ac mae hanes ein sefydlu yn y 19 ganrif yn un o'r straeon gorau o antur ac arloesi yn hanes Cymru Fodern.

Darllenwch ymhellach

Dathlu 150

Rydyn ni'n dathlu 150 mlynedd o dreftadaeth academaidd. Mae 2022 yn nodi 150 mlynedd ers sefydlu Prifysgol Aberystwyth - prifysgol gyntaf Cymru - yn 1872. Bydd myfyrwyr a staff presennol y Brifysgol yn ymuno â'n cymuned o gyn-fyfyrwyr, cyfeillion a phartneriaid yng Nghymru a ledled y byd, i ddathlu ein cyfraniad unigryw a'n treftadaeth academaidd.  

Ymunwch â'r dathliadau

Gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth: Swyddi Gwag

Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth ym 1872, ac mae wedi datblygu i fod yn gymuned academaidd gref a chlos o fyfyrwyr. Does ‘na unman yn debyg i Aberystwyth: does dim un Brifysgol arall sy'n cynnig y cyfuniad unigryw o draddodiad academaidd hirsefydlog, lleoliad hardd eithriadol, a champws sy'n cyfuno'r adnoddau diweddaraf, Canolfan Gelfyddydau fywiog, a'r cyfle i ddefnyddio un o'r pum llyfrgell hawlfraint yng ngwledydd Prydain. Ger bryniau'r Canolbarth ac ar lan y môr, mae Aberystwyth yn ganolfan sydd o bwys cenedlaethol a rhanbarthol, yn ddiwylliannol ac yn fasnachol. 

Darllenwch am y swyddi gweigion sydd gennym ar hyn o bryd

Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Ni yw’r brifysgol gyntaf yn y byd i ennill statws Prifysgol Di-blastig, ac rydym wedi ymrwymo i darged sero net erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2030-31. Wrth i ni barhau i leihau allyriadau carbon, mae gennym gyfrifoldeb i gyfrannu at newid parhaol trwy ein hymchwil a'n haddysgu yn ogystal â’r ffordd mae ein sefydliad yn cael ei redeg. 

Mwy o wybodaeth

Lleoliad trawiadol i fyw a dysgu ynddo

Mae'r fro o gwmpas Aberystwyth mor hardd. Rhwng mynyddoedd y Canolbarth a glannau Bae Ceredigion, mae'n dirwedd brydferth o fryniau tirion, dyffrynnoedd, traethau a'r môr. Ac nid yw parciau cenedlaethol enwog Eryri a Sir Benfro yn bell, chwaith.

Darganfyddwch Aberystwyth