“Mae bod yn CP wedi rhoi'r cyfle i mi weithio tra byddaf yn astudio fel myfyriwr. Mae wedi rhoi cyfle i mi ryngweithio gyda myfyrwyr o wahanol flynyddoedd ac adrannau gyda chydweithwyr a gyda myfyrwyr sydd wedi mynychu digwyddiadau. Mae wedi rhoi'r hyder i mi ryngweithio ag eraill ac wedi dysgu mwy i mi am sgiliau hanfodol fel rheoli amser a chynllunio.” – Hannah Francis CP 2021-23.
"Mae bod yn Gynorthwyydd Preswyl wedi bod yn brofiad anhygoel. Mae wedi fy helpu i wella pob agwedd ar fy mywyd megis fy hyder a'm gwybodaeth am eraill. Mae wedi bod yn werth chweil gwybod fy mod wedi cael effaith gadarnhaol ar y myfyrwyr ar y campws ac wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl." - CP 2022-23
‘Roedd dewis ymgeisio ar gyfer y rôl CP yn un o'r penderfyniadau gorau a wnes i yn y brifysgol. Mae wedi rhoi cyfle gwych i mi gydbwyso gwaith ac astudio a hefyd meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb a rheoli amser. Mae bod yn Gynorthwyydd Preswyl wedi magu hyder newydd ynof wrth ryngweithio ag eraill trwy ddatblygu fy sgiliau rhyngbersonol wrth gynnig arweiniad a chynnal digwyddiadau i fyfyrwyr eu mwynhau. Byddwn yn argymell y rôl hon yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio ochr yn ochr â'u hastudiaethau." - CP 2022-23
"Mae cael y cyfle i weithio fel CP wedi rhoi cymaint o atgofion cadarnhaol i mi edrych yn ôl arnynt. Mae gweithio o fewn y tîm wedi fy ngalluogi i wella fy sgiliau trefnu, rheoli amser a chyfathrebu, ac rwyf wedi gallu addasu'r sgiliau hyn wrth weithio gyda'n preswylfeydd. Bydd y profiadau rwyf wedi'u meithrin o’r rôl hon yn fy helpu ymhellach yn fy llwybr gyrfa i’r dyfodol gan fod y rôl fel Cynorthwyydd Preswyl wedi fy ngwthio i weithio i orau fy ngallu." - CP 2022-23
"Roedd y rôl hon yn sicr yn fy nghymell i gamu y tu hwnt i’r hyn sy’n gyfforddus, ond roedd mor werth chweil gan fy mod wedi cael cyfle i dyfu a datblygu sgiliau newydd!" - CP 2022-23