Cliciwch ar un o’r penawdau isod er mwyn cael rhagor o arweiniad ac i gael gafael ar y ffurflen briodol.   

Myfyrwyr

Os nad oes gweithdrefnau mwy priodol ar gael ichi, cyflwynwch eich cwyn gan ddefnyddio’r Polisi Cwynion penodol sydd ar gael i fyfyrwyr: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/complaints/

Ymdrinnir â chŵynion a gyflwynir gan rieni neu warcheidwaid ar ran myfyrwyr Aberystwyth fel Cwynion gan y Cyhoedd yn Gyffredinol oni bai eu bod yn cael eu derbyn â chaniatâd ysgrifenedig penodol y myfyriwr. 

Staff

Os nad oes gweithdrefnau mwy priodol ar gael ichi, a’ch bod eisoes wedi rhoi cynnig ar ‘Ddatrysiad Cam 1’, llenwch Ffurflen Gweithdrefn Cam 2. 

Rhieni

Os ydych yn cynrychioli myfyriwr drwy ein proses bydd angen ichi sicrhau eich bod:   

  • yn deall eu cwyn; 
  • yn gwybod pa ganlyniad y mae’r myfyriwr yn chwilio amdano; ac  
  • yn gallu gweithredu er budd pennaf y myfyriwr, ac yn gwneud hynny, gan roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt trwy gydol y broses.   

Ffurflen Gweithdrefn Cam 2. 

Y Cyhoedd

Os nad oes gweithdrefnau mwy priodol ar gael ichi, a’ch bod eisoes wedi rhoi cynnig ar ‘Ddatrysiad Cam 1’, llenwch Ffurflen Gweithdrefn Cam 2.