Barn ein Myfyrwyr

Dr Shafiul Azam

Darlithydd mewn Economeg

"Mae Shafiul yn onest yn ei adborth ar weithgareddau/traethodau gyda chyfraniadau cadarnhaol ar yr hyn sy’n dda a’r hyn y gellir ei wella. Mae’n deg yn y dosbarth, yn enwedig i’r rhai sy’n ymdrechu. Mae ganddo bolisi drws agored rhwydd sy’n ei wneud yn hawdd cysylltu ag e."

Dr Sophie Bennett-Gillison

Darlithydd mewn Rheolaeth

“Ysgrifennaf hyn fel Cynrychiolydd Athrofa IMLIS gan fy mod wedi fy syfrdanu gan nifer y myfyrwyr sy’n credu bod Sophie yn haeddu cael ei henwebu mewn sawl categori yn y gwobrau hyn. Rwyf wedi clywed adroddiadau lu gan wahanol fyfyrwyr a chynrychiolwyr academaidd yn dweud eu bod wedi mwynhau ei dosbarthiadau a’u bod wedi cael mwy o lawer ganddi nag yr oedden nhw’n meddwl oedd yn bosib. Mae’n dysgu mewn modd blaengar, rhyngweithiol, ac yn gorfodi’r myfyrwyr i fynd y tu hwnt i’r cyfarwydd ac i fynd i’r afael yn ymarferol â chyrsiau busnes. Mae Sophie’n torri cysyniadau i lawr ac yn eu gwneud yn hawdd eu rheoli, mae’n annog y myfyrwyr i gyfrannu yn y dosbarth er mwyn cymhwyso’r ddamcaniaeth sy’n cael ei dysgu’n ymarferol, ac yn rhoi cyd-destun sut y bydd hynny’n ddefnyddiol ar gyfer gyrfa yn ogystal â llwyddo mewn arholiadau. Mae Sophie’n gefnogol, yn hawdd mynd ati a bob amser yn barod i helpu a chanddi agwedd gadarnhaol.”

Dr Ian Birchmore

Darlithydd mewn Cyfrifeg a Chyllid

"Mae wedi teithio’r ail filltir i sicrhau bod fy amser yma yn Aber mor ddifyr â phosiblOs oes gennyf broblem, boed academaidd neu beidio, mae bob amser yn gwneud ei orau i fy helpu i’w datrys."

Mr Timonthy Gillison

Darlithydd mewn Cyllid

"Mae Tim wedi mynnu agwedd ragweithiol gan ei fyfyrwyr. Mae’n haeddu’r enwebiad hwn am ei agwedd hamddenol, ond sydd hefyd yn cynorthwyo, at oruchwylio traethodau ymchwil. Drwy fod yn fwy o arweinydd mae wedi cael gwared ag unrhyw straen diangen, gan ddarparu unrhyw help, cyngor a chymorth a allai fod eu hangen ar fyfyriwr. Gwelwyd hyn orau drwy’r ffaith ei fod ar gael; drwy’r haf roedd ond un ebost i ffwrdd, a gellid trefnu cyfarfod wyneb yn wyneb yn hawdd. Yn olaf ond nid y lleiaf o bell, dangosodd ddealltwriaeth o faterion personol ac academaidd y gellid bod wedi eu hanwybyddu’n hawdd gan helpu’n briodol. Rhoi rhyddid yn eu gwaith i fyfyrwyr oedd y peth mwyaf defnyddiol a chynhyrchiol y gallai fod wedi’i wneud yn y sefyllfa hon, ac am hynny rwy’n ddiolchgar iddo."

Dr Ian Harris

Cymrawd Dysgu mewn Marchnata Digidol

"Allaf i ddim meddwl am neb sydd â gair drwg i’w ddweud amdano. Mae Ian wedi gwneud i fi fwynhau marchnata cymaint felly fel fy mod i’n gobeithio mynd ymlaen i wneud gradd meistr mewn marchnata a chysylltiadau cyhoeddus pan fyddaf i’n gorffen fy astudiaethau yma yn Aberystwyth. Mae ganddo berthynas wych gyda’i fyfyrwyr ac mae bob amser yna i gynnig cefnogaeth. Oni bai am Ian yn fy annog, fyddwn i ddim yn gwneud gystal ag ydw i ar hyn o bryd."

Rhydian Harry

Darlithydd Rhan-Amser

"Mae’n ddarlithydd allblyg iawn sy’n frwd dros y modiwlau mae’n eu dysgu. Mae’r ffaith ei fod yn sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i ganolbwyntio drwy beidio â siarad am gyfnod hir yn ei wneud yn haws i ganolbwyntio drwy’r ddarlith gyfan. Er nad yw’r dosbarth yn fach mae’n gwneud ymdrech i ddod i adnabod ei fyfyrwyr yn ystod ei ddarlithoedd sy’n gwneud i fyfyriwr deimlo’n fwy hyderus i siarad a thrafod yr erthyglau dan sylw."

Dr Aloysius Igboekwu

Darlithydd mewn Cyllid

"Aloysius sy’n gyfrifol am ein dysgu ni ac mae’n amyneddgar yn ateb pob cwestiwn yn y dosbarth neu’r tu allan i’r dosbarth. Roedd hefyd yn garedig am y broblem academaidd arall a wynebais i."

Dr Sarah Lindop

Darlithydd mewn Cyllid

"Athrawes anhygoel, mae bob amser yn barod iawn ei chymwynas, yn hawdd mynd ati ac yn gyfeillgar. Os ydych yn cael trafferth mae bob amser yn barod i eistedd i lawr ac egluro pethau. Mae’n rhoi’n hael o’i hamser i roi enghreifftiau ychwanegol ac i sicrhau eich bod yn deall pob cysyniad yn iawn.”

Dr Tiffany Low

Darlithydd mewn Marchnata Twristiaeth

"Mae Tiffany wedi bod yn oruchwyliwr rhagorol drwy gydol y broses, gan gynnig cymorth lle bo’n bosibl a darparu adborth beirniadol dwfn rhagorol mewn sesiynau un i un, sydd wedi cael effaith mawr ar y ffordd roeddwn i’n trin y prosiect. Er gwaethaf llwyth gwaith mae Tiffany bob amser wedi darparu arweiniad lle bo’n bosibl, o sgyrsiau wyneb yn wyneb i arweiniad gydag ymdrin â rhai meysydd yn y prosiect, ac arweiniad ar ffynonellau diddorol i edrych am wybodaeth am bwnc y traethawd. Yn gwbl onest dwyf i ddim yn meddwl y byddwn i wedi gallu gofyn am well goruchwyliwr traethawd hir, ac mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Tiffany dros y flwyddyn ddiwethaf."

Iain McDougall, Uwch Diwtor mewn Chyllid

"Helpodd Iain fi lawer iawn yn ystod cyfnodau o straen hyd yn oed pan nad oedd yn diwtor personol arnaf i (mae’n diwtor i mi bellach). Mae fy nhiwtor personol wedi newid sawl tro yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol am amrywiol resymau ond mae Iain wastad wedi bod yna i gynghori sydd wedi fy helpu i sylweddoli nad oedd pethau mor wael ag yr oeddwn i’n meddwl."

Dr Wyn Morris

Darlithydd mewn Rheoli

"Mae Wyn yn cymryd amser i egluro pethau i chi ac yn gwneud dysgu’n ddiddorol. Dyw e byth yn gwneud i chi deimlo’n fach pan fydd angen gofyn cwestiynau, dim ots pa mor amlwg yw’r ateb, ac mae e wastad yna os oes angen cymorth ychwanegol. Mae ganddo ddiddordeb gwirioneddol yn ei fyfyrwyr, ac mae wedi fy helpu i, nid yn unig yn academaidd, ond drwy roi hyder i fi a chefnogaeth i fynd ar hyd y llwybr rwy’n dymuno mynd ar ôl y brifysgol. Mae ganddo ddiddordeb bob amser mewn helpu ei fyfyrwyr a bydd bob amser yn gwneud amser os oes angen help arnoch chi. Mae’n eich trin chi fel oedolyn ac mae bob amser ar gael fel mentor sy’n rhoi hwb i’r hyder."

Professor Nicholas Perdikis

Athro Busnes Rhyngwladol

"Mae’r Athro Perdikis wedi llwyddo i ennyn diddordeb ei ddosbarth Busnes Rhyngwladol a Globaleiddio yn dda iawn. Mae ei ddarlithoedd wedi’u saernïo’n dda ac yn amrywiol, ac mae hynny’n gwneud cynnwys y modiwl yn haws i’w ddeall, ac yn fwy diddorol i’w astudio. Mae ei arddull dysgu’n gwneud pynciau dyrys yn haws i’w deall, sy’n golygu ein bod yn dod i wybod mwy a bod gennym well siawns o gael marc da. Mae ei ddull cynhwysol o ddysgu a’i brofiad helaeth fel darlithydd yn rhoi iddo awdurdod naturiol yn y dosbarth, ac ar yr un pryd mae’n hawdd iawn mynd ato i ofyn cwestiynau neu i drafod problemau.”

Dr Kyriaki Remoundou

Darlithydd mewn Economeg

"Yn fy ail flwyddyn roedd pawb yn dweud bod y traethawd hir yn yn anodd ei ysgrifennu. Un semester yn ddiweddarach fe gwrddais i â Dr Remoundou. Hi oedd fy narlithydd ac ar ddiwedd y modiwl roeddwn i’n gwybod y byddwn i’n gwneud fy ngorau i’w chael hi fel goruchwyliwr traethawd hir. Rhoddodd lawer o arweiniad a syniadau i fi, gan fy nghefnogi pan oeddwn i dan bwysau. Ymhellach, bob tro pan rwyf i’n mynd i’w swyddfa heb drefnu apwyntiad, mae hi’n hapus i fy helpu."

 

Megan Williams

Uwch Ddarlithydd Cyfrifeg

"Drwy gydol fy nghyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth, gwnaeth Megan yn siŵr ei bod hi yno pan oeddwn i’n cael amser caled. Mae’n dangos llawer o gefnogaeth i’r holl fyfyrwyr ar fy nghwrs a dylai gael ei chydnabod. Dwyf i ddim yn meddwl y byddwn i wedi cyrraedd fy mlwyddyn olaf oni bai am Megan."