Fe wnes i ddod i Aberystwyth yn awyddus i ddysgu, ac er fy mod i wedi ennill ysgoloriaeth ac wedi cael canlyniadau Lefel A gwych, roeddwn i’n nerfus am yr hyn oedd yn fy nisgwyl. O’r ddarlith gyntaf yn Aberystwyth, fodd bynnag, roeddwn i’n gweld bod darlithwyr gwych ymhlith y staff addysgu, nid yn unig y rhai â hanes hir yn y brifysgol, ond hefyd y rhai a oedd wedi ymuno â’r sefydliad yn fwy diweddar ac a fyddai’n gallu cynnig safbwyntiau a phrofiadau newydd. Roedd y staff newydd a’r staff profiadol fel ei gilydd yn agos-atoch ac yn barod iawn eu cymwynas. Roedd yna fodiwlau gwych hefyd. Fel y darlithwyr, roedd cymysgedd o’r hen a’r newydd, yn rhoi sylw i hanfodion rheolaeth yn ogystal â rhai o’r materion cyfoes, yn cael eu hasesu mewn nifer o ffyrdd, ac yn cynnig cyfle gwych i fyfyrwyr ddatblygu amrywiaeth eang o sgiliau gwahanol. Diolch i gefnogaeth grŵp hynod gyfeillgar o staff cymorth, doeddwn i byth yn teimlo fy mod ar goll neu’n ddigymorth.

Fel un o nifer o gynrychiolwyr cwrs yn y Fforwm Ymgynghorol Staff Myfyrwyr (ar ôl cael fy ethol gan fy nghyd-fyfyrwyr), fy ngwaith i oedd cyfleu barn y myfyrwyr i’r staff ac roeddwn hefyd yn un o’r cyntaf i glywed am gynlluniau’r brifysgol ar gyfer y sefydliad newydd ar gampws Llanbadarn. Roedd yn gyffrous gweld ein holl sylwadau ac awgrymiadau yn cael eu hystyried a’u hymgorffori. O’r hyn rydyn ni wedi’i weld, bydd y sefydliad newydd yn cynnig cyfleusterau gwych am flynyddoedd i ddod.

Gan fod fy nghwrs gradd yn cynnwys Almaeneg hefyd, treuliais flwyddyn yn astudio ym Mhrifysgol Düsseldorf, gyda chyfle yno i ychwanegu profiad gwych at fy CV yn ogystal â dysgu mwy am rai o fy hoff feysydd busnes.

Er bod Aberystwyth yn ymddangos fel tref glan môr dawel, mae hynny ymhell o fod yn wir! Gyda gormod o gymdeithasau a chlybiau chwaraeon i’w cyfrif, yn ogystal â chyfleoedd prifysgol eraill fel cystadlaethau busnes a darlithoedd gan weithwyr proffesiynol profiadol a darlithwyr gwadd yn y rhan fwyaf o bynciau, mae digon o gyfleoedd i fynd allan a chyfarfod â phobl a dydy gwneud ffrindiau byth yn broblem. Mae Prifysgol Aberystwyth yn fach ond mae ysbryd cymunedol cryf yma, rhwng myfyrwyr a staff yn ogystal ag ymhlith y myfyrwyr.

Er y bydd hi’n drist ffarwelio, bydd yr holl brofiadau a’r cysylltiadau rydw i wedi'u gwneud ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda mi o hyd. Diolch i aelodau staff gwych, rydw i bellach yn symud ymlaen i Brifysgol Aston ar gyfer gradd Meistr mewn Adnoddau Dynol. Rwy’n credu bod hyd a lled yr hyn rydw i wedi’i gyflawni a’i wneud yn Aberystwyth wedi fy helpu i ennill fy ysgoloriaeth i astudio yno, ac i ddal ati i ehangu fy CV a’m rhagolygon i’r dyfodol.