Dewis astudio Marchnata yn Aberystwyth oedd un o’r penderfyniadau gorau erioed.

Doeddwn i erioed wedi astudio Marchnata nac unrhyw gwrs sy’n gysylltiedig â busnes cyn mynd i’r brifysgol, felly doeddwn i ddim yn hollol siŵr beth i’w ddisgwyl. Yn y flwyddyn gyntaf, fe ges i drosolwg eang iawn o fusnes a oedd yn amhrisiadwy wrth i fi fynd i’r ail a’r drydedd flwyddyn – ac yn fwy fyth nawr, ar ôl i fi raddio! Ar ôl i fi gyrraedd fy ail flwyddyn, dechreuodd yr hwyl! Roeddwn i’n gallu defnyddio fy ochr fwy creadigol, ac ymdreiddio go iawn i’r seicoleg a’r dychymyg sy’n gysylltiedig â Marchnata. Roedd yn cynnig y cydbwysedd perffaith i fi o feddwl gydag ochr chwith ac ochr dde’r ymennydd, sydd mor bwysig. Yn fy nhrydedd flwyddyn, roedd un o’r modiwlau yn ymwneud â gweithio mewn tîm gyda busnes go iawn yn Aberystwyth i ddatblygu ei strategaethau marchnata. Fe wnaethon ni gyflwyno ein syniadau i’r busnes ar ddiwedd y modiwl, a oedd yn frawychus ond yn eithaf cyffrous.

Rwy’n hollol grediniol mai’r peth gorau am fy nghwrs oedd y darlithwyr – a na, wnaethon nhw ddim fy nhalu i ddweud hynny! Roeddwn i’n dod ymlaen yn dda gyda nhw i gyd; yn sicr, doeddwn i ddim yn teimlo mai dim ond rhif oeddwn i. Roedd drysau eu swyddfa bob amser ar agor, ac roedden nhw bob amser yn mynd yr ail filltir i helpu. Iddyn nhw mae’r diolch am yr hyder y gwnes i ei feithrin yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol. Roedd y cymysgedd o fodiwlau creadigol, strategol ac ymarferol hefyd yn wych.

Y tu hwnt i astudio, Aberystwyth yn bendant oedd y lle i fi. Er ei fod dros 250 milltir o gartref, roedd yn werth pob milltir o deithio! Mae pawb mor gyfeillgar; allwch chi ddim cerdded i fyny rhiw Penglais heb weld ffrindiau. Wedyn dyna i chi’r traeth - mae’n amhosib cyfri sawl barbeciw a noson gyda ffrindiau i fi eu treulio yno! Roeddwn i’n byw mewn tŷ ar lan y môr gyda thri o’m ffrindiau gorau.

Fe wnaeth fy nhiwtoriaid yn Aber fy annog i ddechrau chwilio am swydd yn gynnar iawn, ac fe wnaeth hynny dalu ar ei ganfed yn bendant. Fe wnaethon nhw fy helpu i baratoi ar gyfer cyfweliadau, a bydden nhw’n sôn yn gyson am swyddi perthnasol. O fewn pythefnos i adael Aber, roedd gen i swydd go iawn, ac roedd yn rhaid i fi gymryd amser i ffwrdd i fynd yn ôl ar gyfer y seremoni raddio! Rwy’n gweithio fel ‘Cynorthwyydd Marchnata’ gydag Evans Cycles (mân-werthwr beiciau blaenllaw ym Mhrydain). Rwy’n gwneud llwyth o bethau gwahanol bob dydd. Dyma’r swydd gyntaf berffaith, ac rwy’n bendant yn dal i ddysgu!