Adran 8.1 - Cyflwyniad

Mae partneriaethau cydweithredol Aberystwyth yn defnyddio'r egwyddorion arweiniol a nodir yng Nghod Ansawdd ar gyfer yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd  Uwch(QAA) – yn benodol Egwyddor 8 (Gweithredu partneriaethau â sefydliadau eraill) ac adran Cyngor ac Arweiniad (Partneriaethau) y Cod.

Rheoli, Sicrhau Ansawdd a Throsolwg

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, Pwyllgor Ddarpariaeth Gydweithrediadol sy'n gyfrifol am reoli ac arolygu gweithgaredd cydweithrediadol y Brifysgol ym Mhrydain ac yn rhyngwladol, ac am sicrwydd ansawdd y ddarpariaeth. Mae hyn yn cynnwys ymgeisio am drefniadau Partneriaeth, eu hasesu, ac adolygu'r holl drefniadau, a sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol ar gael os gwneir cais i'w hadolygu. Mae'r Pwyllgor yn sicrhau bod y Brifysgol a'i sefydliadau partner yn cadw at God Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch.

Y Pwyllgor sy'n cadw arolygaeth gyffredinol ar y Cod Ansawdd DU diwygiedig, ac mae ganddo'r cyfrifoldeb am fonitro a chloriannu safonau ac ansawdd academaidd y rhaglenni, gan gynnwys asesu ac adolygu mewnol ac allanol, ac mae'n gyfrifol am y themâu canlynol: Partneriaethau.

Mae Pwyllgor Ddarpariaeth Gydweithrediadol yn un o is-bwyllgorau'r Senedd. Y Senedd yw awdurdod academaidd y Brifysgol, ac mae'n atebol i'r Cyngor am swyddogaethau academaidd y Brifysgol - y dysgu a'r ymchwil - ac am reoleiddio buddiannau academaidd y myfyrwyr. Mae cynrychiolaeth o blith y myfyrwyr yn bresennol yng nghyfarfodydd y Pwyllgor a'r Senedd.

Partneriaethau Academaidd

Mae adran Partneriaethau Academaidd y Llawlyfr Ansawdd yn rhoi'r rheoliadau swyddogol ar gyfer datblygu, rheoli ac adolygu gweithgareddau cydweithrediadol. Mae hyn yn cynnwys amrywiol fathau o weithgareddau Partneriaeth a gweithgaredd Cydweithrediadol a amlinellir yn fanwl ym Mhennod Ansawdd - Adran 2 Mathau o Bartneriaethau a Phennod Ansawdd - Adran 2a APG_1 Cyfarwyddyd ynglŷn â Chymeradwyo a Llofnodwyr.

Cynlluniwyd y cyfarwyddyd hwn i hyrwyddo arfer da wrth ddatblygu Partneriaethau a sicrhau sefydlu systemau priodol a chymesur i nodi, rheoli a lleddfu'r risgiau.  

Mae'r Cod Ansawdd diwygiedig yn rhoi mwy o bwyslais ar gasglu adborth myfyrwyr a gweithredu arno, ar fframweithiau llywodraethu, ac yn arbennig ar wneud penderfyniadau ynglŷn ag adnewyddu neu derfynu cytundebau. Mae hefyd yn rhoi pwys ar sefydlu cytundebau ysgrifenedig gwahaniaethol yn ôl lefel risg y bartneriaeth. Mae PA wedi rhoi sylw i'r meysydd pwysigrwydd hyn trwy gynyddu cynrychiolaeth myfyrwyr ar bob lefel o fonitro ac arolygu Partneriaethau, a datblygu system 'goleuadau traffig' o gofnodi risg i'w defnyddio mewn adolygiadau ac adroddiadau ffurfiol, a pheidio â chanolbwyntio ar risg yn unig ar ddechrau prosiect trwy Asesiad Diwydrwydd Dyladwy a Risg.