A gaf i ysgrifennu o'm cartref (Myfyrwyr Ymchwil Uwchraddedig)?

Os hoffech ysgrifennu traethawd hir eich gradd Meistr o'ch cartref, bydd angen i chi drafod hyn â’ch arolygwr/wyr a chael eu caniatâd. Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, bydd angen ichi roi gwybod i'r Swyddfa Gydymffurfiaeth a darparu copi o fanylion y daith (bydd cadarnhad electronig o’r archeb yn ddigonol) cyn ichi adael y Brifysgol. Bydd y Brifysgol yn tynnu eich nawdd yn ôl a bydd eich fisa yn dod i ben. Bydd gofyn i’r Brifysgol roi gwybod am y newid hwn i’r Swyddfa Gartref a thynnu nawdd eich Fisa Myfyriwr yn ôl. O ganlyniad i hyn bydd eich fisa yn cael ei ddiddymul ac os bydd angen i chi ddychwelyd i’r wlad e.e. ar gyfer eich viva voce, bydd angen i chi gael/wneud cais am Fisa Ymweld.

Nodwch mai dim ond pan fyddwch wedi cyrraedd y cyfnod ysgrifennu (Abeyance) y gallwch ddychwelyd adref i ysgrifennu.  My hyn hefyd yn golygu na fyddwch yn gymwys i wneud cais am Fisa Llwybr Graddedig.