Israddedigion ac Uwchraddedigion a ddysgir drwy gwrs ar fisa myfyriwr
Mae'r dudalen hon wedi'i chynllunio fel crynodeb cyffredinol byr o'r disgwyliadau a’r gofynion o ran presenoldeb. Mae'n ofynnol i bob myfyriwr ddarllen a deall y polisi llawn. Mae hwn ar gael ar eich cofnod myfyriwr a hefyd yn yr adran Dolenni Defnyddiol ar y safle hwn.
- I gofnodi presenoldeb, rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio eu Cerdyn Aber ym mhob gweithgaredd addysgu y maent yn ei fynychu.
- Bydd y Brifysgol yn monitro ymroddiad pob myfyriwr i weithgareddau addysgu gorfodol drwy ddefnyddio pwyntiau cyswllt.
- Er mwyn cofrestru pwynt cyswllt, rhaid i fyfyriwr fynychu gweithgaredd addysgu drwy ddefnyddio eu Cerdyn Aber wrth fynychu darlith/seminar/sesiwn ymarferol ac ati.
- Y gofyniad lleiaf yn ystod cyfnodau addysgu yw dau bwynt cyswllt bob wythnos. Er mwyn bodloni'r gofyniad hwn, mae'n rhaid i’r myfyriwr fynychu gweithgaredd addysgu ar ddau ddiwrnod ar wahân yr wythnos.
Pan fydd myfyriwr yn ymroi i’w cwrs ac yn mynychu'r gofyniad lleiaf o ddau bwynt cyswllt yr wythnos, ni fydd y myfyriwr yn sbarduno'r broses uwchgyfeirio a amlinellir isod. Fodd bynnag, gall adran academaidd y myfyriwr gysylltu â nhw ar wahân o ran eu hymroddiad cyffredinol i’r cwrs.
Bydd myfyrwyr ôl-raddedig a addysgir yn ystod cyfnod traethawd hir y cwrs yn cwrdd â'u goruchwylwyr ar y campws unwaith y mis hyd nes cyflwyno'r traethawd hir yn derfynol.
Tra bod myfyrwyr ar leoliadau gwaith/Astudio Dramor/Blwyddyn mewn Diwydiant, bydd y Swyddfa Cydymffurfio ag UKVI yn gofyn am adroddiadau misol gan y myfyriwr a'u hadran/rheolwr sy'n cadarnhau eu bod wedi bod yn ymroi i/mynychu'r lleoliad.
Os na fydd myfyriwr yn ymroi i’w cwrs drwy fynychu'r gofyniad lleiaf o ddau bwynt cyswllt yr wythnos, bydd y broses uwchgyfeirio ganlynol yn cael ei gweithredu.
- Ar bob cam rhaid i fyfyrwyr ymateb i unrhyw e-bost a anfonir atynt gan y Swyddfa Cydymffurfio ag UKVI. Bydd methu ag ymateb i negeseuon e-bost am eu hymroddiad a'u presenoldeb gyda'u cwrs yn cael ei ystyried fel tystiolaeth bellach o beidio ag ymgysylltu â'r polisi.
