Myfyrwyr Y Ganolfan Saesneg Ryngwladol ar fisa Myfyrwyr

Cymerir cofrestr presenoldeb ym mhob dosbarth.

Bydd presenoldeb yn y dosbarth ac ymroddiad i’ch astudiaethau yn cael eu monitro'n agos.

Bydd presenoldeb isel ac absenoldeb anesboniadwy o'ch dosbarthiadau yn arwain at y camau a nodir isod.

Cam 1- 2 ddiwrnod o absenoldeb

Bydd absenoldeb anawdurdodedig ac anesboniadwy am uchafswm o ddau (2) ddiwrnod yn olynol yn cael ei ddwyn i sylw Rheolwr Gweinyddol y Ganolfan gan arweinydd y rhaglen a gwneir trefniadau i gysylltu â'r myfyriwr.   

Cam 2- 5 diwrnod o absenoldeb

Os na fydd y myfyriwr yn ymateb a’i fod yn absennol am dri (3) diwrnod arall yn olynol, adroddir am yr absenoldeb i’r Swyddfa Cydymffurfio ag UKVI, a fydd yn cysylltu â’r myfyriwr i roi gwybod iddynt bod eu fisa mewn perygl os ydynt yn methu ag ail-afael yn eu hastudiaethau. Cânt eu hannog i fynychu dosbarthiadau eto er mwyn osgoi camau pellach. Bydd yr achos yn cael ei fonitro'n agos gan staff y Ganolfan.

Cam 3- 10 diwrnod o absenoldeb

Os nad yw'r myfyriwr yn ymroi drachefn ac yn colli 5 pwynt cyswllt arall (cyfanswm o 10 pwynt cyswllt yn olynol), bydd ei achos yn dwysau ac yn cael ei gyfeirio at Arweinydd Gweithredol y Brifysgol ar gyfer Cydymffurfio ag UKVI (Swyddog Awdurdodi Noddwyr UKVI) gan gyflwyno achos dros dynnu’r nawdd Fisa Myfyriwr yn ôl.  Bydd yr achos yn amlinellu sut mae'r myfyriwr wedi torri Polisi Monitro Ymroddiad a Phresenoldeb Fisa Myfyrwyr y Brifysgol ac wedi methu â chadw at ei gyfrifoldebau Fisa Myfyrwyr fel yr amlinellir yn Llawlyfr Cyfrifoldebau Fisa Myfyrwyr y Brifysgol. 

Cam 4- Gwahardd

Bydd yr Arweinydd Gweithredol ar gyfer Cydymffurfio ag UKVI yn adolygu’r achos gan ymgynghori â’r Swyddfa Cydymffurfio ag UKVI. Os canfyddir nad yw'r myfyriwr wedi bodloni'r gofyniad ymroi lleiaf a nodir yn y polisi hwn, a bod y myfyriwr wedi methu â darparu rheswm boddhaol dros y diffyg ymroddiad, bydd yr Arweinydd Gweithredol ar gyfer Cydymffurfio ag UKVI yn cymeradwyo tynnu nawdd fisa’r myfyriwr yn ôl yn ffurfiol.  

Bydd y weithred hon yn golygu bod y myfyriwr yn cael eu gwahardd o'u cwrs yn barhaol.  Bydd y gwaharddiad yn cael ei gadarnhau gan Gofrestrydd Academaidd y Brifysgol.

Bydd llythyr gwahardd ffurfiol yn cael ei gyflwyno i'r myfyriwr.  Bydd nawdd ei Fisa Myfyriwr yn cael ei dynnu'n ôl, a bydd yn ofynnol iddynt adael y DU. 

Bydd presenoldeb cyffredinol myfyrwyr Y Ganolfan Saesneg Ryngwladol (canran) hefyd yn cael ei fonitro yn wythnosol.  Bydd camau yn cael eu cymryd fel a ganlyn:

Camau

Gweithred

Cam 1

Presenoldeb myfyriwr yn gostwng o dan 90%

·         Bydd gofyn iddynt gwrdd â'r Cydlynydd Cwrs i drafod eu presenoldeb

·          Byddant yn cael rhybudd ysgrifenedig

Cam 2

Presenoldeb y myfyriwr yn parhau i ostwng neu'n gostwng islaw 85%

·         Bydd yn ofynnol iddynt gwrdd â Swyddog Lles Y Ganolfan

·         Bydd ail rybudd yn cael ei anfon

Cam 3

Presenoldeb y myfyriwr yn gostwng o dan 80%

 

  • Bydd yn ofynnol iddynt gwrdd â Chyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Gyfadran.
  • Bydd Cytundeb Ysgrifenedig ar Bresenoldeb, Ymroddiad a Chynnydd yn cael ei drefnu.
  • Bydd trydydd rhybudd a'r rhybudd olaf yn cael ei anfon.

 

Cam 4

Presenoldeb yn parhau i fod yn is na 80%, heb gwellhad.

Bydd y canolfan yn gyfeirio’r achos at Arweinydd Gweithredol y Brifysgol ar gyfer Cydymffurfio ag UKVI (Swyddog Awdurdodi Noddwyr UKVI) (neu enwebai) i argymell bod y Myfyriwr yn gael eu eithrio o’r cwrs.

Cam 5

 

Arweinydd Gweithredol y Brifysgol ar gyfer Cydymffurfio ag UKVI (Swyddog Awdurdodi Noddwyr UKVI) (neu enwebai) a’r swyddfa Cydymffurfiaeth ag UKVI yn adolygu’r achos.

Os yw'r polisi uchod wedi'i dorri, yna byddant yn cymeradwyo tynnu nawdd y Fisa Myfyriwr yn ôl.

 

Cam 6

Bydd dileu’r nawdd fisa yn arwain at gael eich gwahardd o'r cwrs.  Bydd y gwaharddiad yn cael ei gadarnhau gan Gofrestrydd Academaidd y Brifysgol (neu unigolyn a enwebwyd)  a bydd gofyn i chi adael y DU