Tasgau Cofrestru i Uwchraddedigion

I fod yn fyfyriwr cofrestredig llawn ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i chi gwblhau'r Dasg Cofrestru Ar-lein.

Bydd y Tasg Cofrestru hon yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr.

Cyn y gallwch gwblhau'r Dasg Gofrestru Ar-lein rhaid i chi sicrhau eich bod wedi dewis eich modiwlau dewisol (os yn berthnasol). Rhaid i fyfyrwyr gymryd cyngor gan eu hadrannau cyn gwneud eu dewisiadau modiwl dewisol.

Mae amseriad cwblhau'r Dasg Gofrestru Ar-lein yn dibynnu ar ba fath o fyfyriwr ydych chi, a phryd y gwnaethoch gychwyn eich astudiaethau.

Mae'r Amserlenni y Tasgau Cofrestru isod yn nodi'r gwahanol fathau o fyfyrwyr, ac yn egluro pa Dasgau Cofrestru y bydd angen i chi eu cwblhau ac erbyn pryd - gwiriwch y penawdau perthnasol am ragor o wybodaeth.

Os byddwch angen cymorth yn ystod unrhyw gam o’r broses yma, peidiwch oedi cyn cysylltu a ni.

Cofrestru Ar-lein

Y cam olaf i fod yn fyfyriwr gyda ni yw'r Dasg Cofrestru Ar-lein.

Gofynnir i chi:

  • Cadarnhau eich manylion personol
  • Cadarnhau manylion eich Cynllun Astudio a Modiwlau*
  • Derbyn telerau ac amodau Prifysgol Aberystwyth
  • Cwblhau unrhyw ofynion cofrestru arall a nodi’r sydd heb ei gwblhau

* Cyrsiau Dysgu o Bell - ofynnir i chi gadarnhau eich Cynllun Astudio yn unig. Gellir prynu modiwlau yn unol â chanllawiau eich Adran Academaidd.

Pwy sydd angen cwblhau’r dasg yma?

  • Pob myfyriwr

Er mwyn cwblhau Cofrestru Ar-lein, ewch i’ch Cofnod Myfyriwr ac edrychwch am Gofrestru Ar-lein o dan Fy Nhasgau.

Mae rhaid i chi fod â’r rhwydwaith y Brifysgol (ar y campws neu drwy fewnrwyd y Brifysgol) er mwyn cwblhau Cofrestru Ar-lein. Ni fyddwch yn gallu cwblhau Cofrestru Ar-lein trwy ddefnyddio VPN, nac ar unrhyw rwydwaith arall.

Noder:

  • Myfyrwyr Dysgu o Bell: Ni ddisgwylir i chi gwblhau Cofrestru Ar-lein ar gampws Aberystwyth os ydych yn fyfyrwyr sy’n astudio ar gwrs Dysgu o Bell le cyflwynir y cwrs o bell.

Amserlenni y Tasgau Cofrestru

Myfyrwyr Uwchraddedig Newydd

Bydd y Dasg Cofrestru Ar-lein yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr. Unwaith i'ch adran(nau) gymeradwyo eich dewisiadau modiwlau, byddwch yn gallu cwblhau’r Dasg Cofrestru Ar-lein.

Mae rhaid i chi fod â’r rhwydwaith y Brifysgol (ar y campws neu drwy fewnrwyd y Brifysgol) er mwyn cwblhau eich Cofrestru Ar-lein. Ni fyddwch yn gallu cwblhau Cofrestru Ar-lein trwy ddefnyddio VPN, nac ar unrhyw rwydwaith arall.

Grŵp Myfyrwyr

Y Dasg

Ar gael o

Cwblhau erbyn

Myfyrwyr Uwchraddedig Newydd

Cofrestru Ar-lein

9:00yb - Dydd Llun, 21 Medi 2026

5:00yp - Dydd Mercher, 23 Medi 2026

Myfyrwyr Uwchraddedig Rhan-Amser sy'n Dychwelyd

Bydd y Dasg Cofrestru Ar-lein yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr. Unwaith i'ch adran(nau) gymeradwyo eich dewisiadau modiwlau, byddwch yn gallu cwblhau’r Dasg Cofrestru Ar-lein.

Mae rhaid i chi fod â’r rhwydwaith y Brifysgol (ar y campws neu drwy fewnrwyd y Brifysgol) er mwyn cwblhau eich Cofrestru Ar-lein. Ni fyddwch yn gallu cwblhau Cofrestru Ar-lein trwy ddefnyddio VPN, nac ar unrhyw rwydwaith arall.

Grŵp Myfyrwyr

Y Dasg

Ar gael o

Cwblhau erbyn

Myfyrwyr Uwchraddedig Rhan-Amser sy'n Dychwelyd

Cofrestru Ar-lein

9:00yb - Dydd Iau, 17 Medi 2026

5:00yp - Dydd Mercher, 23 Medi 2026

Myfyrwyr Dysgu o Bell

Noder nad oes angen i’r myfyrwyr Dysgu o Bell gwblhau’r dasg Rhag-Gofrestru. Gellir prynu modiwlau newydd drwy'r siop ar-lein, yn unol â chyngor eich Adran.

Bydd y Dasg Cofrestru Ar-lein yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr.

Ni ddisgwylir i chi gwblhau Cofrestru Ar-lein ar gampws Aberystwyth os ydych yn fyfyrwyr sy’n astudio ar gwrs Dysgu o Bell le cyflwynir y cwrs o bell.

 

Myfyrwyr Dysgu o Bell Newydd

Bydd Cofrestru Ar-lein ar gael i chi 9 diwrnod cyn y dyddiad cychwyn a nodir ar eich llythyr cynnig. Mae angen i chi gwblhau'r dasg o fewn 14 diwrnod o ddyddiad cychwyn eich cwrs.

 

Myfyrwyr Dysgu o Bell sy’n Dychwelyd

Noder y bydd y Dasg Cofrestru Ar-lein ar gael o ddydd Sadwrn 12 Medi i fyfyrwyr Dysgu o Bell sy’n Dychwelyd. Er hyn, ni fydd cymorth ar gael tan ddydd Llun 14 Medi - gweler y wybodaeth isod.

Grwp Myfyrwyr

Y Dasg

Tasg ar gael o

Argymhellir Cwblhau Erbyn

Myfyrwyr Dysgu o Bell sy’n Dychwelyd

Cofrestru Ar-lein

9:00yb - Dydd Sadwrn, 12 Medi 2026

5:00yp - Dydd Mercher, 23 Medi 2026

 Os ydych angen cymorth, gallwch gysylltu â'r Gofrestrfa Academaidd - Tîm Gweinyddiaeth Addysg Myfyrwyr:

Cofrestru ar Adegau Eraill o’r Flwyddyn

Dylai fyfyrwyr sydd yn dechrau yn ystod unrhyw amser heblaw am fis Medi gysylltu â'u hadran yn uniongyrchol i gael cyngor ar fodiwlau.

Bydd disgwyl i’r adran nodi’r modiwlau a gymeradwywyd ar eich Cofnod Myfyriwr. Yna bydd angen i chi gwblhau'r Dasg Cofrestru Ar-lein.

Dylai’r Dasg Cofrestru Ar-lein, fel arfer, fod ar gael i chi o leiaf 5 diwrnod cyn eich dyddiad cychwyn a rhaid ei gwblhau o fewn 5 diwrnod o'ch dyddiad cychwyn swyddogol. Bydd y Dasg Cofrestru Ar-lein yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr.

Cofrestru'n Hwyr

Am ragor o wybodaeth am cofrestru'n hwyr, gweler y dudalen Cofrestru'n Hwyr

Angen Cymorth?

Cymorth Sydd ar Gael i Gwblhau'r Dasg Cofrestru

Yn ystod yr Wythnos Groeso, ewch i’r Ddesg Gymorth Cofrestru yng nghyntedd Llyfrgell Hugh Owen:

  • Dydd Llun 21 Medi, 9:00yb i 5:00yp
  • Dydd Mawrth 22 Medi, 9:00yb to 5:00yp
  • Dydd Mercher 23 Medi, 9:00yb to 5:00yp

Gallwch hefyd gysylltu â'r Gofrestrfa Academaidd - Tîm Gweinyddiaeth Addysg Myfyrwyr: