Dylai fyfyrwyr sydd yn dechrau yn ystod unrhyw amser heblaw am fis Medi gysylltu â'u hadran yn uniongyrchol i gael cyngor ar fodiwlau.
Bydd disgwyl i’r adran nodi’r modiwlau a gymeradwywyd ar eich Cofnod Myfyriwr. Yna bydd angen i chi gwblhau'r Dasg Cofrestru Ar-lein.
Dylai’r Dasg Cofrestru Ar-lein, fel arfer, fod ar gael i chi o leiaf 5 diwrnod cyn eich dyddiad cychwyn a rhaid ei gwblhau o fewn 5 diwrnod o'ch dyddiad cychwyn swyddogol. Bydd y Dasg Cofrestru Ar-lein yn ymddangos o dan Fy Nhasgau ar eich Cofnod Myfyriwr.