Polisi E-gyflwyno ac E-adborth
1. Rhagair
- Mae Prifysgol Aberystwyth (PA) yn mynnu bod pob darn o waith cwrs sy'n destun a baratowyd ar raglen prosesu geiriau yn cael ei gyflwyno’n electronig gan fyfyrwyr. Gellir cyflwyno mathau eraill o waith yn electronig hefyd (e.e. fideo, sleidiau cyflwyno ac ati).
- Mae PA yn mynnu bod staff yn rhoi gradd ac adborth yn electronig trwy Blackboard, yr amgylchedd dysgu rhithiol.
- Dylai myfyrwyr gyflwyno eu gwaith trwy Blackboard (neu Canvas ar gyfer myfyrwyr Aber Ar-lein).
- Mae PA yn darparu offer Turnitin a Blackboard (gan gynnwys Blackboard Assignment a SafeAssign) ar gyfer e-gyflwyno. Mae gan fyfyrwyr Aber Ar-lein fynediad i offer cyflwyno yn Canvas.
- Mae'n bosib y bydd gwaith a gyflwynir yn electronig yn cael ei wirio yn awtomatig gan wasanaeth paru testun megis Turnitin a SafeAssign a gall yr wybodaeth hon gael ei defnyddio fel rhan o’r marcio a’r adborth. Gall adroddiadau hefyd gael eu defnyddio mewn ymchwiliadau i Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
- Mae'r polisi hwn i'w gael ar wefan y Brifysgol a chyfeirir ato yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd.
2. Diffiniadau
- Mae agweddau'r polisi hwn sy'n ymwneud â chyflwyno yn gymwys i bob gwaith i'w asesu sy'n destun a baratowyd ar brosesydd geiriau. Ni ddisgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith na chafodd ei baratoi ar brosesydd geiriau yn electronig os nad yw hyn yn bosibl yn dechnegol, er enghraifft:
- Llyfrau nodiadau
- Paentiadau, darluniau, a cherfluniau
- Perfformiadau
- Cyfraniadau seminar
- Arbrofion labordy
- Meddalwedd arbenigol
- Dylai marciau ac adborth ar gyfer gwaith nad yw’n cael ei gyflwyno’n electronig gael eu hychwanegu i golofn a grëwyd â llaw yn y Llyfr Graddau yn Blackboard (gweler 5.4)
- Mae hwn yn bolisi sy'n gymwys i waith a gyflwynir gan israddedigion, uwchraddedigion ar gyrsiau a ddysgir a myfyrwyr ymchwil uwchraddedig.
3. Defnyddio eich Data
- Gwasanaethau cwmwl yw Turnitin a Blackboard (a Canvas ar gyfer Aber Ar-lein). Felly mae'r cwmnïau’n dal gwybodaeth am staff a myfyrwyr.
- Mae'r wybodaeth yn cynnwys eich enw, cyfeiriad e-bost, y rhai a gofrestrwyd ar fodiwlau a'u swyddogaeth yng nghyswllt y modiwl. Bydd copi o waith a gyflwynwyd, sylwadau adborth a graddau hefyd yn cael eu storio.
- Hefyd, gallai staff PA ddefnyddio data a gynhyrchwyd o'r ddau wasanaeth yn rhan o wasanaeth Dadansoddi Dysgu PA. Gellir cael gwybodaeth am Ddadansoddi Dysgu yn https://www.aber.ac.uk/cy/infocompliance/dp/learning-analytics/
4. Cyflwyno gwaith
- Tîm Gweinyddiaeth Addysg Myfyrwyr y Gyfadran sy'n gyfrifol am greu mannau cyflwyno safonol a mannau cyflwyno estyniad modiwlau Blackboard i bob e-gyflwyniad. Rhaid i'r mannau cyflwyno gynnwys gwybodaeth berthnasol i fyfyrwyr, gan gynnwys y dyddiad cau i gyflwyno'r aseiniad. Caiff mannau cyflwyno Aber Ar-lein eu creu gan swyddog Cynnwys Dysgu Aber Ar-lein.
- Oni bai bod rhesymau penodol i beidio â gwneud hynny, dylai'r dyddiad a'r amser cau fod rhwng dydd Llun a dydd Gwener yn ystod oriau swyddfa.
- Dylai adrannau sy'n gosod terfynau amser y tu allan i'r tymor sicrhau bod cymorth priodol ar gael i fyfyrwyr a allai fod â chwestiynau am eu cyflwyniad a’u haseiniad. Dylid cynnwys cyngor clir ar bwy i gysylltu â nhw os oes angen cymorth ar fyfyrwyr ar safle’r cwrs ar-lein. Mae manylion am y cymorth a gynigir gan y Gwasanaethau TG ar gael ar y dudalen we, Cysylltu â’r GTG.
- Dylai myfyrwyr gyflwyno'u gwaith mewn da bryd cyn yr amser a’r dyddiad cau. Ni fydd trafferthion TG yn cael eu hystyried yn 'amgylchiadau arbennig' (gweler adran 3.8 yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd).
- Dylai adrannau drefnu sesiwn ymarfer cyflwyno i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf cyn y dyddiad cau cyntaf. Dylai myfyrwyr fanteisio ar hyn i wneud yn sicr eu bod yn deall sut i gyflwyno ac i weld a allant gyflwyno'n iawn o'r cyfrifiadur y byddant yn ei ddefnyddio.
- Dylai myfyrwyr wirio bod eu gwaith wedi cael ei gyflwyno'n llwyddiannus. Dylai myfyrwyr gadw copi o'r dderbynneb cyflwyno a'i gadw'n ddiogel (mae canllawiau ar gael ar gyfer Turnitin a Blackboard). Os nad ydynt yn gallu gweld y dderbynneb, dylai myfyrwyr wirio a rhoi gwybod i'r Tîm Addysg Ddigidol a'u hadrannau ar unwaith am unrhyw broblemau. Cynghorir myfyrwyr Aber Ar-lein i gysylltu ag aberarlein@aber.ac.uk os bydd problem. Mae canllaw ar wirio cyflwyniad Canvas ar gael yn y Canllaw Canvas i Fyfyrwyr.
- Dylid sefydlu’r holl fannau cyflwyno i ganiatáu i fyfyrwyr gyflwyno sawl gwaith cyn y dyddiad cau.
- Dylid sefydlu mannau cyflwyno ar Turnitin i ganiatáu i fyfyrwyr weld eu hadroddiad gwreiddioldeb. Mae cyfarwyddyd i fyfyrwyr ar ddehongli'r adroddiad paru testun ar gael yng nghanllawiau'r llyfrgell ar Gyfeirnodi a Llên-ladrad.
- Rhaid i'r mannau cyflwyno gael eu gosod i gyflwyno'n ddienw oni bai bod rheswm penodol i beidio â gwneud hynny.
- Os bydd cofrestriad y myfyrwyr wedi’i atal neu eu cyfrifon wedi’u cloi ni fyddant yn gallu cyflwyno eu gwaith. Bydd myfyrwyr yn y sefyllfa hon wedi derbyn negeseuon e-bost gan y brifysgol am hyn a fydd yn cynnwys manylion am sut i fynd i'r afael â'r sefyllfa. Gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio'r dudalen we Gwiriwch fod eich cyfrif TG Prifysgol Aberystwyth yn gweithio i weld statws eu cyfrifon a darganfod â phwy i gysylltu i gael mwy o gymorth.
5. Rhoi Gradd ac Adborth
- Mae polisi PA ynglŷn ag adborth yn rhan o'r Llawlyfr Ansawdd Academaidd. Mae'r polisi yn cynnwys gwybodaeth am Egwyddorion Adborth Effeithiol PA.
- Dylai staff roi adborth i fyfyrwyr o fewn 15 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cyflwyno. Dydd Llun i ddydd Gwener pan fydd y Brifysgol ar agor yw'r dyddiau gwaith cydnabyddedig. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn Llawlyfr Ansawdd Academaidd PA.
- Rhaid rhoi marciau ac adborth trwy Blackboard (neu Canvas ar gyfer cyrsiau Aber Ar-lein). Gall staff ddefnyddio'r offer adborth sydd wedi'u hymgorffori yn Turnitin neu Blackboard i roi gradd ac adborth.
- Dylid rhoi marciau ac adborth i waith na chafodd ei gyflwyno'n electronig trwy ychwanegu colofn â llaw i'r llyfr graddau yn Blackboard. Mae hyn yn cynorthwyo myfyrwyr i gadw'r adborth mewn un lle, a gweld manylion eu marciau ar draws y modiwl. Mae hefyd yn caniatáu trosglwyddo marciau o Blackboard i AStRA. Os nad yw'n bosib rhoi adborth yn electronig, bydd staff yn rhoi gwybodaeth glir i fyfyrwyr ynglŷn â sut a phryd y bydd yr adborth yn cael ei roi.
- Nid oes angen adborth ar gyfer marciau arholiad a ychwanegir i Blackboard (mae canllawiau ar adborth ar gyfer arholiadau ar gael yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd).
- Mae canllawiau ar gyfer defnyddio adroddiadau paru testun mewn archwiliadau i achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol i'w cael yma: UAPF adroddiad ymchwiliad (sydd ar gael yn adran 3.13 o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd)
- Gellir defnyddio adroddiadau paru testun mewn archwiliadau i achosion o Ymddygiad Academaidd Annerbyniol.
6. Traethodau Hir
- Dylai pob traethawd hir israddedig ac uwchraddedig trwy gwrs gael eu cyflwyno'n electronig.
- Bydd gofyn i fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig gyflwyno gwaith yn electronig ar gyfer prosesu eu traethawd PhD i'w arholi.
7. Cyfnod Cadw
- Mae cyrsiau Blackboard, gan gynnwys marciau yn y llyfr graddau, yn cael eu cadw am bum mlynedd. Mae dogfennau a gyflwynir, gan gynnwys adborth, yn cael eu cadw yn Blackboard tan y bwrdd arholi nesaf o leiaf. Mae cyrsiau Aber Ar-lein gan gynnwys cyflwyniadau a marciau yn cael eu cadw am 5 mlynedd.
- Nod y brifysgol yw sicrhau bod dogfennau a gyflwynir ar gael i'w gweld am bum mlynedd, ond efallai na fydd hyn bob amser yn bosib oherwydd newidiadau i dechnoleg. Hysbysir staff a myfyrwyr am unrhyw newidiadau o ran gweld dogfennau a gyflwynir.
- Oherwydd newidiadau i dechnegol, ar hyn o bryd gellir mynd yn ôl i'r Flwyddyn Academaidd 2022-23 i weld aseiniadau Turnitin.
- Gall myfyrwyr weld y marciau, ac os ydynt ar gael, y dogfennau a’r adborth a gyflwynwyd, tan y bydd eu cyfrif yn cau neu tan ddaw'r cyfnod pum mlynedd i ben (p'un bynnag sy'n digwydd gyntaf).
- Os bydd myfyrwyr yn dymuno cadw copïau o'r gwaith a gyflwynwyd a/neu'r adborth ar ôl iddynt adael PA dylent eu lawr lwytho cyn gadael. Ni all y brifysgol warantu darparu copi o unrhyw waith a gyflwynwyd ar ôl i fyfyriwr adael.
8. Hawlfraint
- Myfyrwyr sy'n cadw hawlfraint i'w gwaith gwreiddiol a gyflwynwyd i Turnitin. Mae gwybodaeth am ddatganiad hawlfraint Turnitin i'w weld ar wefan Turnitin.
- Gall myfyrwyr ychwanegu eu gwaith yn wirfoddol at Gronfa Ddata Cyfeirio Byd-eang SafeAssign, ac nid yw Blackboard yn hawlio perchnogaeth ar bapurau a gyflwynwyd.
- Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd staff yn dymuno gosod aseiniad nad yw'n ychwanegu'r cyflwyniadau i gronfa ddata ganolog Turnitin. Gellir defnyddio hyn i aseiniadau drafft neu aseiniadau sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol.
9. Trafferthion TG
- Pe byddai'r system gyfrifiadurol yn methu ar raddfa sylweddol am fwy na dwy awr rhwng 9am a 5pm ar unrhyw ddiwrnod yn yr wythnos waith, byddai dyddiadau cau cyflwyno a marcio'r diwrnod hwnnw'n cael eu hymestyn 24 awr (tan y diwrnod gwaith nesaf). Dim ond methiannau i wasanaethau y mae PA yn tanysgrifio iddynt fydd yn cael eu hystyried.
- Os mai Blackboard sy'n methu, bydd hyn yn effeithio ar bob dyddiad cau (Blackboard Assignments ac offer Blackboard eraill a ddefnyddir i asesu yn ogystal â Turnitin).
- Os mai Turnitin sy'n methu, dim ond aseiniadau Turnitin a effeithir.
- Bydd y Tîm Addysg Ddigidol yn monitro pob achos o'r fath. Bydd yr Arweinydd Addysg Ddigidol neu Reolwr y Gwasanaethau Llyfrgell, Academaidd a Digidol yn penderfynu pryd i weithredu'r cynllun methiant TG gan hysbysu'r Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth Dros Dro a'r Cofrestrydd Academaidd. Yna, anfonir y penderfyniad at y Dirprwy Gofrestrydd – Gweinyddiaeth Addysg Myfyrwyr y Gyfadran, sy'n gyfrifol am gysylltu â'r holl fyfyrwyr perthnasol. Pan fo’n briodol, bydd staff Aber Ar-lein yn cael gwybod a hwy fydd yn gyfrifol am gysylltu â myfyrwyr Aber Ar-lein.
- Bydd methiannau eraill (megis y rhai ar systemau trydydd parti sylweddol), tarfiadau pŵer eang ac ati yn cael eu hystyried gan y Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr (neu Ddirprwy Is-Gangellorion Cynorthwyol Cyfadrannol ar gyfer Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr), fesul achos. Bydd y trefniadau ar gyfer cyfathrebu a diwygiadau fel ag y nodir yn 9.4.
- Bydd y Tîm Addysg Ddigidol hefyd yn anfon negeseuon trwy Newyddion GG, y cyfryngau cymdeithasol a thudalen Statws GG.
- Pan fydd y system yn gweithio unwaith eto, bydd y Dirprwy Gofrestrydd – Gweinyddiaeth Addysg Myfyrwyr y Gyfadran yn trefnu i ddiweddaru pob man cyflwyno perthnasol gan roi'r dyddiad a'r amser cau newydd.
10. Hygyrchedd
- Mae Turnitin yn rhoi gwybodaeth am hygyrchedd eu cynnyrch ar eu gwefan. Mae gwybodaeth ynglŷn â chael mynediad i Blackboard hefyd i'w chael ar eu gwefan. Os yw staff yn cael trafferthion wrth ddefnyddio Turnitin dylent gysylltu â Phennaeth yr Adran a staff y Tîm Addysg Ddigidol.
- Er gwaethaf lobïo helaeth, nid oes fersiwn Gymraeg o Turnitin i'w gael. Ond, gellir defnyddio Turnitin i gyflwyno papurau yn y Gymraeg a'u gwirio am wreiddioldeb (mae pob Prifysgol yng Nghymru'n defnyddio Turnitin). Os yw staff yn dymuno rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer cyflwyno a marcio dylent ddefnyddio offer 'Blackboard Assignment'. Mae Blackboard SafeAssign hefyd ar gael yn Gymraeg.
Cefnogaeth ac Arweiniad
Mae’r Tîm Addysg Ddigidol yn cynnig cymorth a hyfforddiant i staff ynglŷn ag e-gyflwyno. Ceir mwy o wybodaeth ar dudalennau gwe E-gyflwyno.
Staff: Gall marcio ar-lein olygu amser ychwanegol wrth gyfrifiadur ar adegau penodol o'r flwyddyn. Mae'n bwysig sicrhau bod eich gweithfan wedi'i drefnu i'ch cefnogi, mae rhagor o wybodaeth am drefnu priodol ar gael ar wefan Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd. Dylai cydweithwyr gwblhau asesiad VDU a'i anfon i'w rheolwr llinell i weithredu. Mae cymryd seibiannau o'r sgrin, er enghraifft 5 i 10 munud yr awr yn well na 20 munud bob 2 awr.
Myfyrwyr: Efallai y byddwch chi'n gweithio ar eich sgrin am gyfnodau hirach wrth ysgrifennu eich aseiniadau. Mae'n arfer da sicrhau bod gennych weithfan addas wedi'i drefnu. Mae gweithio'n ddiogel gydag offer sgrin arddangos - IDA, yn ofyniad wrth fynd i mewn i weithle. Mae cymryd seibiannau o'r sgrin, er enghraifft 5 i 10 munud yr awr yn well na 20 munud bob 2 awr.
Mae'r Polisi hwn yn cael ei gynnal gan y Gwasanaethau Gwybodaeth. Fe’i adolygwyd ddiwethaf ym mis Chwefror 2026 gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau a bydd yn cael ei adolygu eto ym mis Chwefror 2027.
