Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer farmGRAZE

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i ap symudol farmGRAZE.

Rheolir yr ap symudol hwn gan Brifysgol Aberystwyth. Rydym yn dymuno i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r ap hwn.

Datblygwyd yr ap gan staff y Brifysgol.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r ap hon

Rydym yn gwybod nad yw rhannau o’r ap hwn yn gwbl hygyrch:

  • Nid oes labeli gan rai meysydd ar ffurflenni.
  • Nid yw rhai o'r botymau'n ddigon mawr
  • Mewn rhai meysydd, lliw yw'r unig ffordd o ddweud y gwahaniaeth rhwng eitemau.

I gael manylion, gweler ein datganiad hygyrchedd technegol.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os bydd angen gwybodaeth o’r ap hwn arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, a fyddech cystal â chysylltu â ni.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r ap hwn

Os dewch o hyd i broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y tudalennau hyn neu os ydych yn meddwl nad ydym yn ateb gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Y drefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).