Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer Cwrs Mynediad a Cwrs Sylfaen

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i fersiynau Android ac iOS o ap symudol ApAber, a fersiynau Android ac iOS o ap Cwrs Sylfaen.

Rheolir yr apiau symudol hyn gan Brifysgol Aberystwyth. Rydym yn dymuno i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r apiau hyn.

Datblygwyd yr apiau hyn gan staff y Brifysgol.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r apiau hyn

Rydym yn gwybod nad yw rhannau o’r apiau hyn yn gwbl hygyrch:

  • Nid yw rhai o'r botymau'n ddigon mawr
  • Nid oes cyferbyniad lliw digonol mewn rhai ardaloedd

I gael manylion, gweler ein datganiad hygyrchedd technegol.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os bydd angen gwybodaeth o’r apiau hyn arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, a fyddech cystal â chysylltu â ni.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r apiau hyn

Os dewch o hyd i broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y tudalennau hyn neu os ydych yn meddwl nad ydym yn ateb gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Y drefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).