Datganiad Hygyrchedd
Datganiad Hygyrchedd ar gyfer WordPress Prifysgol Aberystwyth
Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r holl dudalennau gwe sy’n dechrau https://wordpress.aber.ac.uk/.
Rheolir y wefan hon gan Brifysgol Aberystwyth. Rydym yn dymuno i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, bwriedir eich bod yn gallu:
- newid lliwiau a ffontiau
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw’r cyferbyniad lliw yn ddigon da mewn mannau
- nid yw rhai tudalennau’n defnyddio penawdau’n gywir
Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod ar gael am y rhesymau canlynol.
Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
Lliw
Does dim digon o gyferbyniad lliw mewn rhywfaint o’r testun. Mae hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o ddolenni ar rai blogiau, gan ddibynnu ar y thema blog sy'n cael ei defnyddio. Gall hyn olygu na all pobl â nam ar eu golwg ddarllen y testun. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1, sef Cyferbyniad (Lleiaf).
Penawdau
Mae gan rai tudalennau nifer o benawdau lefel 1. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.
Mae rhai tudalennau'n sgipio un lefel o benawdau. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.
Delweddau
Mae rhai delweddau heb destun fel dewis amgen. Mae hyn yn golygu nad yw'r wybodaeth yn y delweddau ar gael i bobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.1, sef Cynnwys Annhestunol.
Dolenni
Mae gan rai penawdau, sydd hefyd yn ddolenni, deitlau, felly mae’r testun yn cael ei ddarllen ddwywaith gan Ddarllenwyr Sgrin. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1, sef Diben Dolen (Yn ei Chyd-destun).
Mae gan rai tudalennau nifer o ddolenni sy’n defnyddio'r un testun. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1, sef Diben Dolen (Yn ei Chyd-destun).
Yr hyn rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn ymchwilio i themâu gwahanol yn WordPress a allai fod yn fwy hygyrch. Rydyn ni hefyd yn gwirio dogfennau i weld a oes modd gwneud newidiadau mwy sylfaenol i safleoedd blog, gan gynnwys atal teitlau blog rhag bod yn bennawd lefel 1 a newid sut mae teitlau’n cael eu defnyddio ar ddolenni sydd eisoes yn cynnwys testun. Efallai na fydd yn bosibl gwella’r hygyrchedd ym mhob maes, gan ddibynnu ar gyfyngiadau'r feddalwedd.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 3/9/20. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 3/9/20.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 3/9/20. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan ddefnyddio cyfuniad o brofion â llaw ac awtomataidd.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os bydd angen gwybodaeth o’r wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, a fyddech cystal â chysylltu â ni.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Os dewch o hyd i broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y tudalennau hyn neu os ydych yn meddwl nad ydym yn ateb gofynion hygyrchedd, chysylltu â ni.
Y drefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
