Datganiad hygyrchedd Libguides

Rhedir gwefan LibGuides SpringShare gan Brifysgol Aberystwyth.   Rydym ni'n awyddus i gymaint â phosib o bobl allu defnyddio'r wefan hon ac rydym yn ymroddedig i sicrhau hygyrchedd digidol i bobl sydd ag anableddau. Er enghraifft, golyga hynny y dylech chi allu:

  • Chwyddo'r testun i 200% o leiaf heb iddo fynd oddi ar y sgrin
  • Symud drwy'r wefan gan ddefnyddio dim ond bysellfwrdd
  • Neidio i'r prif gynnwys gan ddefnyddio 'tab' ar eich bysellfwrdd
  • Mae modd defnyddio darllenydd sgrin gyda'r wefan
  • Symud drwy'r wefan gyda thechnoleg adnabod llais

Mae cyngor ar AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd. Elusen ym Mhrydain yw AbilityNet sy'n bodoli i newid bywydau pobl anabl drwy eu helpu i ddefnyddio technoleg ddigidol yn y gwaith, yn eu cartref neu mewn addysg. Cewch fwy o wybodaeth am AbilityNet yn: https://www.abilitynet.org.uk/ 

Camau i gynorthwyo hygyrchedd

Rydym ni'n cymryd y camau canlynol er mwyn sicrhau bod gwefan Prifysgol Aberystwyth yn hygyrch i bawb:

  • Sicrhau bod cynnwys y Llyfrgell (drwy ddarparwyr trydydd parti) ar gael i bawb ac yn bodloni anghenion ein myfyrwyr i gyd.
  • Sicrhau ein bod yn cadw at ddeddfwriaeth a gofynion hygyrchedd presennol

Pa mor hygyrch yw ein gwefan?

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o LibGuides ar gael i bawb:

  • Nid oes testun amgen i'w weld ar gyfer rhai delweddau
  • Nid oes testun gweladwy (eiconau) ar gyfer rhai o'r dolenni
  • Nid oes modd darllen rhywfaint o'r cynnwys (teitlau, blychau a thabiau) gyda darllenydd sgrin

Beth ydym ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Ar hyn o bryd rydym yn mynd i'r afael â'r materion hyn drwy ychwanegu testun amgen priodol i ddelweddau.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd ar y wefan

Rydym yn awyddus i ddal ati i wella hygyrchedd y gwefannau hyn. Os gwelwch chi unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi'n teimlo nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: gg@aber.ac.uk gan nodi'r problemau penodol yr ydych yn eu cael, ac fe ymatebwn.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Diweddarwyd y datganiad hwn ar 12 Awst 2020. Adolygiad diweddaraf ar 12 Awst 2020.