Datganiad Hygyrchedd Technegol

Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd yr ap hwn

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei apiau yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r ap hwn yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod ar gael am y rhesymau canlynol.

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae rhai rhannau o'r ap yn defnyddio graffiau a siartiau i arddangos data. Mae'n bosibl cael mynediad i'r data trwy glicio ar y botwm export ac e-bostio taenlen, ond nid yw hyn yn amlwg. Golyga hyn na fydd modd i rai defnyddwyr gael mynediad i'r data angenrheidiol o bosibl. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n Destun) CHCG 2.1.

Nid oes testun amgen ar gyfer rhai lluniau yn yr ap. Golyga hyn nad yw'r wybodaeth ynddynt ar gael i ddefnyddwyr sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 (Cynnwys nad yw'n Destun) CHCG 2.1.

Nid oes labeli gan rai meysydd ar ffurflenni yn yr ap. Gall hyn olygu nad yw'n glir i'r defnyddwyr sy'n llenwi'r ffurflen pa ddata y dylid ei roi yn y maes. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Nid yw'r olwynion dewis ar gyfer dewis hyd glaswellt yn cael eu darllen allan i ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Golyga hyn na fydd defnyddwyr sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gallu dewis un o'r opsiynau yn yr olwyn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Nid yw rhai tablau yn yr ap wedi'u marcio'n gywir. Golyga hyn na fydd defnyddwyr sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn ymwybodol fod y testun sy'n cael ei ddarllen allan mewn tabl, neu i ba golofn y mae'r data'n perthyn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Ni all y darllenydd sgrin ddarllen rhai rhannau o'r testun yn yr ap, er enghraifft testun mewn naidlenni. Golyga hyn na fydd defnyddwyr sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gallu cael mynediad i'r wybodaeth hon. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Mae rhai rhannau o'r ap yn defnyddio lliw yn unig i wahaniaethau rhwng canlyniadau. Golyga hyn fod posibilrwydd na fydd defnyddwyr sydd â nam ar eu golwg yn gallu deall y canlyniadau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.1 (Defnyddio Lliw) CHCG 2.1.

Ar rai dyfeisiau nid yw rhannau o'r ap (botwm dewisiadau) yn cael eu dangos ar y sgrin. Golyga hyn na all unrhyw un eu defnyddio. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.10 (Ail-lifo) CHCG 2.1.

Nid oes enwau gan rai o'r botymau yn yr ap. Golyga hyn nad yw defnyddwyr sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gwybod beth mae pob un o'r botymau yn ei wneud. Golyga hyn hefyd na fydd defnyddwyr sy'n defnyddio lleferydd i destun yn gallu cael mynediad iddynt. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1 na maen prawf llwyddo 2.5.3 (Labelu Enw) CHCG 2.1.

Mae rhai botymau a meysydd ffurflen yn yr ap yn rhy fach. Golyga hyn y gallai fod yn anodd i rai defnyddwyr eu hysgogi. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.5.5 (Maint Targed (AAA)) CHCG 2.1.

Beth rydym yn ei wneud i wella Hygyrchedd

Byddwn yn archwilio'r defnydd o'r ap hwn i asesu a yw'n werth ei drwsio. Os yw'r defnydd yn isel iawn byddwn yn tynnu'r ap o'r gwasanaeth.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 14 Mehefin 2021. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 14 Mehefin 2021.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 14 Mehefin 2021. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan ddefnyddio cyfuniad o brofion â llaw ac awtomataidd.