Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer tudalennau swyddi gwag Prifysgol Aberystwyth

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i bob gwe-dudalen â chyfeiriad gwe sy'n cychwyn â jobs.aber.ac.uk

⁠Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan Brifysgol Aberystwyth. Mae arnom eisiau i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, golyga hynny y dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais;
  • chwyddo'r dudalen hyd at 4% heb i'r testun gael ei wthio oddi ar y sgrin
  • symud drwy'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd;
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gyda darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver).

Rydym ni hefyd wedi sicrhau bod y testun ar y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae cyngor gan AbilityNet ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • mae rhai o'n dolenni'n defnyddio testun sy’n cael ei ailadrodd
  • mae rhai tudalennau'n hepgor lefel pennawd
  • nid yw rhai botymau’n cynnwys testun amgen
  • nid yw rhai meysydd yn nodi eu pwrpas yn rhaglennol, er mwyn caniatáu i borwyr helpu defnyddwyr i lenwi ffurflenni gyda gwybodaeth hysbys
  • mae rhai rhestrau ond yn cynnwys un eitem
  • mae rhywfaint o'r cynnwys ar ein tudalennau y tu allan i unrhyw dirnod
  • nid yw rhai cydrannau rhyngwyneb defnyddiwr a rheolaethau ffurflen yn ymddangos yn ddigon gwahanol i'w hamgylchedd

Adborth a gwybodaeth am gysylltu

Os gwelwch chi unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi'n teimlo nad ydym yn bodloni'r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth.

Os ydych chi angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, gwybodaeth hawdd i'w darllen, recordiad sain neu braille:

  • e-bostiwch digital-accessibility@aber.ac.uk
  • ffoniwch 01970 622400
  • ymweld â’r ddesg gymorth yn Llyfrgell Hugh Owen, ar Gampws Penglais

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith.

Gweithdrefn gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi ⁠Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych chi'n fodlon â'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Profwyd y wefan yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (CHCG) [2.1].

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Mae llawer o'r gwelliannau a nodwyd y tu allan i allu'r Brifysgol i'w datrys, gan ei bod yn caffael y system gan ddarparwr trydydd parti. Bydd y Brifysgol yn gweithio gyda'r darparwr trydydd parti (Hireserve) i geisio canfod atebion ar gyfer y canlynol, lle bynnag y bo modd, o fewn y 12 mis nesaf:

  • Nid yw rhai botymau yn cynnwys testun amgen, sy'n golygu efallai na fydd pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gallu adnabod diben y botymau hyn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.6 (Penawdau a Labeli) CHCG 2.1.
  • Nid yw rhai cydrannau rhyngwyneb defnyddiwr a rheolaethau ffurflen yn ymddangos yn ddigon gwahanol i'w hamgylchedd, fel bod pobl â nam ar eu golwg yn dal i allu eu gweld yn glir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.11 (Cyferbynnedd nad yw'n Destun) CHCG 2.1.
  • Nid yw rhai dogfennau sydd ar gael ar ein gwefan yn hygyrch gan nad oes ganddynt destun amgen ar ddelweddau, nid ydynt wedi'u strwythuro'n gywir neu mae ganddynt broblemau gyda thablau, penawdau a rhestrau. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.
  • Nid yw rhai meysydd yn nodi eu pwrpas yn rhaglennol, er mwyn caniatáu i borwyr helpu defnyddwyr i lenwi ffurflenni gyda gwybodaeth hysbys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.5 (Nodi Pwrpas Mewnbwn) CHCG 2.1.
  • Mae rhai tudalennau'n hepgor lefel pennawd. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.
  • Nid yw rhai penawdau cyswllt adran wedi'u gosod fel eitemau rhestr. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.10 (Penawdau Adrannau) CHCG 2.1.
  • Mae rhywfaint o'r cynnwys ar ein tudalennau y tu allan i unrhyw dirnod. Gallai hyn fod yn ddryslyd i'r bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.1 (Osgoi Blociau) CHCG.
  • Mae rhai tudalennau yn cynnwys dolenni cyswllt sy'n defnyddio testun nad yw'n rhoi gwybod yn glir i'r defnyddiwr i le bydd y ddolen yn mynd â nhw. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1.
  • Mae gan rai tudalennau nifer o ddolenni cyswllt sy'n defnyddio'r un testun. Mae hyn yn ddryslyd pan fydd defnyddiwr yn cyrraedd i'r tudalennau gyda thechnoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.4 (Pwrpas Dolen (Mewn Cyd-destun)) CHCG 2.1.
  • Mae rhai rhestrau sydd ond yn cynnwys un eitem Golyga hyn bod posibilrwydd y bydd y bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol yn gweld y rhestrau’n ddryslyd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Cynnwys nad yw’n dod o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDF a dogfennau eraill

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni gyweirio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 oni bai eu bod yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Fideo byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd.

Beth ydym ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Mae ein map ffordd hygyrchedd yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd ar y wefan hon.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 20/08/2024. Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 20/08/2024.

Cafodd y wefan hon ei phrofi yn fwyaf diweddar ar 20/08/2024 yn erbyn safon AA CHCG [2.1].

Cafodd y prawf ei gynnal gan Brifysgol Aberystwyth. Profwyd y tudalennau a welwyd fwyaf gan ddefnyddio offer profi awtomataidd gan dîm ein gwefan. Cynhaliwyd archwiliad pellach o'r wefan i safon AA CHCG 2.2.