Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer y Swyddi Gwag Prifysgol Aberystwyth

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r holl dudalennau gwe sy’n dechrau https://studentrecord.aber.ac.uk/.

Rheolir y wefan hon gan Brifysgol Aberystwyth. Rydym yn dymuno i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, bwriedir eich bod yn gallu:

  • lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • does dim labeli gan y meysydd mewn ffurflenni
  • mae yna ddelweddau sydd heb ddewis amgen yn lle testun

I gael manylion, gweler ein Datganiad Hygyrchedd Technegol.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os bydd angen gwybodaeth o’r wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, a fyddech cystal â chysylltu â ni.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Os dewch o hyd i broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y tudalennau hyn neu os ydych yn meddwl nad ydym yn ateb gofynion hygyrchedd, chysylltu â ni.

Y drefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).