Datganiad Hygyrchedd

Datganiad Hygyrchedd ar gyfer “Report + Support” (Culture Shift)

Mae’r datganiad hwn yn berthnasol i’r holl dudalennau gwe sy’n dechrau reportandsupport.aber.ac.uk ac adroddachymorth.aber.ac.uk.

Mae Gwasanaeth Adrodd + Chymorth Prifysgol Aberystwyth yn cael ei ddefnyddio i roi gwybod am achosion o fwlio ac aflonyddu. Mae'r gwasanaeth yn cael ei redeg gan Brifysgol Aberystwyth ond mae’n cael ei ddarparu gan Culture Shift. Mae hyn yn golygu nad oes gennym reolaeth dros rai agweddau ar gynllun y gwasanaeth.

Mae cynnyrch Culture Shift yn cynnwys dwy wefan wahanol: gwefan gyhoeddus y gellir ei theilwra, a dangosfwrdd gweinyddol. Mae'r gwefannau hyn wedi'u creu yn y fath fodd fel eu bod yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, fersiwn 2.1 i safon AA (yn unol â chanllawiau llywodraeth y Deyrnas Unedig). Datganiad hygyrchedd Culture Shift.

Rydym yn dymuno i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, bwriedir eich bod yn gallu:

  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r gwasanaeth Adrodd a Chefnogaeth yn gwbl hygyrch. Er enghraifft, nid yw ffocws y bysellfwrdd yn glir bob amser.

I gael manylion, gweler ein datganiad hygyrchedd technegol.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os bydd angen gwybodaeth o’r wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, a fyddech cystal â chysylltu â ni.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Os dewch o hyd i broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y tudalennau hyn neu os ydych yn meddwl nad ydym yn ateb gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.

Y drefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon â’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).