Canllawiau ac Adnoddau Ieithyddol
Rhestrir isod adnoddau defnyddiol i'ch cefnogi i weithredu'n ddwyieithog.
Mailtip Outlook (‘Rwy’n siarad Cymraeg’)
Gall staff bellach gynnwys Mailtip ar broffiliau Outlook mewnol i ddynodi eu gallu yn y Gymraeg.
Ewch i https://myadmin.aber.ac.uk yna i’r ap Proffiliau Staff Ar-lein i nodi a ydych yn siarad Cymraeg, neu eich bod yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg a chadw eich newidiadau. Darllenwch ragor yn ein Cwestiynau Cyffredin.
Geirfa - Enwau Adrannau’r Brifysgol (Cymraeg/Saesneg)
Dyma rhestr o adrannau a gwasanaethau’r Brifysgol.
Byddwn yn diweddaru’r rhestr yn reolaidd. Os oes gennych unrhyw ymholiadau cysylltwch â cyfieithu@aber.ac.uk
| Enw Cymraeg | Enw Saesneg |
| AberYmlaen | AberForward |
| Academi Ddoethurol Aberystwyth | Aberystwyth Doctoral Academy |
| Adnoddau Dynol | Human Resources |
| Adran y Gwyddorau Bywyd | Department of Life Sciences |
| Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd | Department of Welsh and Celtic Studies |
| Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu | Theatre Film & Television Studies |
| Campws Arloesi a Menter Aberystwyth | Aberystwyth Innovation and Enterprise Campus |
| Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg | Centre for Welsh Language Services |
| Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth | Aberystwyth Arts Centre |
| Cyfadran y Dyniaethau | Faculty of Humanities |
| Cyfadran y Gwyddorau | Faculty of Sciences |
| Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus | Communications and Public Affairs |
| Cyfrifiadureg | Computer Science |
| Cyllid a’r Gwasanaethau Corfforaethol | Finance and Corporate Services |
| Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear | Geography and Earth Sciences |
| Datblygu a Chysylltiadau Alumni | Development & Alumni Relations |
| Dysgu Cymraeg | Learn Welsh |
| Dysgu Gydol Oes | Lifelong Learning |
| Ffermydd | Farms |
| Ffiseg | Physics |
| GwaithAber | AberWorks |
| Gwasanaethau Croeso | Hospitality Services |
| Gwasanaethau Gwybodaeth | Information Services |
| Gwasanaethau i Fyfyrwyr | Student Services |
| Gwasanaethau Masnachol | Commercial Services |
| Gweithrediadau Academaidd | Academic Operations |
| Gwleidyddiaeth Ryngwladol | International Politics |
| Hanes a Hanes Cymru | History & Welsh History |
| IBERS | IBERS |
| Ieithoedd Modern | Modern Languages |
| Llywodraethu | Governance |
| Marchnata a Denu Myfyrwyr | Global Marketing and Student Recruitment |
| Mathemateg | Mathematics |
| Rheoli Gwybodaeth, Llyfrgelloedd ac Archifau | Information Management, Libraries and Archives |
| Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol | English and Creative Writing |
| Seicoleg | Psychology |
| Swyddfa'r Is-Ganghellor | Vice Chancellor's Office |
| Y Ganolfan Chwaraeon | Sports Centre |
| Y Ganolfan Gerdd | Music Centre |
| Y Ganolfan Saesneg Ryngwladol | International English Centre |
| Y Gofrestrfa Academaidd | Academic Registry |
| Y Swyddfa Gyllid | Finance Office |
| Y Swyddfa Gynadleddau | Conference Office |
| Y Swyddfa Gynllunio | Planning Office |
| Ymchwil, Busnes ac Arloesi | Research, Business and Innovation |
| Yr Ysgol Addysg | School of Education |
| Yr Ysgol Filfeddygaeth | School of Veterinary Science |
| Yr Ysgol Gelf | School of Art |
| Ysgol Fusnes Aberystwyth | Aberystwyth Business School |
| Ysgol y Graddedigion | Graduate School |
| Ysgol y Gyfraith, Aberystwyth | Aberystwyth Law School |
| Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd | Estates, Facilities and Residences |
TermCymru
Cronfa ddata terminoleg yw TermCymru a grëwyd ac a gynhelir gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru.
Cysgliad
Pecyn cyfrifiadurol ar gyfer eich PC yw Cysgliad ac mae’n eich helpu i gywiro camgymeriadau ieithyddol yn Gymraeg ac yn cynnwys geiriadur. I lawr lwytho Cysgliad ar eich cyfrifiadur ewch i https://faqs.aber.ac.uk/index.php?id=696
To Bach
Mae To Bach yn rhaglen sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim o’r Ganolfan feddalwedd er mwyn hwyluso defnyddio tô bach. Drwy wasgu Alt Gr a llythyren, mae’n gosod to bach ar y llafariad e.e. â ê î ô û ŵ ŷ
|
Gwasgwch |
Symbol |
|
Alt Gr + a |
â |
|
Alt Gr + e |
ê |
|
Alt Gr + o |
ô |
|
Alt Gr + i |
î |
|
Alt Gr + y |
ŷ |
|
Alt Gr + w |
ŵ |
|
Alt Gr + û |
û |
Y Porth
Llwyfan e-ddysgu ar gyfer y Sector Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg yw Y Porth sy’n cynnwys adnoddau dysgu ac addysgu a gwybodaeth am fodiwlau cydweithredol a ddysgir drwy’r Gymraeg.
Mae'r wefan yn hwyluso cydweithio rhwng Sefydliadau Addysg Uwch ac mae’r Brifysgol yn cynnig ac yn manteisio ar fodiwlau cydweithredol. Ceir nifer o adnoddau agored a chyfyngedig ar y wefan hon ac fe’i defnyddir gan fyfyrwyr sy’n astudio drwy’r Gymraeg.
Gwerddon
Cyfnodolyn academaidd ar-lein sy’n cyhoeddi erthyglau ysgolheigaidd yn y Gwyddorau, y Celfyddydau a’r Dyniaethau yw Gwerddon.
Sgiliau astudio ar gyfer myfyrwyr
Isod ceir cyfres o daflenni cymorth yn seiliedig ar weithdai a gyflwynwyd gan yr awdur Elin ap Hywel.
