Cyfryngau Cymdeithasol

O dan Fesur y Gymraeg [Cymru] 2011 mae dyletswydd statudol ar Brifysgol Aberystwyth i gydymffurfio â dwy Safon Cyflenwi Gwasanaethau sy’n ymwneud â’r Cyfryngau Cymdeithasol. Mae’r Safonau hyn wedi’u gosod er mwyn rhoi’r hawl i aelodau o'r cyhoedd a myfyrwyr ddefnyddio’r Gymraeg wrth dderbyn gwybodaeth gan, a chyfathrebu â'r Brifysgol trwy gyfrwng cymdeithasol. Yn ôl y Safonau (rhif 62 a 63) rhaid i’r Brifysgol beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg ac ateb yn Gymraeg i unrhyw gyswllt a wnaethpwyd yn Gymraeg (os oes angen ateb).

Diffinio Cyfryngau Cymdeithasol

Diffinnir y term ‘cyfryngau cymdeithasol’ fel gwefan neu raglen sy’n galluogi defnyddwyr i greu a rhannu cynnwys neu i gymryd rhan mewn rhwydweithio cymdeithasol e.e.

  • Facebook
  • X (Twitter)
  • TikTok
  • LinkedIn
  • Bluesky
  • Instagram
  • Threads
  • YouTube

Pa Gyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol sy’n Ddarostyngedig i’r Safonau?

Mae’r Safonau yn berthnasol i ddefnydd y Brifysgol o’r holl gyfryngau cymdeithasol.
Mae hyn yn cynnwys:

  • cyfrifon corfforaethol
  • cyfrifon adrannol
  • cyfrifon staff unigol os ydynt yn gweithredu ar ran neu yn enw’r Brifysgol.

Ar gyfer cyfrifon cyfryngau cymdeithasol unigolion, nad ydyn nhw’n gysylltiedig yn unig â’u gwaith, gellir defnyddio dewis iaith yr unigolyn.

Sut i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Er mwyn sicrhau na fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol gyda’r cyfryngau cymdeithasol gellir gwneud un o’r canlynol:

  • cael cyfrif cyfryngau cymdeithasol ar wahân, un i bob iaith, sy’n cael eu diweddaru ar yr un pryd ac sydd â’r un cynnwys,
  • cael un cyfrif dwyieithog lle diweddarir y Gymraeg a’r Saesneg yr un pryd,
  • cael un cyfrif sydd yn cynhyrchu'r un faint o gynnwys yn Gymraeg ag yn Saesneg, ond nad yw’r cynnwys hynny o anghenraid yn gyfieithiad o’r naill iaith i’r llall.

Mae’r uchod yn wir ar gyfer cynnwys sydd yn ddeunydd parhaol ar y cyfrif e.e.

  • testun bywgraffiad (‘bio’) ar gyfrif X neu Instagram
  • testun am y cyfrif yn adran ‘Gwybodaeth’ Facebook

a hefyd ar gyfer deunydd dros dro lle mae negeseuon yn diflannu ar ôl cyfnod penodol o amser e.e.

  • Instagram Story
  • Facebook Story

Os gweithredir cyfrifon Cymraeg a Saesneg ar wahân dylid:

  • Ei gwneud hi’n glir ar y cyfrif Saesneg bod cyfrif cyfatebol yn y Gymraeg yn bodoli. (e.e. drwy ddarparu dolen uniongyrchol at y cyfrif Cymraeg ar y cyfrif Saesneg cyfatebol).
  • Fel arfer da, gellid hyrwyddo a thynnu sylw i’r cyfrif Cymraeg o dro i dro ar y cyfrif Saesneg e.e. trwy ail bostio’r neges Gymraeg gyda sylw.

Dolenni o’r Cyfrif Cyfryngau Cymdeithasol at Adnoddau Eraill

Os bydd dolen yn mynd o’r cyfrif at adnodd arall e.e. dogfen neu wefan, dylid:

  • gwirio a oes fersiwn Gymraeg o’r adnodd hwnnw, ac os oes fersiwn Gymraeg dylid:
  • darparu dolen i’r fersiwn Gymraeg o’r cyfrif Cymraeg

Os nad oes fersiwn Gymraeg ar gael ac fe luniwyd yr adnodd gan y Brifysgol dylid gwirio a ddylai’r adnodd fod ar gael yn Gymraeg yn unol â’r Safonau. Cysylltwch â Chanolfan Gwasanaethau’r Gymraeg am gyngor ar canolfangymraeg@aber.ac.uk.

Clipiau Fideo a Sain

Os bydd y cyfrif yn darparu clipiau fideo a/neu sain mae angen iddynt fod ar gael yn Gymraeg os ydynt yn:

  • hysbysebu gwasanaethau’r Brifysgol
  • rhoi cyhoeddusrwydd i’r Brifysgol

Mewn fideo sy’n cynnwys troslais, dylech sicrhau fod yna droslais Cymraeg ar y fersiwn Gymraeg yn lle defnyddio is-deitlau.

Os bydd y clipiau yn cael eu darparu gan gorff allanol h.y. nid ydynt yn ymwneud â’r Brifysgol, dylid gwirio a oes fersiwn Gymraeg ar gael a defnyddio'r rheini os ydynt ar gael.

Rhannu Negeseuon

Nid oes rhaid cyfieithu negeseuon a gyflwynir gan bersonau eraill ar y cyfrifon. Gall negeseuon o’r fath gynnwys gwybodaeth a gyflwynir:

  • mewn ystafelloedd sgwrsio
  • ar adran ar gyfer sylwadau, neu
  • fforwm drafod.

Os bydd cyfrif yn ail-drydar ar Twitter neu yn rhannu gwybodaeth a ddaw gan bersonau eraill ar Facebook, a bod y neges wreiddiol yn Saesneg, nid oes rhaid ei chyfieithu i’r Gymraeg. Os yw’r neges ar gael yn Gymraeg (e.e. gan sefydliad Cymreig megis Llywodraeth Cymru) dylech rannu’r fersiwn Gymraeg hefyd. I sicrhau fod yr un cynnwys ar eich cyfrif Cymraeg a’ch cyfrif Saesneg (os ar wahân), dylech rannu’r neges allanol (Saesneg) ar eich cyfrif Cymraeg hefyd ond cynnwys neges yn Gymraeg i fynd gyda’r neges (‘quote’ yn lle ail-drydar yn unig).

Gohebu drwy’r Cyfryngau Cymdeithasol

Mae’r Safonau sydd yn ymwneud â gohebiaeth yn berthnasol i ohebiaeth a dderbynnir trwy’r cyfryngau cymdeithasol hefyd. Felly dylid:

  • ateb yn Gymraeg i ohebiaeth a dderbynnir yn Gymraeg (os oes angen ateb)
  • gwneud hi’n glir bod croeso i bobl ohebu â’r Brifysgol yn Gymraeg.