Cyfieithu (Testun)
Nod yr Uned Gyfieithu yw rhoi gwasanaeth parod ac effeithiol, i adrannau a gwasanaethau’r Brifysgol, gan sicrhau bod pob cyfieithiad o'r ansawdd uchaf. Cynigir Gwasanaeth Cyfieithu Cymraeg > Saesneg a Saesneg > Cymraeg i holl adrannau academaidd a gweinyddol Prifysgol Aberystwyth.
Gwneud Cais am Gyfieithu
Mae gan yr Uned Gyfieithu ffurflen gais ar lein a system llif gwaith. Mae’r system hon yn caniatáu i gwsmeriaid gadw golwg ar y gwaith a anfonwyd, gan fod pob darn o waith y mae cwsmer yn ei anfon yn cael ei ddangos ar eu cofnod personol. Mae'r ddogfen wreiddiol a'r cyfieithiad yn cael eu cadw ar weinydd y Brifysgol am 5 mlynedd.
Dylai pob darn o waith a anfonir i’w gyfieithu ddod drwy’r system hon yn hytrach na’r e-bost ond mae croeso i chi barhau i ddefnyddio’r e-bost cyfieithu@aber.ac.uk ar gyfer unrhyw ymholiadau/cwestiynau. Mae’r ffurflen gais ar lein yn caniatáu i chi gynnwys sylwadau hefyd.
Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw mewngofnodi i https://myadmin.aber.ac.uk/ yna clicio ar Cyfieithu yna’r botwm glas ‘Creu Cais am Gyfieithiad’.
Os ydych yn fyfyriwr ac angen cymorth i gyfieithu dogfen sy’n gysylltiedig â’ch gwaith ymchwil academaidd, cysylltwch â cyfieithu@aber.ac.uk i drafod eich anghenion.
Amserlen
Anogir staff ac adrannau i flaengynllunio a chaniatáu amserlen resymol ar gyfer gwaith cyfieithu. Mae’r amserlen o ran dychwelyd cyfieithiadau yn ddibynnol ar ein llwyth gwaith a blaenoriaethau’r ceisiadau, felly os yw eich cais yn un brys cysylltwch â’r Ganolfan i drafod.
Golygu
Anogir staff adrannau a swyddfeydd i gysylltu â’r Ganolfan hefyd os hoffent iddynt edrych dros ddarn o waith y maent wedi ei gyfieithu eu hunain neu wedi ei ysgrifennu yn Gymraeg cyn iddo ymddangos yn gyhoeddus er mwyn sicrhau bod y gwaith yn gywir a bod pob gair a threiglad yn eu lle!
Diweddaru Cyfieithiadau
Os ydych yn anfon dogfen sydd eisoes wedi ei chyfieithu er mwyn diweddaru neu ychwanegu at y manylion gofynnir ichi nodi pa rannau o’r ddogfen sydd wedi newid drwy ddefnyddio lliw gwahanol neu ddull amlwg arall. Cofiwch anfon y fersiwn Cymraeg atom hefyd.
Golygu
Rydym yn annog staff sy’n medru gwneud hynny i baratoi llythyron/dogfennau yn ddwyieithog. Mae croeso i staff anfon fersiynau Cymraeg o lythyron/dogfennau a baratoir ganddynt i’w gwirio neu eu golygu. Mae’n ddefnyddiol inni dderbyn y fersiynau Saesneg yn yr achosion hyn hefyd er mwyn cymharu testun y ddwy iaith.
Cyfieithu ar Gyfer Prosiectau a Ariannir yn Allanol
Bydd y Ganolfan yn codi tâl am waith cyfieithu i brosiectau a ariannir yn allanol ac o ganlyniad gofynnir i staff ac adrannau sy’n gwneud ceisiadau am arian prosiect gofio bod gofyn costio’r anghenion cyfieithu yn rhan o’r prosiect.
Mae’n arfer dda i gysylltu â’r Ganolfan wrth lunio cais er mwyn cadarnhau pa agweddau o’r gwaith y dylid eu darparu’n ddwyieithog a beth fydd y gost a’r amserlen ar gyfer hyn. Yn arferol codir £75 fesul 1000gair ar gyfer prosiectau a ariannir yn allanol.
Myfyrwyr
Os oes angen cymorth arnoch i gyfieithu dogfen sy’n gysylltiedig â’ch gwaith ymchwil academaidd mae’n bosibl y gallwn eich helpu. Cysylltwch yn uniongyrchol â cyfieithu@aber.ac.uk i drafod eich anghenion gan nodi nifer y geiriau sydd i’w cyfieithu a’r amserlen.
Mae gan Undeb Aber hefyd wasanaeth cyfieithu.