Cyfieithu ar y Pryd

Yn unol â gofynion statudol Safonau’r Gymraeg a pholisi mewnol y Brifysgol ar ddefnyddio’r Gymraeg, mae Canolfan Gwasanaethau’r Gymraeg yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd.

Mae cyfieithu ar y pryd yn caniatáu i’r Brifysgol drin pawb yn gyfartal trwy roi'r hawl i bobl siarad yn eu dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg) yn ei chyfarfodydd, ei phwyllgorau ac mewn llu o sefyllfaoedd a digwyddiadau eraill. Mae’n sicrhau y gall pobl ddefnyddio’u dewis iaith yn gwbl naturiol a rhwydd. Fel rheol, rydym yn cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg er mwyn i siaradwyr Cymraeg allu cyfrannu at gyfarfodydd/digwyddiadau yn eu dewis iaith. Fodd bynnag, dan amgylchiadau arbennig, megis wrth ymdrin â chwynion ac achosion disgyblu, neu mewn sefyllfaoedd sy’n ymwneud â lles neu fuddiant personol, rydym yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o’r Saesneg i’r Gymraeg hefyd.

Beth yw cyfieithu ar y pryd?

Ystyr ‘Cyfieithu ar y Pryd’ yw cyfieithu o’r naill iaith i’r llall tra bo rhywun yn siarad. Mae’n wahanol i ôl-gyfieithu, pan fo’r cyfieithydd yn crynhoi ar ôl i’r siaradwr lefaru sawl brawddeg. Trwy ddefnyddio offer cyfieithu, mae’n bosib cyfieithu ar yr un pryd â’r siaradwr, sy’n golygu na fydd y cyfarfod yn para’n rhy hir.

Yng Nghymru, rydym fel rheol yn cyfieithu o’r Gymraeg i’r Saesneg am fod siaradwyr Cymraeg yn deall Saesneg. Mae hyn yn golygu mai gwasanaeth ar gyfer pobl ddi-gymraeg neu brin eu Cymraeg yw hyn. Mae’r gwasanaeth yn golygu bod siaradwyr Cymraeg yn cael siarad eu dewis iaith a bod pobl ddi-gymraeg neu brin eu Cymraeg yn gallu cymryd rhan yn y cyfarfod heb drafferth ac yn ddi-rwystr.

Mewn sefyllfaoedd lle gall unigolyn fod o dan straen arbennig, neu mewn cyfarfodydd sy’n ymwneud â lles unigolyn (e.e. os yw rhywun yn destun cwyn neu drefn ddisgyblu), mae’r arfer o gynnig cyfieithu ar y pryd o’r Saesneg i’r Gymraeg yn ogystal ag o’r Gymraeg i’r Saesneg yn sicrhau bod yr unigolyn yn cael y cyfle gorau posib trwy gyfrwng ei ddewis iaith. Fodd bynnag, er mwyn galluogi hyn, dylid defnyddio dau gyfieithydd, a’r arfer orau yw ceisio trefnu mai dim ond siaradwyr Cymraeg sy’n bresennol, os yw hynny’n bosibl, fel y gellir cynnal y cyfarfod yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg heb gymorth cyfieithwyr.

A oes angen i mi drefnu cyfieithu ar y pryd?

Mae canllawiau ar gael sy’n esbonio pryd mae angen trefnu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd – cyfarfodydd a digwyddiadau.

Rydym hefyd yn darparu cyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd, digwyddiadau a darlithoedd cyhoeddus. Ymhlith y cyfarfodydd a’r pwyllgorau y trefnir cyfieithu ar y pryd ar eu cyfer mae’r canlynol:

  • Llys, Cyngor a Senedd y Brifysgol, a’r pwyllgorau sy'n ateb iddynt
  • Byrddau adrannol
  • Cyfweliadau/gwrandawiadau/cyfarfodydd sy’n ymwneud â staff neu fyfyrwyr
  • Asesiadau/seminarau myfyrwyr
  • Cynadleddau a chyfarfodydd a drefnir gan adrannau
  • Digwyddiadau/darlithoedd cyhoeddus

Anogir adrannau i ystyried gofynion dwyieithrwydd wrth drefnu pwyllgorau neu gyfarfodydd mewnol ac allanol.

Gwneud cais am gyfieithydd ar y pryd

Os ydych am wneud cais am wasanaeth cyfieithu ar y pryd, cysylltwch â’r Ganolfan drwy e-bostio cyfieithu@aber.ac.uk, a gallwn drafod eich gofynion. Wrth archebu’r gwasanaeth, gofynnwn ichi gynnwys y wybodaeth ganlynol yn eich cais:

  1. dyddiad y cyfarfod/digwyddiad
  2. lleoliad
  3. amser cychwyn a gorffen
  4. natur y digwyddiad neu gyfarfod
  5. os taw wyneb-yn-wyneb a/neu heibrid
  6. faint o bobl y bydd angen y gwasanaeth cyfieithu arnynt
  7. unrhyw bapurau perthnasol

Gofynnwn ichi wneud y cais o leiaf bythefnos cyn y cyfarfod/digwyddiad.

Mae’n hanfodol ein bod yn cael unrhyw waith papur ymlaen llaw er mwyn i’r cyfieithydd allu paratoi’n ddigonol ar gyfer y cyfarfod neu ddigwyddiad. Mae hyn yn arbennig o wir am gyflwyniadau, cyfweliadau, seminarau ymchwil a chynadleddau. 

Gyda chyfweliadau a chyflwyniadau, bydd angen ichi wybod ymlaen llaw pwy sy’n bwriadu siarad Cymraeg. Os bydd mwy nag un yn cymryd rhan, dylech geisio sicrhau bod y rhai sy’n bwriadu siarad/cyflwyno yn Gymraeg yn dilyn ei gilydd ar yr amserlen er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o amser y cyfieithydd.

Mae gan Ganolfan Gwasanaethau’r Gymraeg gyfieithydd ar y pryd mewnol. Os nad yw’r cyfieithydd ar gael, byddwn yn trefnu cyfieithydd allanol ar eich rhan. Noder y bydd angen talu am y gwasanaeth allanol hwn.

Offer cyfieithu

Mae gan y Brifysgol offer cyfieithu radio digidol. Mae hon yn system hylaw a hyblyg iawn sy’n ein galluogi ni i ddarparu ein gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn pob math o ddigwyddiadau a lleoliadau.

Cyngor pellach

Cysylltwch â Chanolfan Gwasanaethau’r Cymraeg: cyfieithu@aber.ac.uk.